Part of 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit – Senedd Cymru am 2:26 pm ar 16 Ionawr 2019.
Mae Gweinidogion Cymru wedi trafod materion yn ymwneud â Brexit gyda Llywodraeth Iwerddon, a hynny'n bennaf trwy'r Cyngor Prydeinig-Gwyddelig a fynychais i ar 9 Tachwedd 2018. Rwyf hefyd wedi cysylltu â'm Gweinidog cyfatebol yn Llywodraeth Iwerddon i gychwyn rhagor o ddeialog ac adeiladu ar y cysylltiadau agos sy'n bodoli yn barod.