2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit – Senedd Cymru ar 16 Ionawr 2019.
2. Pa drafodaethau y mae’r Cwnsler Cyffredinol wedi’u cael gyda Llywodraeth Iwerddon ynglŷn â Brexit? OAQ53208
Mae Gweinidogion Cymru wedi trafod materion yn ymwneud â Brexit gyda Llywodraeth Iwerddon, a hynny'n bennaf trwy'r Cyngor Prydeinig-Gwyddelig a fynychais i ar 9 Tachwedd 2018. Rwyf hefyd wedi cysylltu â'm Gweinidog cyfatebol yn Llywodraeth Iwerddon i gychwyn rhagor o ddeialog ac adeiladu ar y cysylltiadau agos sy'n bodoli yn barod.
Rwy'n ddiolchgar i'r Cwnsler Cyffredinol am yr ymateb yna. Gaf i ei annog ef i barhau i ymgysylltu â Llywodraeth Iwerddon? Fel y soniais i ddoe, roeddwn i a Rhun ap Iorwerth wedi medru cwrdd â gwleidyddion ar draws y sbectrwm gwleidyddol yn y Weriniaeth yr wythnos diwethaf, gan gynnwys Helen McEntee, y Gweinidog Brexit. Gaf i ofyn iddo fe—a gwnes i gyffwrdd â hwn ddoe—ynglŷn ag erthygl 50, a'r galwad gan Lywodraeth Cymru, a Llywodraeth yr Alban, wrth gwrs, i Lywodraeth Prydain i ymestyn erthygl 50? Gaf i ofyn: a fyddai fe'n fodlon cyflwyno'r neges yna hefyd i Weriniaeth Iwerddon gan fod angen cael cydsyniad yr holl aelod-wladwriaethau o fewn yr Undeb Ewropeaidd pe bai'r cais yna yn dod gan Lywodraeth Prydain fel ŷm ni eisiau? Ar fater ehangach, a phe bai Brexit yn dal yn digwydd, pa waith sydd wedi cael ei wneud, er enghraifft, i edrych ar gynllun INTERREG neu rywbeth cyfatebol i'r dyfodol, fel sy'n bosib, wrth gwrs, yn achos Norwy a Sweden, hyd yn oed yn cynnwys gwledydd sydd tu fas i'r Undeb Ewropeaidd?
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn hwn. O ran erthygl 50, rŷm ni'n cymryd pob cyfle, wrth gwrs, i sicrhau bod Llywodraethau yn deall ein safbwynt ni ynglŷn â hynny. Roedden ni'n galw mwy yn ddiweddar ar y Prif Weinidog yn San Steffan i sicrhau estyniad o hynny i ganiatáu i'r trafodaethau ymhelaethu.
O ran y berthynas gydweithredol rhwng Cymru ac Iwerddon, mae'r Aelod yn sôn am INTERREG; mae gyda ni, wrth gwrs, berthynas agos gydag Iwerddon trwy hynny, a thrwy'r cynlluniau cydweithredu cyffredinol. Mae'r cynllun cyfredol yn pwysleisio gwaith o ran newid hinsawdd a diwylliant ac ati, ac mae'r pethau hynny'n bwysig iawn o ran cryfhau'r berthynas a sicrhau'r cyfleoedd economaidd yma. Rŷm ni eisiau sicrhau bod y cydweithio hynny yn parhau hyd yn oed ar ôl Brexit ac yn ymestyn tu hwnt i'r cynlluniau cyfredol os yw hynny yn bosib. Rŷm ni'n sicr yn ein barn bod gyda ni ymroddiad llwyr i gryfhau'r berthynas rhwng Cymru ac Iwerddon.
Lansiodd Llywodraeth Cymru ei gwefan Brexit ar gyfer busnesau ym mis Medi 2018, ac fe ddywedoch yn eich datganiad ddoe eich bod yn gobeithio cael porth pellach yn weithredol o fewn ychydig ddyddiau. Lansiodd Llywodraeth Iwerddon ei gwefan prepareforbrexit.com ym mis Mehefin 2016, o fewn wythnos i'r refferendwm, ac mae wedi bod yn cynnig grantiau o hyd at €5,000 i helpu busnesau bach a chanolig i baratoi ar gyfer Brexit ers chwarter cyntaf 2017. A oes unrhyw beth y gallai Llywodraeth Cymru ei ddysgu gan Lywodraeth Iwerddon o ran amseroldeb yn y maes hwn?
Rydym wedi aros am ddwy flynedd i glywed beth yw barn Llywodraeth y DU ynglŷn ag ar ba sail y dylem adael yr Undeb Ewropeaidd—dwy flynedd. Ddwy flynedd yn ôl, lansiodd y Llywodraeth hon, ynghyd â Phlaid Cymru, bapur a nodai, gyda sylfaen dystiolaeth glir iawn, y math o berthynas y dylai Cymru ei chael gyda'r Undeb Ewropeaidd ar ôl Brexit. Roeddem yn gallu gwneud hynny ddwy flynedd yn ôl, drwy weithio gyda'n gilydd, a dilynwyd hynny gan amrywiaeth o safbwyntiau polisi o sylwedd yn seiliedig ar dystiolaeth, ac sydd wedi llwyddo i argyhoeddi. A'r cwestiwn yw pam na allodd Llywodraeth y DU wneud yr un peth. Ar fater amseroldeb, fel y dywedais yn y Siambr, mae gennym adnodd ar-lein y bwriadwn ei lansio yn yr ychydig ddyddiau nesaf, a bydd hwnnw, gobeithio, yn rhoi dealltwriaeth eglur i bobl Cymru ynglŷn â beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud o ran parodrwydd.
Gwnsler Cyffredinol, rwy'n falch o glywed eich bod yn cael cyfarfodydd neu'n trefnu cyfarfodydd gyda'ch swyddogion cyfatebol yn Iwerddon ac yn trafod, oherwydd os cawn sefyllfa 'dim bargen', neu hyd yn oed ein bod yn cael cytundeb a bod yr ôl-stop yn dod yn weithredol, bydd ffin i lawr canol Môr Iwerddon, ac mae angen inni gydnabod hynny. Ond a gaf fi ofyn i chi hefyd gyfarfod â'ch swyddog cyfatebol—gwn nad oes gennym swyddog cyfatebol, ond yr unigolion cyfatebol yng Ngogledd Iwerddon? Pan euthum yno i siarad â'r partïon yng Ngogledd Iwerddon, roedd yn eithaf clir fod llawer o fusnesau'n defnyddio porthladdoedd Gweriniaeth Iwerddon i gyrraedd Ewrop drwy borthladdoedd Cymru. Fel y cyfryw, bydd her enfawr i'r sefyllfa honno, pa un a ydynt yn teithio i lawr drwy Ddulyn ac ymlaen i Gaergybi, neu'n croesi draw i'r Alban. Mae'n bwysig, felly, ein bod yn rhoi sylw i'r problemau sy'n eu hwynebu hwy hefyd, er mwyn sicrhau, os oes ffin ym Môr Iwerddon, na fydd yn rhaid iddynt groesi dwy ffin i gyrraedd Gogledd Iwerddon. Ac mae'n effeithio ar borthladdoedd Cymru.
Diolch i'r Aelod am ei gwestiwn. Un o'r pwyntiau y mae angen eu hegluro yng nghynigion Llywodraeth y DU yw ei chyfeiriad at gynnal archwiliadau yn y ffordd leiaf ymwthiol sy'n bosibl. Mae angen deall hynny'n well. Ond wrth gwrs, pe bai'r math o gynigion rydym wedi dadlau drostynt yma yn cael eu mabwysiadu, ni fyddai mater yr ôl-stop yn codi. Ac er bod yr ôl-stop yn bryder hollol ddilys i'r UE a Llywodraeth y DU er mwyn sicrhau nad oes ffin galed ar ynys Iwerddon, y senario orau bosibl fyddai nad oes angen hynny o gwbl gan fod gennym set o drefniadau sy'n cynnwys undeb tollau rhwng y DU a'r UE.