Trafodaethau gyda Llywodraeth Iwerddon

Part of 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit – Senedd Cymru am 2:31 pm ar 16 Ionawr 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 2:31, 16 Ionawr 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch i'r Aelod am ei gwestiwn. Un o'r pwyntiau y mae angen eu hegluro yng nghynigion Llywodraeth y DU yw ei chyfeiriad at gynnal archwiliadau yn y ffordd leiaf ymwthiol sy'n bosibl. Mae angen deall hynny'n well. Ond wrth gwrs, pe bai'r math o gynigion rydym wedi dadlau drostynt yma yn cael eu mabwysiadu, ni fyddai mater yr ôl-stop yn codi. Ac er bod yr ôl-stop yn bryder hollol ddilys i'r UE a Llywodraeth y DU er mwyn sicrhau nad oes ffin galed ar ynys Iwerddon, y senario orau bosibl fyddai nad oes angen hynny o gwbl gan fod gennym set o drefniadau sy'n cynnwys undeb tollau rhwng y DU a'r UE.