Part of 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit – Senedd Cymru am 2:35 pm ar 16 Ionawr 2019.
Fe geisiaf amlinellu ein safbwynt eto. Rydym wedi galw ar Brif Weinidog y DU i estyn allan ar draws Tŷ'r Cyffredin i geisio dod o hyd i sail ar gyfer cytuno ar gytundeb gwell. Mae hi wedi dweud ddoe ei bod hi'n bwriadu gwneud hynny. Dylai wneud hynny, a chynnwys meinciau blaen y gwrthbleidiau i wneud hynny. Dylai anghofio'r llinellau coch y mae wedi eu mynnu—yn ddi-fudd mewn llawer o achosion—dros y ddwy flynedd ddiwethaf, a dylai gydnabod mai'r hyn sydd ei angen yw ailysgrifennu'r datganiad gwleidyddol yn sylfaenol, nid tincran ar yr ymylon. Os bydd hynny'n methu, ac os nad oes modd sicrhau etholiad cyffredinol, yna, yn yr amgylchiadau hynny, rydym bob amser wedi dweud mai pleidlais gyhoeddus yw'r ffordd orau o ddatrys y mater. Ond mae hynny'n ei gwneud yn ofynnol inni roi lle i'r drafodaeth honno ddigwydd, a byddwn yn dal y Prif Weinidog at ei gair y bydd honno'n drafodaeth ystyrlon.