Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit – Senedd Cymru am 2:34 pm ar 16 Ionawr 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Adam Price Adam Price Plaid Cymru 2:34, 16 Ionawr 2019

(Cyfieithwyd)

Gallaf ddeall, yn gyffredinol, pam nad yw Gweinidogion wrth y pulpud am gael eu denu i ddyfalu ynghylch pethau damcaniaethol, ond mae hyn yn rhywbeth deuaidd mewn perthynas â phleidlais ymhen ychydig oriau'n unig, yng nghyd-destun ehangach cloc sy'n tician, sydd bellach i lawr i 73 diwrnod. Felly, credaf y bydd y Gweinidog yn deall pam fod angen eglurder arnom ynglŷn â'r hyn y bydd Llywodraeth Cymru yn ei wneud mewn ymateb i'r canlyniad sydd bron â bod yn anochel yn ddiweddarach heno.

Nawr, mae'n amlwg, o ran argyfwng cynyddol Brexit, fod ein hamser yn dirwyn i ben. Tacteg Mrs May yw gohirio penderfyniad cyhyd ag y bo modd—ceisio gorfodi dewis rhwng ei chytundeb hi a dim bargen, ac yn wir, fe fethodd y dacteg honno neithiwr. Y cwestiwn allweddol bellach yw a yw Jeremy Corbyn yn mabwysiadu'r un dacteg wrth geisio osgoi'r hyn sy'n broblem anodd iddo ef, wrth gwrs, sef pleidlais y bobl. Felly, a all y Cwnsler Cyffredinol gadarnhau, o leiaf, na fyddech yn cefnogi'r syniad sy'n cael ei grybwyll mewn rhai cylchoedd o gynnal sawl pleidlais o ddiffyg hyder dros yr ychydig wythnosau nesaf, gan y gallai hynny, wrth gwrs, fynd â ni'n beryglus o agos at 29 Mawrth, heb obaith o ddatrys y broblem?