Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit – Senedd Cymru am 2:40 pm ar 16 Ionawr 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 2:40, 16 Ionawr 2019

(Cyfieithwyd)

Mae yna eisoes rwydwaith o bresenoldeb mewn tiriogaethau allweddol ledled y byd. Mae hynny wedi bod ar waith ers peth amser. Yn amlwg, mae wedi'i gryfhau'n ddiweddar. Credwn yn gryf mai'r cysylltiadau masnachu gorau yn y dyfodol i Gymru yw rhai sy'n deillio o gyfranogiad llawn yn undeb tollau'r Undeb Ewropeaidd, aliniad â'r undeb hwnnw, ac aelodaeth ohono. Ond rydym yn awyddus iawn i sicrhau ein bod yn manteisio ar bob cyfle posibl i hyrwyddo achos Cymru'n rhyngwladol fel cyrchfan ar gyfer buddsoddi a chyfleoedd masnachu i'n busnesau yma allu allforio mewn amgylchiadau a fydd, os ydym ar y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd yn y pen draw, gryn dipyn yn anos iddynt.