Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit – Senedd Cymru am 2:41 pm ar 16 Ionawr 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Darren Millar Darren Millar Conservative 2:41, 16 Ionawr 2019

(Cyfieithwyd)

Rydym ar y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd, neu rwy'n gobeithio y byddwn, am mai dyna y pleidleisiodd pobl Cymru drosto'n bendant iawn. Ond a ydych yn cytuno â mi ei fod yn fater o bryder fod ein masnach â gwledydd fel India a Japan wedi bod yn methu yn y blynyddoedd diwethaf, ac a wnewch chi groesawu penderfyniad Llywodraeth Japan, o ganlyniad i waith Llywodraeth Prydain mewn perthynas ag allforion cig eidion a chig oen, sydd bellach yn agor cyfleoedd i ffermwyr Cymru allu gwerthu eu cig eidion a'u cig oen i farchnad Japan o 127 miliwn o bobl? A fyddech yn cytuno â mi fod cyfleoedd i gynrychiolwyr masnach, os cânt eu sefydlu yn llysgenadaethau Prydain, wneud yn siŵr y gellir ailadrodd y math hwn o lwyddiant ac y gall cyfleoedd pellach ddeillio ohono i fusnesau Cymru?