Part of 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit – Senedd Cymru am 2:45 pm ar 16 Ionawr 2019.
Na, dim o gwbl. Wrth gwrs nad wyf yn gwneud hynny. Yr unig beth rwy'n ei ddweud yw na fyddem yn wynebu, wrth negodi, yr anawsterau y cyfeiriodd atynt, yn ôl honiadau'r Canadiaid y bu'n siarad â hwy'n ddiweddar. Nid oes rhaid inni negodi o sefyllfa lle nad oes gennym unrhyw gytundebau o gwbl gyda'r UE. Rydym yn rhan ohono, felly dylai fod yn llawer symlach i ni ymrwymo i gytundeb mwy hirdymor, yn enwedig gan fod gennym ddiffyg masnach o £67 biliwn y flwyddyn gyda'r UE ar hyn o bryd. Mae gallu masnachu mor rhydd â phosibl gyda ni yr un mor fuddiol iddynt hwy ag yw hi i ninnau fasnachu gyda hwythau. Mae'n wir fod gan y Comisiwn Ewropeaidd fuddiannau gwahanol i bobl a busnesau Ewrop gan eu bod ynghlwm wrth eu prosiect integreiddio gwleidyddol enfawr ar draul pobl Ewrop, fel y dengys prosiect yr ewro yn glir, a'r dinistr a gafwyd yn ei sgil mewn sawl gwlad yn ne Ewrop.