Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit – Senedd Cymru am 2:46 pm ar 16 Ionawr 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 2:46, 16 Ionawr 2019

(Cyfieithwyd)

Wel, mae'n rhaid imi ddweud na fyddai busnesau ledled Cymru sy'n pryderu am eu hallforion ar ôl Brexit yn rhannu barn yr Aelod. O edrych ar ffigurau Llywodraeth y DU ei hun hyd yn oed, fel y soniais yn gynharach, maent yn dangos bod unrhyw werth ychwanegol posibl i'r economi yn sgil mwy o hyblygrwydd, fel y byddent yn ei ddisgrifio, yn ddim o gymharu â'r ergyd i'r economi o ganlyniad i golli marchnadoedd.