Part of 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit – Senedd Cymru am 2:51 pm ar 16 Ionawr 2019.
Cafwyd adroddiadau tua diwedd y llynedd fod nifer yr achosion o droseddau casineb a gofnodwyd yng Nghymru a Lloegr wedi codi 17 y cant i 94,000 dros y 12 mis hyd at fis Mawrth y llynedd. Dywed y Swyddfa Gartref y gellir priodoli'r cynnydd mawr a welwyd dros y pum mlynedd diwethaf yn rhannol i'r gwelliannau yn y ffordd y cofnodir troseddau, ond maent yn cydnabod y bu cynnydd sydyn yn syth wedi refferendwm yr UE. Nawr, nid oes gennyf unrhyw amheuaeth, ac o fy mhrofiad fy hun fod cymdeithas wedi mynd yn llai cyfeillgar tuag at fenywod a lleiafrifoedd ers ymgyrch y refferendwm hwnnw, ac adlewyrchir hyn yn y cyfryngau cymdeithasol yn enwedig. A wnaiff eich Llywodraeth gyfleu neges gadarn yn condemnio troseddau casineb o'r fath, a sicrhau bod dioddefwyr yn ymwybodol o ba wasanaethau cymorth, os o gwbl, sydd ar gael iddynt? Ac a fyddech hefyd yn barod i gychwyn sgwrs gyda'r cwmnïau cyfryngau cymdeithasol er mwyn sicrhau y rhoddir camau ar waith ar unwaith i ddileu troseddau casineb ar-lein?