2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit – Senedd Cymru ar 16 Ionawr 2019.
4. Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda'r Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip ynghylch sut y bydd Llywodraeth Cymru yn diogelu menywod a lleiafrifoedd rhag troseddau casineb yn dilyn Brexit? OAQ53207
Rwyf wedi cael trafodaeth ragarweiniol ynglŷn â'r materion hyn gyda'r Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip, a byddaf yn cyfarfod â hi eto yr wythnos nesaf i'w trafod yn fanylach. Rydym eisoes yn gweithredu ein rhaglen i fynd i'r afael â throseddau casineb ac yn ehangu ein gwaith ar gydlyniant cymunedol i geisio lliniaru unrhyw gynnydd mewn troseddau casineb.
Cafwyd adroddiadau tua diwedd y llynedd fod nifer yr achosion o droseddau casineb a gofnodwyd yng Nghymru a Lloegr wedi codi 17 y cant i 94,000 dros y 12 mis hyd at fis Mawrth y llynedd. Dywed y Swyddfa Gartref y gellir priodoli'r cynnydd mawr a welwyd dros y pum mlynedd diwethaf yn rhannol i'r gwelliannau yn y ffordd y cofnodir troseddau, ond maent yn cydnabod y bu cynnydd sydyn yn syth wedi refferendwm yr UE. Nawr, nid oes gennyf unrhyw amheuaeth, ac o fy mhrofiad fy hun fod cymdeithas wedi mynd yn llai cyfeillgar tuag at fenywod a lleiafrifoedd ers ymgyrch y refferendwm hwnnw, ac adlewyrchir hyn yn y cyfryngau cymdeithasol yn enwedig. A wnaiff eich Llywodraeth gyfleu neges gadarn yn condemnio troseddau casineb o'r fath, a sicrhau bod dioddefwyr yn ymwybodol o ba wasanaethau cymorth, os o gwbl, sydd ar gael iddynt? Ac a fyddech hefyd yn barod i gychwyn sgwrs gyda'r cwmnïau cyfryngau cymdeithasol er mwyn sicrhau y rhoddir camau ar waith ar unwaith i ddileu troseddau casineb ar-lein?
Diolch i'r Aelod am ei chwestiwn, ac rwy'n cydnabod y pwynt a wnaeth ynghylch y cynnydd sydyn mewn troseddau casineb, sy'n rhywbeth rydym wedi'i drafod yn y Siambr hon yn y gorffennol, ac mae'n gwbl arswydus fod hynny'n codi yng nghyd-destun y dadleuon rydym yn eu cael yn awr. Yn bendant, fe roddaf y sicrwydd y mae'n gofyn amdano y byddwn yn rhoi arwydd clir iawn nad oes unrhyw le i droseddau casineb yn erbyn unrhyw un o'n cymunedau yma yng Nghymru. Gwn fod ganddi ddigwyddiad yn y Senedd ymhen ychydig ddyddiau, rwy'n credu, ac rwy'n siŵr y bydd y neges honno'n mynd allan o'r digwyddiad hwnnw hefyd.
Fel rhan o'r gwaith ar barodrwydd mewn perthynas â Brexit, rydym wedi ehangu'r rhaglen cydlyniant cymunedol ac wedi ariannu prosiect hawliau dinasyddion yr UE, a fydd yn gweithio law yn llaw â'r trydydd sector a llywodraeth leol i sicrhau bod gwasanaethau priodol ar gael, yn ogystal ag ymgysylltiad mwy dwys â'n rhaglen i Gymru gyfan ar gyfer ymgysylltu â phobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig, drwy'r ffrwd ariannu ar gyfer cydraddoldeb a chynhwysiant.
Fe fydd hefyd yn gwybod, wrth gwrs, am yr adroddiad arolygu ar droseddau casineb a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Arolygiaeth Cwnstabliaeth Ei Mawrhydi a'r Gwasanaethau Tân ac Achub, a dynnodd sylw at arferion da iawn yma yng Nghymru, yn arbennig yn ardal Gwent.
Gwnsler Cyffredinol, yn ystod dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ar ei waith craffu ar ôl deddfu ar Ddeddf Trais yn Erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015, mynegodd nifer o'r Aelodau eu barn gadarn y dylai perthnasoedd iach fod yn rhan o'r cwricwlwm, gyda'r Dirprwy Weinidog gwasanaethau cymdeithasol, bellach, yn dweud,
'ei bod yn gwbl allweddol ein bod yn mynd i’r afael ag agweddau tuag at berthynas iach yn gynnar yn addysg plentyn... A gorau po gyntaf y ceisiwn ddarparu hyn ar berthynas iach.'
A chredaf y gellir gwneud yr un sylwadau ar bob ffurf ar droseddau casineb. A ydych yn credu, felly, y gallai fod angen deddfwriaeth i sicrhau lle i hyn ar y cwricwlwm, neu a ydych yn credu y bydd canllawiau a pholisi syml yn ddigon i wneud yn hollol siŵr fod hyn yn digwydd?
Mae angen inni fod yn ymwybodol bob amser o'r ffordd orau o gyflawni'r amcanion hyn. Ymddengys i mi mai un o'r materion pwysig yw ein bod yn cadw digon o hyblygrwydd i allu ymateb i agweddau ar droseddau casineb sy'n dod i'r amlwg. Yn anffodus, ymddengys ei fod yn un o'r meysydd hynny sydd i'w gweld yn dod o hyd i allfeydd newydd mewn gwahanol gyd-destunau, fel y nodwyd yng nghwestiwn Leanne Wood. Onid yw'r cyfryngau cymdeithasol wedi darparu llwyfan newydd i unigolion allu mynegi safbwyntiau sy'n wrthun i ni yn y Siambr hon? Ac mae'n ddyletswydd ar bob un ohonom, yn fy marn i, i ddod o hyd i ffyrdd o gael gwared ar hynny, ac mae addysgu plant a phobl ifanc ar ffyrdd cyfrifol o fod ar-lein yn ogystal â natur perthnasoedd, gan gynnwys perthnasoedd cymunedol a pherthnasoedd personol, yn rhan bwysig o hynny.
Yn fy marn i, nid oes unrhyw amheuaeth fod ymgyrch Brexit wedi normaleiddio rhagfarn ac wedi gwneud pobl hiliol yn fwy eofn, ac yn y blynyddoedd i ddod, bydd y poster ofnadwy hwnnw a digwyddiadau cywilyddus megis Gweinidog y DU, Penny Mordaunt, yn dweud celwydd noeth wrth y wlad ar raglen frecwast nad oedd feto gan y DU mewn perthynas â derbyn Twrci'n aelod o'r UE yn cael eu hystyried, yn hollol gywir, yn feflau ar ein gwleidyddiaeth. Felly, mae gennym lawer o wella i'w wneud. Felly, ni waeth beth fydd yn digwydd neu ddim yn digwydd yn y dyfodol agos iawn, a ydych yn gweld unrhyw botensial, Weinidog, yn y gronfa bontio Ewropeaidd, i gefnogi camau i fynd i'r afael â throseddau casineb, yn enwedig pe ceid Brexit 'dim bargen'? Hefyd, ceir pryderon y byddai Brexit 'dim bargen' yn arwain at waethygiad, at godi muriau, yn ein cymunedau, sy'n digwydd eisoes ers yr ymgyrchoedd ofnadwy hynny dan arweiniad pobl hiliol a rhagfarnllyd.
Wel, diolch i'r Aelod am y cwestiwn. Mae hithau a minnau wedi trafod natur rhai o'r posteri a'r cyfathrebiadau yr oedd pleidiau eraill yn eu hyrwyddo yn ystod y refferendwm fel rheswm pam y mae'r newid diwylliant hwn wedi datblygu.
Yn sicr, mae'r gronfa bontio Ewropeaidd yn cael ei defnyddio i wneud y mathau o benderfyniadau ynghylch cyllid buddsoddi y cyfeiria atynt yn ei chwestiwn, a chredaf fod y rhaglen cydlyniant cymunedol yn arbennig wedi elwa o gael ei hehangu o ganlyniad i hynny. Rydym yn ymwybodol iawn mai un mater y mae angen inni fod yn glir iawn yn ei gylch yw sicrhau bod cydlyniant cymunedol, sydd bob amser wedi bod yn flaenoriaeth i ni fel Llywodraeth, yn parhau i gael ei gefnogi, ac mae ein rhwydwaith cydlyniant cymunedol rhanbarthol yn ffordd allweddol o wneud hynny.