2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit – Senedd Cymru ar 16 Ionawr 2019.
3. Pa gyfleoedd y mae Llywodraeth Cymru wedi'u nodi ar gyfer Cymru o ganlyniad i ymadawiad y DU o'r UE? OAQ53210
Dengys yr holl dystiolaeth synhwyrol fod manteision economaidd posibl unrhyw gytundebau masnach newydd yn ddim o gymharu ag effaith negyddol cynnydd sylweddol yn y rhwystrau i fasnachu gyda'r UE. Rydym yn parhau i alw am y berthynas economaidd agosaf sy'n bosibl gyda'r UE, fel y nodir yn 'Diogelu Dyfodol Cymru'.
Diolch am eich ymateb. Fe fyddwch yn gwybod mai un mater sydd wedi codi'n rheolaidd yn y Siambr dros y blynyddoedd yw'r gefynnau ar ddwylo Cymru yn sgil rheolau caffael yr UE ar gyfer y sector cyhoeddus. Mae llawer o'r rheolau hynny'n creu anfantais ddifrifol i fusnesau llai, gyda llawer ohonynt ledled Cymru, sy'n awyddus i gael troed yn y drws, er mwyn gallu masnachu â'r sector cyhoeddus. Pa waith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i archwilio'r cyfleoedd a allai ddeillio o adael yr UE i gefnogi polisi prynu mwy lleol ar draws y sector cyhoeddus, fel y gall busnesau Cymru elwa ar wariant trethdalwyr Cymru?
Wel, wrth gwrs, un o'r problemau yw sut y caiff rheolau eu dehongli, ac yn aml, mae ganddynt fwy o ryddid nag y mae'n ymddangos ar yr olwg gyntaf. Felly, yr her yw sicrhau, wrth inni—. Ein barn ni yw mai'r sefyllfa orau i economi Cymru yw cysondeb rheoleiddiol cyffredinol gyda'r Undeb Ewropeaidd, ond mae lle o fewn hynny i geisio'r dehongliad mwyaf hyblyg o'r rheolau a ganiateir. O ran cyfleoedd eraill yn sgil gadael yr UE, buaswn yn dweud mai un o'r materion dan ystyriaeth gennym ar hyn o bryd yw sut y gallwn integreiddio cyllid buddsoddi rhanbarthol yn well gyda gwariant arall y Llywodraeth. Mae hynny'n gofyn am ymrwymiad gan Lywodraeth y DU i sicrhau nad ydym ar ein colled o ran cyllid buddsoddi rhanbarthol, a dylid pennu'r cyfleoedd a'r rheolau a'r blaenoriaethau ar gyfer hynny yma yng Nghymru. Byddai'n rhoi sylfaen inni allu integreiddio'r cynlluniau hynny yn y dyfodol. A gan ei fod yn edrych am gyfleoedd, rwy'n gobeithio y bydd yn ymuno â mi i alw am gynnal yr egwyddorion hynny.
Gwnsler Cyffredinol, eisoes o fewn yr UE mae perthynas rhyngom, naill ai fel Cymru yn ein hawl ein hunain, neu'n rhan o rwydwaith y DU, ag amrywiaeth eang o sefydliadau sydd wedi bod yn hynod o bwysig a gwerthfawr i Gymru. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau y ceir mecanwaith lle y gall Cymru yn ei hawl ei hun barhau i ymgysylltu â'r Undeb Ewropeaidd, o bosibl drwy'r Swyddfa Cymru well ym Mrwsel, ond gan sicrhau, o leiaf os yw Brexit yn digwydd, fod gennym fecanwaith ar gyfer ymgysylltu â'r gwahanol gyrff tiriogaethol hynny, Pwyllgor y Rhanbarthau a'r gwahanol sefydliadau eraill y credaf y byddant yn hanfodol a phwysig i Gymru mewn dyfodol ôl-Brexit, os yw'n digwydd?
A gaf fi gymeradwyo sail y cwestiwn gan yr Aelod, mewn gwirionedd, sef y gwerth i Gymru sy'n deillio nid yn unig o'r berthynas gyda'r Undeb Ewropeaidd fel y cyfryw, ond hefyd o ranbarthau a gwledydd ledled yr Undeb Ewropeaidd, a'r gwahanol sefydliadau ledled Ewrop lle y cawn ein cynrychioli? Ac rwy'n ymwybodol o'i waith ef, er enghraifft, ar Bwyllgor y Rhanbarthau ers blynyddoedd lawer.
Mae'n hanfodol ein bod yn cynnal, gymaint â phosibl, y rhwydwaith hwnnw o gysylltiadau sydd o fudd i ni mewn termau economaidd, ond hefyd mewn termau diwylliannol, yn ogystal ag o ran brand Cymru yn y byd, sy'n ffocws pwysig. Unwaith eto, mae hynny'n rhan o'r gwaith y bydd y Gweinidog cysylltiadau rhyngwladol yn ei ddatblygu.