Part of 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit – Senedd Cymru am 2:29 pm ar 16 Ionawr 2019.
Rydym wedi aros am ddwy flynedd i glywed beth yw barn Llywodraeth y DU ynglŷn ag ar ba sail y dylem adael yr Undeb Ewropeaidd—dwy flynedd. Ddwy flynedd yn ôl, lansiodd y Llywodraeth hon, ynghyd â Phlaid Cymru, bapur a nodai, gyda sylfaen dystiolaeth glir iawn, y math o berthynas y dylai Cymru ei chael gyda'r Undeb Ewropeaidd ar ôl Brexit. Roeddem yn gallu gwneud hynny ddwy flynedd yn ôl, drwy weithio gyda'n gilydd, a dilynwyd hynny gan amrywiaeth o safbwyntiau polisi o sylwedd yn seiliedig ar dystiolaeth, ac sydd wedi llwyddo i argyhoeddi. A'r cwestiwn yw pam na allodd Llywodraeth y DU wneud yr un peth. Ar fater amseroldeb, fel y dywedais yn y Siambr, mae gennym adnodd ar-lein y bwriadwn ei lansio yn yr ychydig ddyddiau nesaf, a bydd hwnnw, gobeithio, yn rhoi dealltwriaeth eglur i bobl Cymru ynglŷn â beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud o ran parodrwydd.