Part of 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit – Senedd Cymru am 3:06 pm ar 16 Ionawr 2019.
Diolch, Lywydd. Gwnsler Cyffredinol, mewn perthynas â'r mater hwn, mae'n amlwg mai allforwyr yn bennaf yw'r busnesau sy'n cael cymorth drwy'r porth, ond ceir llawer o fusnesau'r gadwyn gyflenwi yn y cyswllt hwnnw. Pa drafodaethau yr ydych yn eu cael gyda busnesau i edrych ar eu cadwyni cyflenwi er mwyn sicrhau cefnogaeth i'r cadwyni cyflenwi hefyd yn y broses hon? Oherwydd rydym yn dibynnu llawer iawn ar rai o'r busnesau eraill hynny i ddal i fynd, ac mae'r sector modurol yn enghraifft. Ceir llawer o gwmnïau cydrannau moduron yng Nghymru nad ydynt o bosibl yn allforio'n uniongyrchol ond sy'n cyflenwi i gwmnïau sy'n gwneud hynny.