Paratoi Busnesau ar gyfer Gadael yr UE

Part of 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit – Senedd Cymru am 3:07 pm ar 16 Ionawr 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 3:07, 16 Ionawr 2019

(Cyfieithwyd)

Yn hollol. Yn hollol. Wel, mae hynny'n hollol wir, ac mae hynny'n rhan annatod o'r cyngor sy'n cael ei ddarparu drwy'r porth. Realiti'r sefyllfa yw nad yw llawer o fusnesau'n mynd ati eto i gynllunio ar gyfer canlyniadau Brexit. Mae'r Prif Weinidog a Gweinidog yr economi, wedi galw'n ddiweddar ar fusnesau i sicrhau eu bod yn gwneud popeth a allant i gymryd rhan yn weithredol a mynd ati i baratoi ar gyfer Brexit. Ac fe fanteisiaf ar y cyfle hwn, os caf, i ychwanegu at y galwadau i fusnesau wneud hynny.