Part of 3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:26 pm ar 16 Ionawr 2019.
Buaswn yn cytuno'n llwyr â'r Aelod ac yn dweud yn gyntaf, mewn perthynas â'r holl brosiect hwn, nad yw'r adroddiadau a welsom yn y newyddion dros y dyddiau diwethaf yn ddim byd mwy na dyfalu. Fodd bynnag, rydym yn disgwyl i benderfyniad gael ei wneud, yn amser y DU, o gwmpas 10 a.m. yfory. Byddaf yn ymweld ag Ynys Môn brynhawn yfory i gyfarfod ag arweinydd y cyngor, ac rwy'n disgwyl y byddwn yn gwybod beth yw penderfyniad bwrdd Hitachi erbyn hynny.
Y rheswm pam y gofynnais am gynnal cyfarfod brys o'r bwrdd uchelgais economaidd cyn gynted â phosibl, ac fe fydd yn digwydd fore Llun, oedd oherwydd yr hoffwn drafod gyda rhanddeiliaid a phartneriaid yng ngogledd Cymru sut y gellid mynd ati yn y tymor byr, os mai oedi'r prosiect hwn dros dro yn unig a wneir, sut y gallem fynd ati i sicrhau bod cyfleoedd i bobl gael gwaith mewn maes tebyg yn Ynys Môn a'r cylch, hyd nes y daw buddsoddwr arall i dynnu'r prosiect oddi ar y silff, neu hyd nes y bydd Llywodraeth y DU yn penderfynu buddsoddi rhagor yn y rhaglen ac yn ei wladoli. Eisoes maent wedi addo £5 biliwn, nid wyf yn gweld pam na ddylent ystyried darparu'r holl gymorth ariannol yn awr a gwladoli'r prosiect.
Wrth wneud hynny, hoffwn drafod gyda rhanddeiliaid a phartneriaid llywodraeth leol, arweinwyr addysg bellach ac addysg uwch, a busnesau pa gymorth ychwanegol sydd ei angen arnom gan Lywodraeth y DU fel rhan o raglen y fargen twf. Rwyf eisoes wedi dweud bod Llywodraeth Cymru yn barod i gynyddu ei chefnogaeth o £120 miliwn os yw Llywodraeth y DU yn cynyddu ei dyraniad hi yn gyntaf i'r fargen twf. Mae partneriaid yng ngogledd Cymru wedi gofyn am £170 miliwn ar gyfer y fargen twf, ac mae Llywodraeth y DU, er gwaethaf y gofyn cynhwysfawr a rhaglen o brosiectau, wedi cynnig £120 miliwn. Yn fy marn i, os yw Hitachi yn oedi'r prosiect, dylid cynyddu'r swm hwnnw yn sylweddol.
Rwy'n credu ei bod hi hefyd yn bwysig pwysleisio bod fy swyddogion wedi bod mewn cysylltiad cyson â BEIS dros nifer o wythnosau a misoedd. Mae'r Aelod yn iawn i nodi bod Brexit wedi cael effaith uniongyrchol ac anuniongyrchol ar drafodaethau; yn anuniongyrchol yn yr ystyr ei fod wedi dargyfeirio sylw a swyddogion allweddol yn wir o fewn Whitehall oddi ar brosiect Wylfa Newydd, ac mae hynny wedi cael effaith yn fy marn i ar hyder yn Japan.
Bydd Llywodraeth Cymru yn gwneud popeth yn ei gallu i sicrhau bod y prosiect hwn yn cael ei ddatblygu. Yn bwysig, byddwn yn gwneud popeth a allwn i wneud yn siŵr fod pobl Ynys Môn a phobl gogledd Cymru yn elwa cymaint â phosibl o'r prosiect. Yfory, fe fyddwn yn gwybod a fydd oedi'n digwydd yn y prosiect. Fy ngobaith yw na chaiff ei ganslo. Os bydd oedi'n digwydd rhaid i waith ddechrau ar unwaith ar draws Llywodraethau, gyda llywodraeth leol a'r gymuned fusnes i sicrhau bod cyfleoedd gwaith ar gael yn y tymor byr, wrth inni ddod o hyd i fuddsoddwr newydd ar gyfer y prosiect.