3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru ar 16 Ionawr 2019.
2. Pa drafodaethau mae'r Gweinidog wedi eu cael ynglŷn â dyfodol Wylfa Newydd? 259
Diolch. Fel yr amlinellais yn fy natganiad ysgrifenedig at yr Aelodau ddoe, rwyf wedi siarad â'r Gweinidog Ynni a Diwydiant. Rwyf hefyd wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol. Rwy'n pwyso am ymateb ar frys gan Lywodraeth y DU ar y camau y mae'n eu cymryd ar y mater hwn. Rwyf hefyd mewn cysylltiad rheolaidd â Horizon. Byddaf yn cyfarfod ag arweinydd cyngor Ynys Môn yfory. Byddaf yn siarad ag Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn ddiweddarach heddiw, a byddaf yn mynychu cyfarfod brys o'r bwrdd uchelgais economaidd ddydd Llun. Ymhellach, rydym mewn cysylltiad rheolaidd iawn â'r Aelod Seneddol lleol, Albert Owen AS, yn ogystal ag Aelodau Seneddol eraill sydd am bwyso ar Lywodraeth y DU i sicrhau buddsoddiad Hitachi.
Diolch yn fawr iawn i chi. Rydym ni'n disgwyl cyhoeddiad, rydw i'n meddwl, dros nos heno. Fel dywedodd aelod uwch o staff Wylfa wrthyf i yn y dyddiau diwethaf, dydy hi ddim yn edrych yn dda. Mae'n rhaid i mi ddeud fy mod i wedi dod i gasgliad ers rhyw gwpwl o fisoedd erbyn hyn bod y prosiect mewn sefyllfa ddifrifol tu hwnt. Yn amlwg, mae Brexit wedi cyfyngu ar gapasiti Llywodraeth Prydain i wthio'r cytundeb trwodd ac i chwilio am fodel ariannu. Mae pobl o fewn Wylfa'n dweud hynny'n berffaith glir wrthyf i. Yn gam neu'n gymwys, mi oedd penderfyniad Llywodraeth Cymru i alw mewn y cais cynllunio ar gyfer gwaith paratoi ar y safle hefyd yn cael ei weld fel ychwanegiad at risg y prosiect, ond y canlyniad ydy bod prosiect a oedd yn ganolog i gynlluniau economaidd ym Môn, yn y gogledd, ac, yn wir, ar gyfer Cymru gyfan rŵan yn y fantol, a dweud y lleiaf.
Mi oeddwn i'n gwerthfawrogi cael y datganiad ddoe yn dweud eich bod chi'n siarad efo Llywodraeth Prydain. Gaf i ofyn a oes yna ragor o drafod uniongyrchol wedi bod efo Gweinidogion Llywodraeth Prydain heddiw gan Lywodraeth Cymru? Ydych chi wedi ceisio dylanwadu'n uniongyrchol efo partneriaid yn Japan?
Gaf i sicrwydd hefyd bod y Prif Weinidog yn bersonol wedi bod yn rhan o drafodaethau heddiw, fel oedd yn hollol iawn i'w wneud yn achos Ford y bore yma? Mae'n bwysig iawn, rydw i'n meddwl, bod Prif Weinidog Cymru'n cael ei weld yn chwarae rhan uniongyrchol mewn trafodaethau, yn ogystal â'r rôl y gallwch chi ei chwarae, wrth gwrs, fel Gweinidog.
Mae Wylfa'n ganolog i ddatblygiadau economaidd yn y dyfodol, ond, wrth gwrs, mae yna ddatblygiadau eraill rhagorol yn mynd ymlaen yn Ynys Môn ar hyn o bryd. Dwi'n meddwl am gynlluniau ynni adnewyddol ac yn y blaen, y parc gwyddoniaeth. Ond, gaf i sicrwydd rŵan, os ydy'r gwaethaf yn dod ac yn cael ei gadarnhau, y bydd Llywodraeth Cymru yn chwilio i fuddsoddi rhagor yn y cynlluniau hynny ac yn gwthio am fuddsoddiad ychwanegol gan Lywodraeth Prydain i wneud iawn am ei methiant i ddelifro Wylfa, os mai dyna fydd y canlyniad?
Gaf i hefyd wthio, os mai'r gwaethaf gawn ni, am ymrwymiad, a'ch bod chi'n dechrau rŵan ar ffyrdd o weithredu hyn—ymrwymiad i roi hwb economaidd i ogledd yr ynys, yn arbennig, yn cynnwys cyfeirio datblygiad economaidd i gyffiniau Amlwch, agor lein Amlwch fel mater o fyrder, ac yn y blaen?
Weinidog, beth bynnag y farn am niwclear—a dwi'n deall yn iawn ei fod o'n bwnc sy'n rhannu barn pobl, ond mae llawer o bobl Môn, pobl ifanc, Cymry ifanc ym Môn, sy'n barod i gael eu denu i ffwrdd gan gyfleon economaidd eraill, wedi bod yn edrych ymlaen am gyfleon yn Wylfa Newydd. Os na ddaw o, mae'n rhaid sicrhau ein bod ni'n gwneud popeth i sicrhau dyfodol iddyn nhw.
Buaswn yn cytuno'n llwyr â'r Aelod ac yn dweud yn gyntaf, mewn perthynas â'r holl brosiect hwn, nad yw'r adroddiadau a welsom yn y newyddion dros y dyddiau diwethaf yn ddim byd mwy na dyfalu. Fodd bynnag, rydym yn disgwyl i benderfyniad gael ei wneud, yn amser y DU, o gwmpas 10 a.m. yfory. Byddaf yn ymweld ag Ynys Môn brynhawn yfory i gyfarfod ag arweinydd y cyngor, ac rwy'n disgwyl y byddwn yn gwybod beth yw penderfyniad bwrdd Hitachi erbyn hynny.
Y rheswm pam y gofynnais am gynnal cyfarfod brys o'r bwrdd uchelgais economaidd cyn gynted â phosibl, ac fe fydd yn digwydd fore Llun, oedd oherwydd yr hoffwn drafod gyda rhanddeiliaid a phartneriaid yng ngogledd Cymru sut y gellid mynd ati yn y tymor byr, os mai oedi'r prosiect hwn dros dro yn unig a wneir, sut y gallem fynd ati i sicrhau bod cyfleoedd i bobl gael gwaith mewn maes tebyg yn Ynys Môn a'r cylch, hyd nes y daw buddsoddwr arall i dynnu'r prosiect oddi ar y silff, neu hyd nes y bydd Llywodraeth y DU yn penderfynu buddsoddi rhagor yn y rhaglen ac yn ei wladoli. Eisoes maent wedi addo £5 biliwn, nid wyf yn gweld pam na ddylent ystyried darparu'r holl gymorth ariannol yn awr a gwladoli'r prosiect.
Wrth wneud hynny, hoffwn drafod gyda rhanddeiliaid a phartneriaid llywodraeth leol, arweinwyr addysg bellach ac addysg uwch, a busnesau pa gymorth ychwanegol sydd ei angen arnom gan Lywodraeth y DU fel rhan o raglen y fargen twf. Rwyf eisoes wedi dweud bod Llywodraeth Cymru yn barod i gynyddu ei chefnogaeth o £120 miliwn os yw Llywodraeth y DU yn cynyddu ei dyraniad hi yn gyntaf i'r fargen twf. Mae partneriaid yng ngogledd Cymru wedi gofyn am £170 miliwn ar gyfer y fargen twf, ac mae Llywodraeth y DU, er gwaethaf y gofyn cynhwysfawr a rhaglen o brosiectau, wedi cynnig £120 miliwn. Yn fy marn i, os yw Hitachi yn oedi'r prosiect, dylid cynyddu'r swm hwnnw yn sylweddol.
Rwy'n credu ei bod hi hefyd yn bwysig pwysleisio bod fy swyddogion wedi bod mewn cysylltiad cyson â BEIS dros nifer o wythnosau a misoedd. Mae'r Aelod yn iawn i nodi bod Brexit wedi cael effaith uniongyrchol ac anuniongyrchol ar drafodaethau; yn anuniongyrchol yn yr ystyr ei fod wedi dargyfeirio sylw a swyddogion allweddol yn wir o fewn Whitehall oddi ar brosiect Wylfa Newydd, ac mae hynny wedi cael effaith yn fy marn i ar hyder yn Japan.
Bydd Llywodraeth Cymru yn gwneud popeth yn ei gallu i sicrhau bod y prosiect hwn yn cael ei ddatblygu. Yn bwysig, byddwn yn gwneud popeth a allwn i wneud yn siŵr fod pobl Ynys Môn a phobl gogledd Cymru yn elwa cymaint â phosibl o'r prosiect. Yfory, fe fyddwn yn gwybod a fydd oedi'n digwydd yn y prosiect. Fy ngobaith yw na chaiff ei ganslo. Os bydd oedi'n digwydd rhaid i waith ddechrau ar unwaith ar draws Llywodraethau, gyda llywodraeth leol a'r gymuned fusnes i sicrhau bod cyfleoedd gwaith ar gael yn y tymor byr, wrth inni ddod o hyd i fuddsoddwr newydd ar gyfer y prosiect.
Rydym yn gwybod bod prosbectws seilwaith Caergybi yn dweud bod gwaith adeiladu niwclear newydd Wylfa Newydd, ynghyd â datblygiadau arfaethedig eraill yn Ynys Môn, yn gyfle unwaith mewn oes i drawsnewid economi a chymunedau'r Ynys. Fel y dywedasoch yn gywir ddoe, mae gan y prosiect hwn fanteision posibl a allai fod yn sylweddol i Ynys Môn, gogledd Cymru a'r DU. Gwyddom fod is-gwmni i Hitachi, Horizon, wedi bod yn buddsoddi'n drwm mewn prentisiaethau a chanolfannau hyfforddiant, gan gynnwys yng ngrŵp coleg Llandrillo Menai ac ym Mhrifysgol Bangor, a gwyddom fod y fargen twf yn seiliedig ar y rhagdybiaeth y byddai prosiect Wylfa yn mynd rhagddo. Dywedodd Dr Jones, ym Mhrifysgol Bangor, ddoe ei fod yn credu ei fod yn fwy tebygol o bwyso'r botwm oedi na rhoi'r gorau i'r prosiect yn llwyr oherwydd y buddsoddiad o £2 biliwn eisoes. Ond rwy'n clywed hefyd mai un o'r ffactorau dilys i'r ystyriaethau cost a arweiniodd at y penderfyniad posibl hwn oedd penderfyniad Llywodraeth Cymru i alw am gynlluniau i baratoi'r safle fis diwethaf er mwyn adeiladu Wylfa Newydd, pan ddywedodd Horizon eu bod yn anghytuno â rhesymeg Llywodraeth Cymru.
Ar hyn o bryd o ystyried eich datganiadau ddoe a heddiw eich bod wedi siarad â'r Gweinidog ynni a diwydiant, Richard Harrington AS, yn San Steffan, a bod eich swyddogion mewn deialog agos gyda Horizon Nuclear Power, beth yw eich dealltwriaeth o'r sefyllfa ar hyn o bryd o ran y canlyniad tebygol a'i effaith ar bethau fel y lleoliadau prentisiaeth hynny a'r posibilrwydd mai oedi yn unig yw hyn yn hytrach na chyhoeddiad trychinebus fod y prosiect yn dod i ben?
Yn amlwg, mae'n gyfle unwaith mewn oes i ogledd Cymru, Cymru a'r DU. Cydnabyddir bod technoleg Hitachi yn fwy dibynadwy na'r un y gellid ei defnyddio, ac mae'n bwysig fod Llywodraeth y DU yn gwneud popeth yn ei gallu i sicrhau'r buddsoddiad hwnnw a thechnoleg Hitachi i Ynys Môn.
Rwy'n anghytuno gyda'r Aelod, ac rwy'n meddwl y byddai'r Aelod, pe bai ganddo wybodaeth gywir, yn cytuno nad oedd galw am y cais cynllunio yn fater o bwys o gwbl. Yr hyn sydd wedi newid yn y mis diwethaf, neu yn y mwy na mis diwethaf mewn gwirionedd, oherwydd credaf fod Llywodraeth y DU yn ymwybodol o'r sefyllfa yn ôl pob tebyg tua mis yn ôl—. Ond yr hyn sydd wedi digwydd yn raddol yw bod diffyg a cholli diddordeb ar ran Llywodraeth y DU, ar lefel swyddogol ac ar lefel weinidogol. Ac fe amlygwyd hynny yr wythnos diwethaf pan oedd y Prif Weinidog yn Japan a methodd grybwyll y prosiect hanfodol bwysig hwn tra oedd ar ymweliad yno. Ac yn union fel y dywedais ddoe—rwyf am ei ailadrodd heddiw—nid mater masnachol i Hitachi'n unig yw hwn. Byddai'r rhaglen hon yn darparu hyd at 10 y cant o ynni'r DU a gwaith i filoedd o bobl yn ystod y gwaith adeiladu, a channoedd o bobl am genedlaethau lawer i ddod. Ac felly, buaswn yn galw ar Lywodraeth y DU eto, hyd yn oed yn yr oriau olaf hyn, i wneud pob ymdrech i gael y penderfyniad cywir wedi'i wneud ar fwrdd Hitachi yfory.
Mae'r pwynt wedi cael ei wneud yn flaenorol—mae yna beryg, wrth gwrs, ein bod ni'n camddehongli diwylliant Japaneaidd fan hyn, oherwydd mae colli wyneb yn anodd i ni yn y gorllewin, ond mae'n anoddach fyth, wrth gwrs, i Japaneaid. Ac mae yna beryg, efallai, tra ein bod ni'n meddwl bod y prosiect ar hold, taw, mewn gwirionedd, dyna eu ffordd nhw o ddweud nad yw e'n mynd i ddigwydd. Felly, dwi'n meddwl bod angen i ni fod yn realistig o safbwynt beth fydd y rhagolygon pan glywn ni'n union beth yw'r penderfyniad. Ond yr hyn dwi'n dod ato fe, wrth gwrs, wedyn, yw: am ba hyd fyddai Llywodraeth Cymru yn barod i aros tra bod y cynllun ar hold? Mae yna gyrsiau yn cael eu hyrwyddo a'u hysbysebu. Ydyn ni'n dal i hyrwyddo a hysbysebu y rheini am y flwyddyn neu ddwy nesaf sydd i ddod? Ydy cynllun twf gogledd Cymru, neu rannau perthnasol o'r cynllun twf hwnnw, ar y silff tan inni wybod beth sy'n digwydd? Felly, ar ba bwynt fydd Llywodraeth Cymru yn derbyn bod rhaid tynnu llinell a symud ymlaen? Ac, wrth gwrs, i fi, mae symud ymlaen yn golygu buddsoddi’r biliynau o bunnau arfaethedig oedd yn y project gwreiddiol i mewn i ffynonellau ynni adnewyddadwy, a datgloi y potensial aruthrol hwnnw sydd gennym ni yng Nghymru.
Wel, yn wir. Credaf y gallai Llywodraeth y DU ystyried gwneud yn union hynny. Rydym yn edrych ar nifer o brosiectau ynni adnewyddadwy mawr a allai ddenu cyllid Llywodraeth y DU. Ond gadewch i ni ganolbwyntio ar Wylfa Newydd am y tro oherwydd rhaid i ni roi ein prif sylw i hynny dros y dyddiau nesaf, ac wythnosau nesaf yn wir. Nid ydym yn gwybod eto beth a olygir wrth 'oedi', os mynnwch chi. A fyddai'n golygu oedi ym mhroses y gorchymyn caniatâd datblygu? Fy nealltwriaeth i yw efallai nad yw hynny'n wir, a byddai proses y gorchymyn caniatâd datblygu yn parhau. Buaswn yn gobeithio y byddai'n parhau. A fyddai 'oedi' yn golygu dweud wrth y prentisiaid nad oes angen iddynt gwblhau eu fframweithiau am y tro? Wel, unwaith eto, buaswn yn gobeithio na fyddai'n golygu hynny ac y gallai'r prentisiaid gwblhau eu fframweithiau a chael gwaith arall, hyd nes y gellir tynnu'r prosiect oddi ar y silff unwaith eto. Rydym yn mynd i orfod cymryd cam yn ôl yfory, os gwneir y penderfyniad i oedi'r prosiect, ac asesu pa fuddsoddwyr eraill hyfyw a allai fod ar gael, ac asesu a oes gan Lywodraeth y DU awydd i gynyddu ei chyfran yn y prosiect, er mwyn ei gael yn weithredol unwaith eto.
Rwy'n derbyn y pwynt yn llwyr ynglŷn â diwylliant Japan, a phwysigrwydd peidio â cholli wyneb. Yn yr un modd, o fod wedi siarad â buddsoddwyr yn Japan, ac ar ôl siarad gyda Hitachi, rwy'n gwybod eu bod yn ystyried y prosiect hwn yn un pwysig iawn. Ac nid ydynt am golli wyneb gyda'u ffrindiau ym Mhrydain, fel y maent yn ei weld, drwy gael gwared ar y cynllun hwn sy'n ennyn cefnogaeth y mwyafrif ar Ynys Môn, cynllun a allai gynnig cyfleoedd trawsffurfiol i nifer fawr iawn o bobl, ac a fyddai'n dangos cysylltiad cryf rhwng Cymru, y DU a Japan. Felly, bydd y penderfyniad yn cael ei ystyried yn drylwyr iawn, ac os caiff ei oedi, buaswn yn gobeithio mai dyna'n union a fydd—oedi—ac y gall y prosesau, megis y broses gorchymyn caniatâd datblygu, barhau, er mwyn gallu tynnu'r rhaglen oddi ar y silff a'i chwblhau gan fuddsoddwr arall, neu er mwyn i Hitachi ei thynnu oddi ar y silff wedi i Lywodraeth y DU gynyddu ei chynnig, fel rwy'n ei obeithio.
Weinidog, fe wnaethoch honiad mawr pan ymateboch chi i'r Aelod o Ynys Môn, pan ddywedoch y dylid ystyried y safle ar gyfer ei wladoli. Ai polisi swyddogol Llywodraeth Cymru yw y dylid gwladoli'r cynllun hwn, oherwydd, fel y dywedais, mae hwnnw'n honiad mawr iawn? A byddai gennyf ddiddordeb mewn gwybod beth yw safbwynt Llywodraeth Cymru ar bŵer niwclear yn fwy cyffredinol, oherwydd, yn amlwg, dywedodd y Prif Weinidog presennol y dylid trin ynni niwclear yn sgeptig. Ac a fu newid yn y ffordd y mae Llywodraeth Cymru'n cynnig ei chefnogaeth i brosiectau ynni niwclear? Oherwydd fe ddywedodd aelodau eraill o'r Cabinet—dywedodd yr Ysgrifennydd Gwladol dros iechyd, er enghraifft, fod sylwadau o'r fath yn peri gofid, a dywedodd y Gweinidog cysylltiadau allanol y byddai'n niweidiol iawn pe bai newid o'r fath yn digwydd o fewn Llywodraeth Cymru.
A gaf fi ddiolch i'r Aelod am ei gwestiwn? Rwy'n pwysleisio bod y Prif Weinidog wedi dweud mai ei sylw personol oedd ei fod yn sgeptig niwclear, am reswm da iawn, oherwydd digwyddiadau a damweiniau sydd wedi digwydd yn y gorffennol. Fodd bynnag, credaf ei bod hi'n gydnabyddedig mai ein polisi yw cefnogi'r diwydiant ynni niwclear, fel rhan o'r cymysgedd ynni, a chymysgedd ynni angenrheidiol iawn. Ac o ran fy ngalwad am wladoli'r prosiect, credaf fod hyn yn rhywbeth y mae fy nghyd-Aelodau'n ei gefnogi, ond hefyd, yn bwysicach, caiff ei gefnogi gan Weinidogion ac Aelodau Seneddol yr wrthblaid, sy'n ceisio pwyso ar Lywodraeth y DU i gynnig y cyfraniad uchaf a all, ac os oes angen, os na chynigir yr un opsiwn arall, i wladoli'r rhaglen.
Diolch yn fawr iawn.