Part of the debate – Senedd Cymru am 3:41 pm ar 16 Ionawr 2019.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Fe welwch fod hwnnw'n deitl bachog iawn. Bydd yr Aelodau'n falch nad diben y ddadl fer hon yw edrych ar fwriad polisi Rheoliadau'r Amgylchedd Morol (Diwygio) (Ymadael â'r UE) 2018 nac yn wir, i herio o ddifrif honiad Llywodraeth Cymru ei bod yn briodol i'r Cynulliad hwn gytuno i'r cynnig cydsyniad offeryn statudol hwn. Mae hyn yn ymwneud mwy â thynnu sylw'r Aelodau, unwaith eto, at allu Llywodraeth y DU i greu is-ddeddfwriaeth ar faterion o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd hon ac ystyried pryderon ynglŷn â sut y gall y Senedd hon gynnal ei throsolwg ei hun o sut y mae deddfwriaeth sylfaenol sy'n berthnasol i ni yn cael ei diwygio drwy is-ddeddfwriaeth Senedd arall.
Hyd yn hyn, yn ddealladwy rydym wedi canolbwyntio ein sylw ar ddeddfwriaeth sylfaenol a chynigion cydsyniad deddfwriaethol cysylltiedig, ac rydym wedi dod ar draws Biliau ar amaethyddiaeth a gofal iechyd sydd o bosibl wedi achosi i bwyllgorau godi eu haeliau. A bydd gan y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ddigon i'w ddweud maes o law ynglŷn â dewisiadau Llywodraeth Cymru o ran a ddylid argymell cynigion cydsyniad deddfwriaethol ai peidio, yn ogystal ag ansawdd y wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei darparu i'r Cynulliad i'n helpu i graffu ar y dewisiadau hynny.
Pa mor hawdd yw hi felly i golli golwg ar y pentwr o is-ddeddfwriaeth y dylai'r un egwyddorion fod yn berthnasol iddynt? Mae Llywodraeth y DU yn gosod llawer o offerynnau statudol, sy'n effeithio ar lawer mwy o ddarnau o ddeddfwriaeth sylfaenol, er mwyn rhoi cyfraith yr UE a gedwir mewn grym ar ôl Brexit. A gallai'r rhain drosglwyddo swyddogaethau gweithredol mewn meysydd lle y mae gennym gymhwysedd deddfwriaethol i Weinidogion Cymru, neu yn wir Ysgrifenyddion Gwladol gyda chydsyniad Gweinidogion Cymru, ac yn wir, maent yn gwneud hynny. Ac am ein bod yn sôn am offerynnau statudol, sy'n weithredol mewn meysydd cymhwysedd datganoledig, mae angen inni ddeall beth y mae Gweinidogion Cymru yn cytuno iddo mewn gwirionedd ar ein rhan, ac wrth gwrs ar eu rhan eu hunain.
Ceir proses Rheol Sefydlog ar gyfer hyn, ond mewn gwirionedd mae'r Llywodraeth yn penderfynu a allwn ddibynnu ar offerynnau statudol Llywodraeth y DU neu a ddylent gyflwyno'u his-ddeddfwriaeth eu hunain. Ar hyn o bryd, mae'r rhan fwyaf o'r adroddiadau a gawn gan Lywodraeth Cymru yn nodi y gallwn gytuno ar offerynnau statudol y DU, gan nad oes gwahaniaeth o ran polisi ac mae'n golygu bod y llyfr statud yn gliriach. Dyna yw cynnwys cyffredinol y memoranda esboniadol a ddaw i'r Aelodau yn argymell cefnogaeth y Cynulliad heb fod angen dadl: 'Nid oes dim i'w weld yma. Mae popeth mewn trefn. Pam gwastraffu amser y Cyfarfod Llawn?'
Gyda chymaint o offerynnau statudol yn dod drwodd o'r DU a meysydd datganoledig, mae angen i ni, fel Aelodau Cynulliad, fod mewn sefyllfa lle y gallwn ddibynnu ar farn Gweinidogion ac osgoi'r angen am ddadl. Fodd bynnag, mae yna achlysuron, a nifer cynyddol ohonynt, lle na allwn ddibynnu'n ddiogel ar y farn honno. Ac nid mater o fod y farn yn anghywir, ond nid oes gennym y dystiolaeth i gefnogi'r farn honno, a dyna pam rwy'n fwriadol wedi dewis yr enghraifft eithaf diniwed hon, gobeithio, i wneud fy mhwynt.
Cawn wybod yn y datganiad eglurhaol gan y Gweinidog y gallai'r offeryn statudol hwn ar gyfer y DU effeithio ar ein cymhwysedd deddfwriaethol a chymhwysedd gweithredol y Gweinidog oherwydd bod gennym rywfaint o gymhwysedd deddfwriaethol a gweithredol yng nghyswllt yr amgylchedd morol. Roedd cynnig y Gweinidog ei hun yn cynnwys ychydig mwy o fanylion ar bwerau presennol, ond dim mwy ar ein cymhwysedd deddfwriaethol, heblaw ei fod yn amodol ar ychydig o faterion a gedwir yn ôl. Rhoddir rhai enghreifftiau, ond ni cheir manylion pendant. Mae hefyd yn offeryn statudol gweithdrefn negyddol, sy'n cyfyngu ar drosolwg Senedd y DU, felly mae'r gwaith craffu eisoes yn llai na'r hyn a fyddai'n ddelfrydol.
Fy nadl i i Lywodraeth Cymru yw hyn: os credwch fod offeryn statudol y DU yn iawn a'ch bod am inni dderbyn eich cyngor heb ei drafod, rhowch gyngor llawnach i ni. Os oes rhywfaint o gymhwysedd deddfwriaethol gennym, nodwch beth ydyw. Os oes gan Weinidogion Cymru bwerau Gweithredol amrywiol o dan nifer o ddeddfiadau, dywedwch wrthym beth ydynt. Ac fel y byddwch yn gweld, rwyf wedi gorfod drafftio, gyda help wrth gwrs, a gosod fy nghynnig cydsyniad tebyg iawn fy hun er mwyn gwneud hyn, ac fel AC, nid oes gennyf adnoddau i ymchwilio ac i gael gafael ar y wybodaeth y gall gweision sifil ei chael. Mae eich swyddogion yn gwybod beth yw'r cymhwysedd deddfwriaethol hwnnw a beth yw'r pwerau Gweithredol hynny i wneud yr honiadau yn y lle cyntaf. Felly, nid yw'n ddigon dweud wrthym pa ddeddfwriaeth bresennol sy'n cael ei diwygio, mae angen cyd-destun ac eglurder arnom ynghylch effaith y newid ac mae angen i Weinidogion fod yn effro i hynny cyn iddynt ei gymeradwyo.
Felly, pam y mae hyn yn bwysig? Mae cymaint o'r offerynnau statudol hyn yn diwygio deddfwriaeth sylfaenol mewn meysydd datganoledig, a gallant roi pwerau i Weinidogion Cymru. Ac os yw'r unig graffu a gawn yn seiliedig ar gyngor i'r Gweinidog, mae angen i'r cyngor fod yn glir, yn gynhwysfawr a gallu goresgyn unrhyw le i amau bod gwrthdaro buddiannau, oherwydd ni ddylem ganiatáu i seneddau eraill roi pwerau i'n Gweinidogion heb i ni sicrhau ein bod yn deall sut, ble, pam a beth. Rwy'n deall yr eironi o ofyn i chi gydsynio i offeryn statudol rwyf newydd gyfaddef nad wyf yn ei ddeall yn iawn fy hun, ond rwy'n gobeithio ei fod yn profi'r pwynt. Diolch yn fawr iawn.