– Senedd Cymru am 3:40 pm ar 16 Ionawr 2019.
Eitem 5 ar ein hagenda y prynhawn yma yw'r cynnig cydsyniad offeryn statudol: Rheoliadau'r Amgylchedd Morol (Diwygio) (Ymadael â'r UE) 2018. Galwaf ar Suzy Davies i wneud y cynnig.
Cynnig NDM6913 Suzy Davies
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cytuno, yn unol ag adran 8(1) o, a pharagraff 21(b) i Atodlen 7 i, Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018, a Rheol Sefydlog 30A.10, bod yr Ysgrifennydd Gwladol yn gwneud Rheoliadau’r Amgylchedd Morol (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2018, yn unol â’r Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol a gafodd ei osod yn y Swyddfa Gyflwyno ar 31 Rhagfyr 2018.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Fe welwch fod hwnnw'n deitl bachog iawn. Bydd yr Aelodau'n falch nad diben y ddadl fer hon yw edrych ar fwriad polisi Rheoliadau'r Amgylchedd Morol (Diwygio) (Ymadael â'r UE) 2018 nac yn wir, i herio o ddifrif honiad Llywodraeth Cymru ei bod yn briodol i'r Cynulliad hwn gytuno i'r cynnig cydsyniad offeryn statudol hwn. Mae hyn yn ymwneud mwy â thynnu sylw'r Aelodau, unwaith eto, at allu Llywodraeth y DU i greu is-ddeddfwriaeth ar faterion o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd hon ac ystyried pryderon ynglŷn â sut y gall y Senedd hon gynnal ei throsolwg ei hun o sut y mae deddfwriaeth sylfaenol sy'n berthnasol i ni yn cael ei diwygio drwy is-ddeddfwriaeth Senedd arall.
Hyd yn hyn, yn ddealladwy rydym wedi canolbwyntio ein sylw ar ddeddfwriaeth sylfaenol a chynigion cydsyniad deddfwriaethol cysylltiedig, ac rydym wedi dod ar draws Biliau ar amaethyddiaeth a gofal iechyd sydd o bosibl wedi achosi i bwyllgorau godi eu haeliau. A bydd gan y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ddigon i'w ddweud maes o law ynglŷn â dewisiadau Llywodraeth Cymru o ran a ddylid argymell cynigion cydsyniad deddfwriaethol ai peidio, yn ogystal ag ansawdd y wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei darparu i'r Cynulliad i'n helpu i graffu ar y dewisiadau hynny.
Pa mor hawdd yw hi felly i golli golwg ar y pentwr o is-ddeddfwriaeth y dylai'r un egwyddorion fod yn berthnasol iddynt? Mae Llywodraeth y DU yn gosod llawer o offerynnau statudol, sy'n effeithio ar lawer mwy o ddarnau o ddeddfwriaeth sylfaenol, er mwyn rhoi cyfraith yr UE a gedwir mewn grym ar ôl Brexit. A gallai'r rhain drosglwyddo swyddogaethau gweithredol mewn meysydd lle y mae gennym gymhwysedd deddfwriaethol i Weinidogion Cymru, neu yn wir Ysgrifenyddion Gwladol gyda chydsyniad Gweinidogion Cymru, ac yn wir, maent yn gwneud hynny. Ac am ein bod yn sôn am offerynnau statudol, sy'n weithredol mewn meysydd cymhwysedd datganoledig, mae angen inni ddeall beth y mae Gweinidogion Cymru yn cytuno iddo mewn gwirionedd ar ein rhan, ac wrth gwrs ar eu rhan eu hunain.
Ceir proses Rheol Sefydlog ar gyfer hyn, ond mewn gwirionedd mae'r Llywodraeth yn penderfynu a allwn ddibynnu ar offerynnau statudol Llywodraeth y DU neu a ddylent gyflwyno'u his-ddeddfwriaeth eu hunain. Ar hyn o bryd, mae'r rhan fwyaf o'r adroddiadau a gawn gan Lywodraeth Cymru yn nodi y gallwn gytuno ar offerynnau statudol y DU, gan nad oes gwahaniaeth o ran polisi ac mae'n golygu bod y llyfr statud yn gliriach. Dyna yw cynnwys cyffredinol y memoranda esboniadol a ddaw i'r Aelodau yn argymell cefnogaeth y Cynulliad heb fod angen dadl: 'Nid oes dim i'w weld yma. Mae popeth mewn trefn. Pam gwastraffu amser y Cyfarfod Llawn?'
Gyda chymaint o offerynnau statudol yn dod drwodd o'r DU a meysydd datganoledig, mae angen i ni, fel Aelodau Cynulliad, fod mewn sefyllfa lle y gallwn ddibynnu ar farn Gweinidogion ac osgoi'r angen am ddadl. Fodd bynnag, mae yna achlysuron, a nifer cynyddol ohonynt, lle na allwn ddibynnu'n ddiogel ar y farn honno. Ac nid mater o fod y farn yn anghywir, ond nid oes gennym y dystiolaeth i gefnogi'r farn honno, a dyna pam rwy'n fwriadol wedi dewis yr enghraifft eithaf diniwed hon, gobeithio, i wneud fy mhwynt.
Cawn wybod yn y datganiad eglurhaol gan y Gweinidog y gallai'r offeryn statudol hwn ar gyfer y DU effeithio ar ein cymhwysedd deddfwriaethol a chymhwysedd gweithredol y Gweinidog oherwydd bod gennym rywfaint o gymhwysedd deddfwriaethol a gweithredol yng nghyswllt yr amgylchedd morol. Roedd cynnig y Gweinidog ei hun yn cynnwys ychydig mwy o fanylion ar bwerau presennol, ond dim mwy ar ein cymhwysedd deddfwriaethol, heblaw ei fod yn amodol ar ychydig o faterion a gedwir yn ôl. Rhoddir rhai enghreifftiau, ond ni cheir manylion pendant. Mae hefyd yn offeryn statudol gweithdrefn negyddol, sy'n cyfyngu ar drosolwg Senedd y DU, felly mae'r gwaith craffu eisoes yn llai na'r hyn a fyddai'n ddelfrydol.
Fy nadl i i Lywodraeth Cymru yw hyn: os credwch fod offeryn statudol y DU yn iawn a'ch bod am inni dderbyn eich cyngor heb ei drafod, rhowch gyngor llawnach i ni. Os oes rhywfaint o gymhwysedd deddfwriaethol gennym, nodwch beth ydyw. Os oes gan Weinidogion Cymru bwerau Gweithredol amrywiol o dan nifer o ddeddfiadau, dywedwch wrthym beth ydynt. Ac fel y byddwch yn gweld, rwyf wedi gorfod drafftio, gyda help wrth gwrs, a gosod fy nghynnig cydsyniad tebyg iawn fy hun er mwyn gwneud hyn, ac fel AC, nid oes gennyf adnoddau i ymchwilio ac i gael gafael ar y wybodaeth y gall gweision sifil ei chael. Mae eich swyddogion yn gwybod beth yw'r cymhwysedd deddfwriaethol hwnnw a beth yw'r pwerau Gweithredol hynny i wneud yr honiadau yn y lle cyntaf. Felly, nid yw'n ddigon dweud wrthym pa ddeddfwriaeth bresennol sy'n cael ei diwygio, mae angen cyd-destun ac eglurder arnom ynghylch effaith y newid ac mae angen i Weinidogion fod yn effro i hynny cyn iddynt ei gymeradwyo.
Felly, pam y mae hyn yn bwysig? Mae cymaint o'r offerynnau statudol hyn yn diwygio deddfwriaeth sylfaenol mewn meysydd datganoledig, a gallant roi pwerau i Weinidogion Cymru. Ac os yw'r unig graffu a gawn yn seiliedig ar gyngor i'r Gweinidog, mae angen i'r cyngor fod yn glir, yn gynhwysfawr a gallu goresgyn unrhyw le i amau bod gwrthdaro buddiannau, oherwydd ni ddylem ganiatáu i seneddau eraill roi pwerau i'n Gweinidogion heb i ni sicrhau ein bod yn deall sut, ble, pam a beth. Rwy'n deall yr eironi o ofyn i chi gydsynio i offeryn statudol rwyf newydd gyfaddef nad wyf yn ei ddeall yn iawn fy hun, ond rwy'n gobeithio ei fod yn profi'r pwynt. Diolch yn fawr iawn.
A gaf fi alw ar Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, Mick Antoniw?
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Bydd fy nghyfraniad y prynhawn yma'n nodi ystyriaeth y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol o'r memorandwm cydsyniad offeryn statudol ar gyfer Rheoliadau’r Amgylchedd Morol (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2018. Ystyriodd y pwyllgor femorandwm cydsyniad offeryn statudol Llywodraeth Cymru ar gyfer Rheoliadau’r Amgylchedd Morol (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2018 yn y cyfarfod ar 10 Rhagfyr 2018. Bryd hynny, nododd y pwyllgor y llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig ar y pryd, a oedd yn datgan:
O ystyried faint o ddeddfwriaeth y mae'r Cynulliad yn ei hystyried, nid wyf o'r farn y byddai dadl am yr offeryn statudol hwn yn ddefnydd cynhyrchiol o amser gwerthfawr y Cyfarfod Llawn.
Fel a ganiateir gan y Rheolau Sefydlog, ar 31 Rhagfyr 2018, gosododd Suzy Davies AC femorandwm cydsyniad offeryn statudol pellach gerbron y Cynulliad Cenedlaethol ar gyfer Rheoliadau’r Amgylchedd Morol (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2018. Ystyriodd y pwyllgor y memorandwm cydsyniad offeryn statudol hwnnw yn y cyfarfod ddydd Llun diwethaf, ac wrth wneud hynny, nodwyd rhesymau'r Aelod dros osod y memorandwm cydsyniad offeryn statudol a chyflwyno'r cynnig. Diolch.
A gaf fi gymeradwyo Suzy Davies am gynnig y memorandwm cydsyniad offeryn statudol hwn a'i chynnig cydsyniad dilynol, oherwydd—? Y darlun ehangach, rydym yn y sefyllfa hon mewn perthynas â rheoliadau Brexit ac mae'n rhaid inni ddal ati, ac nid wyf am ailadrodd ein hofnau eto ar yr ochr hon ynglŷn ag unrhyw ymgais i gipio grym yn sgil Brexit. Dyna'r darlun ehangach. Fel y clywsom, mae Rheol Sefydlog 30A yn nodi bod yn rhaid i'r Llywodraeth osod memorandwm a chynnig cydsyniad offeryn statudol os bydd offeryn statudol y DU yn caniatáu i Weinidogion y DU ddiwygio deddfwriaeth sylfaenol yma yng Nghymru mewn meysydd datganoledig. Dyna pam ei bod yn bwysig, ac fel y dywedais, rwy'n cymeradwyo Suzy am gyflwyno'r mater hwn a thaflu goleuni ar bwysigrwydd hyn. Nid oes unrhyw anghytuno penodol o ran yr offeryn penodol sydd ger ein bron, nid yw ond yn cael ei ddefnyddio fel enghraifft, gan fod gennym fframweithiau cyffredin bellach i roi trefn ar ddeddfwriaeth ymadael â'r UE. Fel y clywsom, mae llawer iawn o is-ddeddfwriaeth ar y ffordd.
Rydym yn sôn llawer am gydlywodraethu. Mewn geiriau eraill, nid yw'n fater syml o un Lywodraeth mewn un lle yn dweud wrth Lywodraeth arall mewn lle arall beth i'w wneud. Mae llywodraethu i fod i gael ei rannu bellach mewn ysbryd agored o barch a hyder yn ein gilydd. Ond yn amlwg, ar y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, rydym yn poeni ynglŷn â phethau fel hyn. Rydym yn poeni nid yn unig am golli pwerau o'r sefydliad hwn i San Steffan, rydym hefyd yn poeni am y posibilrwydd o golli pwerau o'r ddeddfwrfa hon i'n Llywodraeth ein hunain. Mae'r ddau beth hynny'n mynd â llawer o'r amser, a dyna'r fframwaith lle rydym yn cael y drafodaeth hon.
Felly, mae a wnelo hyn â gallu'r ddeddfwrfa hon i ddwyn y Llywodraeth hon i gyfrif, a dyna bwysigrwydd y ddadl fach hon y prynhawn yma, gan mai memoranda cydsyniad offeryn statudol yw'r hyn sy'n cyfateb mewn is-ddeddfwriaeth i gynigion cydsyniad deddfwriaethol ac mae gennym gynnig cydsyniad deddfwriaethol diweddar ar y trefniadau iechyd cyfatebol lle rydym wedi gweld ymgais eithaf amlwg gan Lywodraeth San Steffan i ehangu cwmpas y trefniadau iechyd cyfatebol o drosglwyddo swyddogaethau yn unig—. Dyna roedd pob un ohonom yn ei ddisgwyl, dim mwy na throsglwyddo swyddogaethau oherwydd Brexit, trosglwyddiad syml, ac rydym wedi gweld ymgais gwbl amlwg i ehangu cwmpas hynny, ac ar hyn o bryd, mae'r Gweinidog iechyd yma, yn briodol, yn bwriadu gwrthod cydsyniad deddfwriaethol oni chaiff y Bil penodol hwnnw ei ddiwygio yn unol â'n holl bryderon yma. Felly, dyna bwysigrwydd y ddadl hon.
Efallai ei fod yn bwynt cyfansoddiadol mursennaidd, ond mae'n un pwysig tu hwnt gan fod nifer y memoranda cydsyniad offeryn statudol sydd ar y ffordd yn syfrdanol, ac fel y dywedodd Suzy, mae gennym lawer iawn o adroddiadau yn dweud yr un peth yn union, ac mae ein cymorth deddfwriaethol yma'n gweithio'n hynod o galed i ddal i fyny gyda phopeth, ac mae'n rhaid inni beidio â cholli golwg ar bethau, oherwydd weithiau, o bosibl, gellid cytuno i bethau os nad ydym yn cadw llygad ar y manylion bychain.
Felly, rwy'n ddiolchgar i Suzy ein bod yn gallu taflu goleuni ar hyn. Mae'n amlygu'r posibilrwydd y gall deddfwrfa'r Cynulliad hwn, weithiau, gael ei hanwybyddu am nad oes digon o amser, am nad yw'n ddigon pwysig, am fod gormod o waith, ac am mai rhywbeth rhwng un Llywodraeth a'r llall ydyw—wel, mewn gwirionedd, mae'n ymwneud â'r ddeddfwrfa hon. Diolch yn fawr.
Diolch. A gaf fi alw ar Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig i siarad? Lesley Griffiths.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Diolch i Suzy Davies am gyflwyno'r cynnig hwn. Meddyliais tybed ai manylion Rheoliadau’r Amgylchedd Morol (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2018 roeddech yn awyddus i'w harchwilio'n fanwl. Ni fuaswn yn ei alw'n ddiflas, buaswn yn ei alw'n dechnegol, ond—. Nid wyf yn credu ei fod yn fursennaidd, chwaith. Rwy'n credu bod y pwynt a godwyd yn bwysig iawn.
Hoffwn ddweud bod ymadawiad y DU â'r Undeb Ewropeaidd wedi creu rhaglen ddeddfwriaethol ddigynsail ar draws pob Llywodraeth yn y DU; mae pob un ohonom yn gweithio i ddiwygio cyfraith sy'n deillio o'r UE fel bod gennym lyfr statud cwbl weithredol pan fyddwn yn ymadael, pa bryd bynnag fydd hynny, a chredaf ei bod yn gwbl hanfodol fod modd i lyfr statud Cymru barhau i fod yn weithredol.
Mae ein hymagwedd yma'n adlewyrchu'r angen real a dybryd i ymateb i'r amgylchiadau eithriadol sydd ynghlwm wrth Brexit, yn hytrach nag unrhyw ymgais o gwbl i gyfyngu ar neu lesteirio rôl y Cynulliad fel deddfwrfa. Roedd angen gweithio gyda Llywodraeth y DU ar rai agweddau ar y broses o ddeddfu ar gyfer Brexit oherwydd maint y ddeddfwriaeth sydd ei hangen. Mae Llywodraeth y DU wedi bod yn cynhyrchu ei hofferynnau statudol ei hun mewn rhai meysydd sydd wedi'u datganoli i Gymru, ond gyda chydsyniad Gweinidogion Cymru yn unig o dan delerau'r cytundeb rhynglywodraethol. Rydym yn hysbysu'r Cynulliad pryd bynnag y gosodir offerynnau statudol y DU rydym wedi cydsynio iddynt gerbron y Senedd, a hyd yn hyn, rydym wedi hysbysu'r Cynulliad ynglŷn â 76 offeryn o'r fath. Nid yw Gweinidogion Cymru ond yn cydsynio i offerynnau statudol y DU lle na cheir unrhyw wahaniaeth polisi rhwng Cymru a'r DU, ac mae'r penderfyniadau a wneir gan Weinidogion Cymru wedi'u cynllunio i sicrhau cydbwysedd rhwng y gyfres anarferol o ofynion a grëwyd gan Brexit, gydag ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddarparu'r cyfleoedd ymarferol gorau posibl ar gyfer craffu ar y camau deddfwriaethol hynny sydd â diben o sylwedd yn hytrach na diben technegol yn unig.
Ddirprwy Lywydd, credaf y byddai'n ddefnyddiol pe bai'r Aelodau yn cydnabod, pe baem wedi penderfynu gwneud pob cywiriad deddfwriaethol mewn perthynas ag ymadael â'r UE ar gyfer meysydd sydd wedi'u datganoli yng Nghymru yn unig, y byddai wedi bod angen gosod 200 o offerynnau statudol ac o leiaf bedwar Bil gerbron y Cynulliad yn ogystal â'r ddeddfwriaeth arferol. Ni fyddai modd pasio'r Biliau angenrheidiol yn yr amser a fyddai ar gael heb ddilyn y weithdrefn garlam, a fyddai, unwaith eto, yn cyfyngu ar waith craffu'r Cynulliad. Hyd yn oed wedyn, hyd yn oed pe baem yn anwybyddu'r holl fusnes arall, byddai wedi cymryd oddeutu chwe mis o amser y Cynulliad. Felly, ni chredaf ei fod yn fater ohonof fi'n meddwl ei fod yn wastraff ar amser y Cynulliad; rwy'n credu ei fod yn ymarferol iawn, dyna i gyd.
Hoffwn roi sicrwydd i'r Aelodau hefyd fy mod yn ystyried pob offeryn statudol ar sail unigol, sy'n rhywbeth y byddai pob un ohonoch, wrth gwrs, yn disgwyl i mi ei wneud. Mae fy swyddogion yn rhoi cyngor manwl iawn i mi. Rwyf hefyd wedi gweithio'n agos iawn gyda'r Cwnsler Cyffredinol mewn perthynas â'r offerynnau statudol hyn. Ond yn sicr, buaswn yn fwy na pharod i ystyried eich awgrymiadau, Suzy Davies, i weld a allwn ddarparu mwy o fanylion yn y datganiadau ysgrifenedig y byddwn yn eu cyflwyno. Diolch.
A gaf fi alw ar Suzy Davies i ymateb i'r ddadl?
Diolch, Ddirprwy Lywydd, a diolch am ganiatáu ychydig eiliadau ychwanegol imi ar hyn. Yn gyntaf oll, diolch yn fawr iawn i'r Gweinidog ac i Dai Lloyd am eu cyfraniadau. Roedd rhan o'r ddadl hon yn ymwneud â rhoi cyfle i'r Gweinidog esbonio i bob un ohonom faint yn union o waith sydd o dan sylw, ond nid yw hynny'n golygu nad oes yn rhaid i Weinidogion roi'r esboniad perthnasol llawnaf i ni er mwyn ein helpu i fod yn sicr eich bod yn gwneud y peth iawn ar ein rhan. Felly, roeddwn yn falch iawn o'ch clywed yn dweud eich bod yn cael y cyngor llawnaf gan eich swyddogion. Er nad ydym o reidrwydd yn dymuno rhywbeth o'r un maint â stamp, os gallwch gael rhywbeth sydd rhwng yr hyn rydym yn ei gael ar hyn o bryd a'r hyn rydych chi, o bosibl, yn ei gael gan eich swyddogion, credaf y byddai hynny'n darparu rhywfaint o sicrwydd i ni fel Senedd ein bod yn gwneud y peth iawn yn ymddiried yn eich crebwyll.
Ac a gaf fi ymddiheuro bod y ddadl benodol hon wedi dod i'ch rhan chi, gan fod y pwynt hwn yn un cyffredinol i bob aelod o'r Llywodraeth, ac nid yn unig i'r Gweinidog druan sydd wedi gorfod ymateb heddiw? Diolch.
Diolch. Y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.