Part of the debate – Senedd Cymru am 3:51 pm ar 16 Ionawr 2019.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Diolch i Suzy Davies am gyflwyno'r cynnig hwn. Meddyliais tybed ai manylion Rheoliadau’r Amgylchedd Morol (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2018 roeddech yn awyddus i'w harchwilio'n fanwl. Ni fuaswn yn ei alw'n ddiflas, buaswn yn ei alw'n dechnegol, ond—. Nid wyf yn credu ei fod yn fursennaidd, chwaith. Rwy'n credu bod y pwynt a godwyd yn bwysig iawn.
Hoffwn ddweud bod ymadawiad y DU â'r Undeb Ewropeaidd wedi creu rhaglen ddeddfwriaethol ddigynsail ar draws pob Llywodraeth yn y DU; mae pob un ohonom yn gweithio i ddiwygio cyfraith sy'n deillio o'r UE fel bod gennym lyfr statud cwbl weithredol pan fyddwn yn ymadael, pa bryd bynnag fydd hynny, a chredaf ei bod yn gwbl hanfodol fod modd i lyfr statud Cymru barhau i fod yn weithredol.
Mae ein hymagwedd yma'n adlewyrchu'r angen real a dybryd i ymateb i'r amgylchiadau eithriadol sydd ynghlwm wrth Brexit, yn hytrach nag unrhyw ymgais o gwbl i gyfyngu ar neu lesteirio rôl y Cynulliad fel deddfwrfa. Roedd angen gweithio gyda Llywodraeth y DU ar rai agweddau ar y broses o ddeddfu ar gyfer Brexit oherwydd maint y ddeddfwriaeth sydd ei hangen. Mae Llywodraeth y DU wedi bod yn cynhyrchu ei hofferynnau statudol ei hun mewn rhai meysydd sydd wedi'u datganoli i Gymru, ond gyda chydsyniad Gweinidogion Cymru yn unig o dan delerau'r cytundeb rhynglywodraethol. Rydym yn hysbysu'r Cynulliad pryd bynnag y gosodir offerynnau statudol y DU rydym wedi cydsynio iddynt gerbron y Senedd, a hyd yn hyn, rydym wedi hysbysu'r Cynulliad ynglŷn â 76 offeryn o'r fath. Nid yw Gweinidogion Cymru ond yn cydsynio i offerynnau statudol y DU lle na cheir unrhyw wahaniaeth polisi rhwng Cymru a'r DU, ac mae'r penderfyniadau a wneir gan Weinidogion Cymru wedi'u cynllunio i sicrhau cydbwysedd rhwng y gyfres anarferol o ofynion a grëwyd gan Brexit, gydag ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddarparu'r cyfleoedd ymarferol gorau posibl ar gyfer craffu ar y camau deddfwriaethol hynny sydd â diben o sylwedd yn hytrach na diben technegol yn unig.
Ddirprwy Lywydd, credaf y byddai'n ddefnyddiol pe bai'r Aelodau yn cydnabod, pe baem wedi penderfynu gwneud pob cywiriad deddfwriaethol mewn perthynas ag ymadael â'r UE ar gyfer meysydd sydd wedi'u datganoli yng Nghymru yn unig, y byddai wedi bod angen gosod 200 o offerynnau statudol ac o leiaf bedwar Bil gerbron y Cynulliad yn ogystal â'r ddeddfwriaeth arferol. Ni fyddai modd pasio'r Biliau angenrheidiol yn yr amser a fyddai ar gael heb ddilyn y weithdrefn garlam, a fyddai, unwaith eto, yn cyfyngu ar waith craffu'r Cynulliad. Hyd yn oed wedyn, hyd yn oed pe baem yn anwybyddu'r holl fusnes arall, byddai wedi cymryd oddeutu chwe mis o amser y Cynulliad. Felly, ni chredaf ei fod yn fater ohonof fi'n meddwl ei fod yn wastraff ar amser y Cynulliad; rwy'n credu ei fod yn ymarferol iawn, dyna i gyd.
Hoffwn roi sicrwydd i'r Aelodau hefyd fy mod yn ystyried pob offeryn statudol ar sail unigol, sy'n rhywbeth y byddai pob un ohonoch, wrth gwrs, yn disgwyl i mi ei wneud. Mae fy swyddogion yn rhoi cyngor manwl iawn i mi. Rwyf hefyd wedi gweithio'n agos iawn gyda'r Cwnsler Cyffredinol mewn perthynas â'r offerynnau statudol hyn. Ond yn sicr, buaswn yn fwy na pharod i ystyried eich awgrymiadau, Suzy Davies, i weld a allwn ddarparu mwy o fanylion yn y datganiadau ysgrifenedig y byddwn yn eu cyflwyno. Diolch.