6. Dadl ar Egwyddorion Cyffredinol y Bil Awtistiaeth (Cymru)

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:00 pm ar 16 Ionawr 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Paul Davies Paul Davies Conservative 4:00, 16 Ionawr 2019

(Cyfieithwyd)

Rwy'n rhannu pryderon a amlygwyd gan y Pwyllgor Cyllid ynglŷn â'r rhyngweithio rhwng Llywodraeth Cymru a'r Bil hwn. Cytunaf yn llwyr â'r pwyllgor fod cyfrifoldeb ar Lywodraeth Cymru i ddarparu gwybodaeth ariannol i Aelodau'r Cynulliad wrth iddynt baratoi deddfwriaeth, ac yng ngoleuni ymateb y Prif Weinidog i'r pwyllgor, mae fy mhryderon yn parhau.

Mae'r Gweinidog iechyd wedi dweud yn glir nad yw'n cefnogi'r Bil hwn. Yn lle hynny, mae'n ymgynghori ar god ymarfer ar ddarparu gwasanaethau awtistiaeth. Dywedodd wrth y pwyllgor y bydd y cod yn gwneud popeth y mae'r Bil am ei wneud, ond nid wyf yn credu y bydd y cod yn ddigon i gyflawni'r newidiadau sydd eu hangen i wella gwasanaethau. Caiff fy mhryderon eu rhannu gan y Gymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth ac eraill, ac fe amlinellaf rai o'r rheini heddiw.

Byddai fy Mil yn gosod dyletswydd ar Lywodraeth Cymru i baratoi a chyhoeddi strategaeth awtistiaeth, yn ogystal â'i hadolygu a'i ddiwygio yn seiliedig ar asesiad annibynnol, ond nid oes unrhyw gyfeiriad yn y cod at ddyletswyddau ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi, adolygu neu ddiwygio'r cod neu gynllun gweithredu ar awtistiaeth. Mae'n bwysig pwysleisio nad yw'r cod arfaethedig yn orfodaeth ar gyrff iechyd. Testun pryder pellach i bobl ag awtistiaeth a'u teuluoedd yw'r ffaith y gall Llywodraeth Cymru wrthdroi'r cod ar unrhyw adeg. Mae hyn yn wahanol iawn i'r drefn barhaol a hollgynhwysol a nodir yn y Bil.

Mae fy Mil yn clymu'r amserlen ar gyfer diagnosis o awtistiaeth wrth y rhai a nodwyd gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE), tri mis rhwng atgyfeirio a dechrau asesu diagnostig. Mae'r amser aros hir am ddiagnosis yn faes pryder enfawr i lawer o bobl ag awtistiaeth a'u teuluoedd. Mae safonau NICE yn seiliedig ar dystiolaeth ac arbenigedd clinigol, ond er ei bod yn cydnabod pwysigrwydd ac awdurdod NICE mewn agweddau eraill ar ofal iechyd, mae Llywodraeth Cymru wedi dewis eu hanwybyddu mewn perthynas ag amseroedd aros ar gyfer gwneud diagnosis o awtistiaeth, ac mae'n parhau i lynu at darged o 26 wythnos ar gyfer plant a hyd yn hyn, ni cheir targed ar gyfer oedolion. Rwyf eto i weld y dystiolaeth y seiliwyd y targed hwn arni.

Mae'r cod wedi ei glymu'n dynn wrth Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018, ond mae fy Mil i'n cynnwys darpariaethau sy'n llawer ehangach na'r Deddfau hynny. Mae fy Mil yn darparu ar gyfer diwallu anghenion pobl ag awtistiaeth a'u gofalwyr o ran y Gymraeg, cyflogaeth, addysg ac eiriolaeth, ond nid oes unrhyw ddyletswyddau na gofynion yn y cod sy'n ymwneud ag unrhyw un o'r meysydd hyn. Yn lle hynny, mae'r cod yn dweud y dylai byrddau iechyd ac awdurdodau lleol wneud addasiadau rhesymol. Mae hyn lawer yn wannach na'r ddyletswydd statudol yn y Bil, ac yn ei hanfod mae'n galluogi Llywodraeth Cymru i barhau i wneud mwy o'r un peth. Rwy'n bryderus ynglŷn â chylch gorchwyl cul y cod, gan nad yw'n darparu ar gyfer yr agweddau ehangach ar fywyd unigolyn. Mae dull cyfannol ehangach yn hanfodol os ydym i sicrhau bod pobl ag awtistiaeth yn gallu cyflawni eu potensial, a byw bywydau gwerthfawr a chyflawn. Mae'r dystiolaeth rymus a roddwyd gan deuluoedd sy'n byw gydag awtistiaeth, drwy fy ymgynghoriadau ac yn ystod y gwaith craffu, yn ategu hyn a mwy.

Er bod y Bil yn cynnwys darpariaeth i sicrhau bod gwasanaethau'n adlewyrchu ac yn hwyluso'r broses o bontio rhwng plentyndod a bywyd fel oedolyn, mae'r cod yn cyfeirio at bontio wrth adael ysgol, ond ni cheir unrhyw ofynion neu ddyletswyddau yn y cod i hyrwyddo hyn mewn ffordd ystyrlon. Rydym oll yn ymwybodol o'r rôl werthfawr a chwaraeir gan deuluoedd a ffrindiau drwy ddarparu gofal anffurfiol i'w hanwyliaid, a dyna pam y mae fy Mil yn cryfhau ac yn cefnogi teuluoedd a gofalwyr pobl ag awtistiaeth. Nid oes ymrwymiad o'r fath yn y cod, sydd ond yn cynnwys gofyniad i hysbysu gofalwyr am eu hawl i asesiad o dan y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol. Mae hyn yn peri pryder arbennig i mi, oherwydd nid wyf yn credu ei fod yn ddigonol i ddiwallu anghenion y gofalwyr hynny.

Hoffwn drafod yn awr y feirniadaeth o'r Bil sy'n dweud ei fod yn cael ei arwain gan ddiagnosis. Mae'r honiad yn gamarweiniol. Mae'r Bil yn ymwneud â mwy na diagnosis; yn hytrach mae'n cyflwyno cyfundrefn drosfwaol sy'n ceisio mynd i'r afael â holl anghenion person ag awtistiaeth cyn ac ar ôl diagnosis. Nid yw'r Bil yn nodi yn unman fod diagnosis o awtistiaeth yn ofyniad ar gyfer cael gwasanaethau, neu y dylai fod. Yn wir, nid yw cael diagnosis o awtistiaeth yn basbort awtomatig i wasanaethau. Mae fy Mil yn darparu'n benodol ar gyfer sicrhau y gellir darparu gwasanaethau cyn cael diagnosis ffurfiol.

Honnwyd y bydd y Bil yn arwain at gynnydd yn y nifer sy'n cael diagnosis o awtistiaeth, ond pennir meini prawf diagnostig gan ddatblygiadau yn y wybodaeth wyddonol ac ymarfer proffesiynol, ac ni fydd hynny'n newid o ganlyniad i'r Bil hwn. Ac nid oes modd amddiffyn yn foesol y ddadl y dylai pobl ag awtistiaeth fethu cael diagnosis ar sail ariannol yn unig, neu oherwydd prinder adnoddau. Ar y llaw arall, bydd y gofynion casglu data yn y Bil yn helpu i nodi unrhyw duedd tuag at or-ddiagnosis gan fyrddau iechyd a fydd, yn ei dro, yn arwain at dargedu adnoddau'n fwy effeithlon.

Mae'r dystiolaeth o dreialon presennol yng Nghymru wedi sefydlu'n eglur y gall casglu data allweddol gan y GIG, fel y data a nodir yn adran 6 o'r Bil, arwain at welliannau hirdymor mewn diagnosis o awtistiaeth a darparu gwasanaethau cymorth cysylltiedig. Ni fyddai'r gofynion casglu data cyfyngedig a heb eu profi yn y cod arfaethedig yn cynnig y manteision hyn. Rwy'n derbyn bod mentrau wedi'u datblygu'n ddiweddar, yn enwedig sefydlu'r gwasanaeth awtistiaeth integredig. Mae'r Gweinidog wedi dweud wrth y Cynulliad fod angen amser i'r gwasanaeth awtistiaeth integredig ymsefydlu. Eto i gyd, mae dau o'r saith gwasanaeth yn dal i fod heb eu rhoi ar waith eto—nid oes disgwyl i orllewin Cymru a'r bae Gorllewinol fod ar waith tan fis Ebrill 2019. Mae'r broses hon wedi cymryd llawer gormod o amser. Sut y gall yr Aelodau fod yn hyderus y bydd y gwasanaeth awtistiaeth integredig yn darparu ar gyfer eu hetholwyr pan fo cynifer ohonynt yn dal i aros i'r gwasanaeth gael ei gyflwyno? At hynny, nid yw'r gwerthusiad terfynol o'r cynllun gweithredu strategol a'r gwasanaeth awtistiaeth integredig wedi'i gyhoeddi eto. Bydd yr adroddiad terfynol yn darparu tystiolaeth annibynnol bwysig ar effeithiolrwydd cynllun gweithredu strategol Llywodraeth Cymru ar awtistiaeth. A heb weld y wybodaeth hanfodol hon, ni all yr Aelodau wneud asesiad ystyrlon o ddull Llywodraeth Cymru o weithredu.

Hoffwn ddweud yn glir na fydd fy Mil yn arwain at newidiadau enfawr i strwythur a chyfluniad gwasanaethau awtistiaeth, ond mae'n ceisio ategu ac atgyfnerthu  datblygiadau sydd eisoes ar y gweill. Mae fy Mil wedi'i gynllunio i ategu a bod yn gydnaws â gweithgareddau presennol Llywodraeth Cymru, ac eithrio gwelliannau allweddol penodol megis amseroedd aros diagnostig, ac fel y cyfryw, mae'n gwbl realistig a chyraeddadwy.

Nid ymwneud â pha un a fydd y Bil ar ei ffurf bresennol yn dod yn ddeddf y mae'r bleidlais heddiw, ond yn hytrach â chytuno ar yr egwyddorion cyffredinol er mwyn i graffu allu digwydd. Os na dderbynnir yr egwyddorion cyffredinol heddiw, bydd y Bil yn methu, ac ni chaiff yr Aelodau gyfle arall i siapio'r ffordd y caiff gwasanaethau awtistiaeth eu datblygu yng Nghymru. Bydd cytuno ar yr egwyddorion cyffredinol yn galluogi'r Aelodau i gyflwyno ac i drafod y gwelliannau yr hoffent eu gweld i'r Bil. Dyma'r unig ffordd o sicrhau bod yr Aelodau'n flaenllaw yn y gwaith o siapio datblygiad gwasanaethau awtistiaeth yn y dyfodol. Ni fydd cyfle arall os yw'r Bil yn methu heddiw.

Er bod Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ar god, ni fydd yn ddarostyngedig i graffu i'r un graddau ag y bydd Bil, ac ni fydd yr Aelodau'n cael y gair olaf ar ei gynnwys. Rwy'n credu'n angerddol y bydd fy Mil yn sicrhau gwelliannau gwirioneddol a chynaliadwy i fywydau pobl ag awtistiaeth a'u teuluoedd yng Nghymru, a gofynnaf i'r Aelodau am eu cefnogaeth i gytuno ar egwyddorion cyffredinol y Bil pwysig hwn y prynhawn yma.