Part of the debate – Senedd Cymru am 4:25 pm ar 16 Ionawr 2019.
Rwy'n derbyn efallai eich bod yn ffeithiol gywir pan ddywedoch yn awr nad oedd argymhellion yr un o'r pwyllgorau'n nodi y dylai'r Bil fynd rhagddo, ond dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid yn huawdl yn ei gyfraniad yn gynharach nad oeddem ni fel pwyllgor yn gallu penderfynu y naill ffordd neu'r llall. Felly, ni wnaethom wrthod y Bil chwaith, dim ond dweud nad oedd digon o gostau wedi'u darparu ar ein cyfer, gan Lywodraeth Cymru yn bennaf, er mwyn iddo allu mynd rhagddo.