6. Dadl ar Egwyddorion Cyffredinol y Bil Awtistiaeth (Cymru)

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:23 pm ar 16 Ionawr 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 4:23, 16 Ionawr 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch ichi, Ddirprwy Lywydd. Rwyf am ddweud ar y dechrau fod pawb yn y Siambr hon am wella canlyniadau ac ansawdd bywyd i bobl awtistig a'u teuluoedd. A chytunaf fod angen i gymorth i bobl awtistig fod yn well. Nid yw'r cymorth hwnnw ar gael yn gyson eto, ac i rai teuluoedd mae'n teimlo fel brwydr i gael y cymorth cywir ac fel pe bai'r system yn gweithio yn eu herbyn. Bydd llawer, os nad pob un ohonom ar draws y Siambr hon, wedi clywed am y profiad hwn yn uniongyrchol gan ein hetholwyr, ac yn cydnabod yr effaith y gall hyn ei chael ar deuluoedd y cawsom ein hethol i'w gwasanaethu, ac yn fwy na hynny, mae nifer o bobl ar draws y Siambr yn gyfarwydd â'r profiad hwnnw yn ein teuluoedd ein hunain.

Ceir pryderon dilys a difrifol y mae'r Llywodraeth a minnau o ddifrif yn eu cylch ac wedi ymrwymo i fynd i'r afael â hwy. Dyna pam y mae'r Llywodraeth hon wedi buddsoddi'n sylweddol, a bydd yn parhau i fuddsoddi, mewn gwasanaethau newydd. Nid a ddylem wella gwasanaethau i wneud gwahaniaeth go iawn i brofiad byw pobl awtistig a'u teuluoedd sydd wrth wraidd y gwahaniaeth rhyngom yn y Siambr hon; mae'r gwahaniaeth rhyngom yn ymwneud â sut y gallwn wneud y gwahaniaeth hwnnw.

Hoffwn ddiolch i'r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon, y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol a'r Pwyllgor Cyllid am ddwyn ynghyd ystod eang o safbwyntiau wrth iddynt graffu ar y ddeddfwriaeth. Mae adroddiadau'r pwyllgorau'n dangos consensws eang ar gyfer ceisio gwneud gwelliannau yn ein gwasanaethau awtistiaeth. Nid oes unrhyw un o adroddiadau pwyllgorau'r Cynulliad yn gwneud argymhelliad cadarnhaol y dylai'r Bil fynd rhagddo. Credwn fod gennym yr holl bwerau deddfwriaethol sydd eu hangen arnom i gyflawni'r gwelliannau gofynnol mewn gwasanaethau awtistiaeth, ac rydym yn cyflawni'r ymrwymiadau a nodwyd gennym yn y strategaeth awtistiaeth. Os na wireddir y gwelliannau rydym wedi ymrwymo i'w gwneud, mae'r drws ar agor i ddeddfwriaeth yn y dyfodol, os byddai hynny'n gwneud y gwahaniaeth y mae pawb ohonom am ei weld.