6. Dadl ar Egwyddorion Cyffredinol y Bil Awtistiaeth (Cymru)

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:29 pm ar 16 Ionawr 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Helen Mary Jones Helen Mary Jones Plaid Cymru 4:29, 16 Ionawr 2019

(Cyfieithwyd)

Yn fyr iawn, Weinidog. Credaf eich bod yn camddarlunio safbwynt y comisiynydd plant. Yr hyn y mae hi wedi'i ddweud yw ei fod yn fater dadleuol, ac mae gennyf ei hymateb yma o fy mlaen. Mae'r angen am ddeddfwriaeth yn fater dadleuol. Rwy'n cydnabod yn llwyr eich bod yn gywir o ran yr hyn a ddywedoch am y cyrff eraill a grybwyllwyd gennych, ond credaf y dylech adolygu'r hyn a ddywedoch am y comisiynydd plant, gan nad yw hynny'n gywir.