Part of the debate – Senedd Cymru am 4:46 pm ar 16 Ionawr 2019.
Diolch am eich ymyriad, Dai—a minnau hefyd, wrth gwrs. Nawr, ar ochr arall y ddadl hon mae gennym y bobl ag awtistiaeth a'u teuluoedd, a'r sefydliadau sy'n eu cynrychioli. Drwy'r broses hon, yn bersonol ni chlywais unrhyw leisiau o'r grŵp hwn yn gwrthwynebu'r ddeddfwriaeth, er fy mod yn derbyn yn llawn na all hynny gynnwys pob barn, ac fe glywais, a gwrandewais yn ofalus iawn, ar beth oedd gan Hefin David i'w ddweud—er bod llawer o aelodau o deuluoedd yn dweud yn glir, wrth gwrs, na fyddai deddfwriaeth yn ddigon ar ei phen ei hun.
Fel y dywedais, roeddent yn disgrifio'r heriau enfawr a wynebir o ran mynediad at wasanaethau. Fe'm trawyd yn arbennig gan rieni a oedd wedi cyfrannu at ymgynghoriadau blaenorol, a oedd wedi eistedd mewn gweithgorau cenedlaethol a lleol, wedi cyfrannu cannoedd o oriau o gyngor a chymorth am ddim—a chlywed ganddynt wedyn nad oes unrhyw beth wedi newid yn eu canfyddiad hwy. Heb rym cyfreithiol nid ydynt yn credu y bydd unrhyw beth yn newid. Rhaid imi ddweud wrth y Gweinidog fod y teuluoedd hyn yn teimlo eu bod wedi clywed hyn i gyd o'r blaen.
Nawr, mae safbwynt y Llywodraeth, yr hoffwn gyfeirio ato'n fyr, yn rhyfedd a dweud y lleiaf. Ar y naill law, dywed y Gweinidog nad oes angen diagnosis, a bod y Ddeddf gwasanaethau cymdeithasol a llesiant yn pennu sut y dylid darparu cymorth i bobl, yn seiliedig ar angen, heb ddiagnosis ffurfiol. Buaswn yn rhoi cefnogaeth lwyr i'r safbwynt hwnnw, ond mae'r holl dystiolaeth a gawsom ar y pwyllgor iechyd yn dangos nad yw hynny'n wir. Yn enwedig i blant ag awtistiaeth, heb ddiagnosis, nid oes unrhyw beth yn digwydd. Nid yw'n digwydd, a hyd yn oed pe bai'n digwydd, ni fydd rhai o'r bobl sydd ag awtistiaeth byth yn cyrraedd y trothwy ar gyfer y math o gymorth y lluniwyd y Ddeddf honno ar ei gyfer.
Nawr, mae'r Gweinidog yn dweud bod deddfwriaeth ar gyfer cyflyrau penodol yn ddi-fudd ac nad oes mo'i hangen. Eto, ar yr un pryd, mae'n argymell cyflwyno cod statudol ar gyfer cyflwr penodol. Nawr, wyddoch chi, Ddirprwy Lywydd, nid yw hyn gwneud unrhyw synnwyr o gwbl. Rwy'n eithaf cyfarwydd â chael negeseuon cymysg gan y Llywodraeth hon, ond nid yn aml y maent yn gwrth-ddweud ei hunain yn agored fel y gwnaeth y Gweinidog yn un o'n cyfarfodydd.
Nid yw'r teuluoedd yn credu, ar y cyfan, fod cod yn ddigon. A yw'r ddeddfwriaeth hon yn berffaith? Wel, mae'n bosibl nad ydyw, ac mae'r Aelod sy'n ei chyflwyno wedi cydnabod hyn. Mae yna bryderon ynglŷn â'r anhawster i orfodi hawliau, a gwn ei fod wedi cytuno i edrych ar hyn. Efallai bod gorbwyslais ar asesu a diagnosis, yn hytrach na'r hawl statudol i gael gwasanaethau. Unwaith eto, mae'r Aelod sy'n noddi wedi dweud yn glir ei fod yn hapus i weithio gydag eraill i fynd i'r afael â hyn drwy gyfnod nesaf y broses.
Fel y teuluoedd, mae arnaf ofn nad wyf yn argyhoeddedig, ar ôl bod drwy'r broses flaenorol o greu'r strategaeth, fod unrhyw beth heblaw deddfwriaeth yn mynd i sicrhau'r hyn y maent yn eu haeddu i'r cyd-ddinasyddion hyn. Ar y sail honno, ac ar ran y bobl ag awtistiaeth a'u teuluoedd, gan gynnwys y rheini yn yr oriel yma heddiw, rwy'n cymeradwyo'r cynnig hwn i'r Senedd. Gadewch i ni ganiatáu i'r ddeddfwriaeth symud ymlaen i'r cyfnod nesaf.