7. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau: 'Diogelwch tân mewn adeiladau uchel iawn'

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:13 pm ar 16 Ionawr 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Melding David Melding Conservative 5:13, 16 Ionawr 2019

(Cyfieithwyd)

Rwy'n credu bod cyhoeddi'r adroddiad hwn yn garreg filltir i bawb sy'n gysylltiedig i sicrhau bod pobl sy'n byw mewn adeiladau fel Tŵr Grenfell, ond yn y sector preifat, yn ddiogel ac yn teimlo'n ddiogel, ac rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Cynulliad hwn yn barhaus am y cynnydd y mae'r Llywodraeth yn ei wneud tuag at weithredu'r argymhellion. Credaf mai ymateb i'r adroddiad oedd un o'r gweithredoedd cyntaf i chi ei wneud yn eich cyfrifoldebau newydd, ac mae'n gadarnhaol ar y cyfan.

Rhywbeth a oedd yn glir iawn i mi, Ddirprwy Lywydd, drwy gydol y sesiynau tystiolaeth oedd nad yw'r system bresennol yn addas i'r diben. Ac mae'n boenus ei bod hi wedi cymryd digwyddiad fel tân Grenfell inni sylweddoli hynny, ond mae'n golygu yn fy marn i fod yn rhaid inni gael dull cynhwysfawr a chadarn o ddiwygio yn y maes hwn. Rydym ni yn y Ceidwadwyr Cymreig yn cytuno'n llwyr â chasgliadau'r adroddiad hwn ac yn cefnogi'r egwyddorion sy'n sail i'w argymhellion am system newydd a mwy cadarn o'r fath. Rydym yn cytuno â'r alwad am fwy o eglurder ac atebolrwydd o ran pwy sy'n gyfrifol am ddiogelwch adeiladau yn ystod y gwaith o adeiladu, adnewyddu a rheoli cartrefi mewn adeiladau uchel iawn ar sail barhaus.

Hefyd a gaf fi fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i'r holl dystion a roddodd dystiolaeth i un o'r ymchwiliadau pwyllgor pwysicaf i mi gymryd rhan ynddo? Clywsom dystiolaeth o'r ansawdd uchaf yn fy marn i a chryn dipyn o gysondeb o ran yr hyn a ddywedodd y tystion wrthym.

Hoffwn ddewis rhai o'r argymhellion a chanolbwyntio ar y rheini, ac yn wir, dadleuais yn gryf dros y rhai a ddewisais yn yr adroddiad, a chredaf fod yr holl Aelodau wedi eu hargyhoeddi gan y dystiolaeth a glywsom yn eu cylch. Rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog yn gallu dweud ychydig mwy o eiriau yn ei hymateb i'r ddadl ar y materion hyn, ac yn wir, cyfeiriodd y Cadeirydd at nifer ohonynt eisoes.

Felly, roedd argymhelliad 3 yn arbennig yn agoriad llygad go iawn i mi. Rwy'n falch iawn ein bod wedi gwneud argymhelliad cryfach nag a geir yn adolygiad Hackitt. Ni chredaf y byddai llawer o bobl yn credu nad yw'r Gorchymyn diogelwch tân yn gosod unrhyw ofynion o ran cymhwysedd neu gymwysterau'r sawl sy'n cynnal asesiad risg tân, neu yn wir o ran amlder yr asesiadau hynny. Byddai argymhelliad 3 ein hadroddiad yn unioni hyn, ac mae i'w weld yn ddiwygiad amlwg a synhwyrol i sicrhau bod adeiladau'n cael eu monitro'n gyson ar gyfer risgiau tân.

Yn y pwyllgor, credwn fod diffyg gofynion sylfaenol yn y ddeddfwriaeth yn fwlch amlwg, ac nid oedd yn cyd-fynd â gwaith tebyg arall megis gwiriadau diogelwch nwy, er enghraifft, felly rwy'n falch fod y Llywodraeth yn derbyn yr argymhelliad hwn mewn egwyddor, er fy mod yn nodi'r hyn a ddywedodd Llywodraeth Cymru am amserlen a chymhlethdod y gwaith hwn, ac mae'r Cadeirydd wedi cyfeirio at hyn. Rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog yn ei hymateb yn amlinellu sut y mae'n bwriadu symud ymlaen ar hyn a beth yw'r amserlen y mae'n ei rhagweld ar gyfer ei gyflawni. Rwy'n credu ei fod yn un o'r newidiadau mwy ymarferol y gallwn ei roi ar waith yn gyflym, gobeithio, ac rwy'n hyderus y byddai'n gwneud gwahaniaeth sylweddol i ddiogelwch tân adeiladau uchel iawn. Ac rwy'n rhannu dyhead y Cadeirydd i weld deddfwriaeth o fewn y Cynulliad hwn, a gallaf eich sicrhau y byddech yn cael cydweithrediad llawn gan Blaid Geidwadol Cymru—a'r holl bleidiau a gynrychiolir yn y Siambr hon rwy'n siŵr—os gosodwch hynny'n uchelgais ar gyfer y Cynulliad hwn.

Ddirprwy Lywydd, yn ystod y cyfnod cyn cyhoeddi strategaeth dai'r Ceidwadwyr Cymreig yn ddiweddar, cefais nifer o drafodaethau gyda'r diwydiant adeiladu mewn perthynas â'r diffyg cyfleoedd i wella sgiliau yng Nghymru fel y gall gweithwyr hŷn foderneiddio eu dulliau, a chredaf fod hwn yn fater sy'n codi ledled y DU, nid yn unig yng Nghymru. Dyma rywbeth y credaf fod y Gweinidog wedi'i grybwyll hefyd yn ei hymateb i argymhelliad 8, sy'n ymwneud â sicrhau ansawdd gwaith adeiladu. Byddai gennyf ddiddordeb mewn gweld a fyddai'r Gweinidog yn barod i ymhelaethu yn ei hymateb, yn ysgrifenedig efallai, neu'n uniongyrchol heddiw, er mwyn tynnu sylw at y sgyrsiau y mae swyddogion yn eu cael gyda Llywodraeth y DU a'r diwydiant i gael y cyfleoedd hyfforddiant hyn ar waith.

Rwy'n siomedig mai mewn egwyddor yn unig y derbyniwyd argymhelliad 6. Credaf fod y model cyd-awdurdod cymwys wedi cael cefnogaeth gyson yn y dystiolaeth. Mae'r model yn edrych ar gylch bywyd cyfan adeilad ac mae'n cynnwys awdurdodau lleol, rheolaeth adeiladu, tân ac achub a'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch i oruchwylio'r gwaith o reoli diogelwch, ac rwy'n credu mai'r newid mwyaf yno oedd edrych ar gylch bywyd cyfan adeiladau.

Felly, buaswn yn gwerthfawrogi ymateb llawn, os yn bosibl, o leiaf ar gyfeiriad teithio'r Gweinidog yn awr, pa mor gyflym y bydd yn cyflawni'r argymhellion, a rhagor o wybodaeth hefyd am y rhai a dderbyniwyd mewn egwyddor yn unig. Credaf y bydd hyn yn mynd yn bell i sicrhau y gall y rhai sy'n byw mewn adeiladau uchel iawn gael cartref diogel a chael y tawelwch meddwl a'r sicrwydd y maent yn ei haeddu. Diolch yn fawr iawn.