Part of the debate – Senedd Cymru am 5:05 pm ar 16 Ionawr 2019.
Rwyf am symud ymlaen yn awr at rai o'r meysydd allweddol yn ein hadroddiad. Nid wyf yn bwriadu mynd drwy bob un o'n hargymhellion, ond yn hytrach, fe ganolbwyntiaf ar reoli adeiladau, yr angen i ddiweddaru'r ddeddfwriaeth diogelwch tân a'r angen am reoli adeiladau'n drylwyr. Mae rheoli adeiladau'n effeithiol yn hanfodol er mwyn sicrhau diogelwch tân mewn adeiladau preswyl uchel iawn. Cawsom ein calonogi gan y dystiolaeth a gafwyd gan asiantau rheoli. Roedd hi'n amlwg fod y rhai a roddodd dystiolaeth i ni o ddifrif ynglŷn â'u cyfrifoldebau a rhoesant dystiolaeth inni ynglŷn â sut roeddent yn sicrhau diogelwch eu hadeiladau. Ond gwyddom mai gan ran o'r farchnad yn unig y clywsom. Rydym yn pryderu efallai nad oes gan rai o'r bobl sy'n rheoli adeiladau lefelau digonol o gymhwysedd a phrofiad, neu eu bod o bosibl yn torri corneli er mwyn lleihau costau. Felly, gwnaethom argymhelliad 1: mae hwn yn galw am reoleiddio asiantau sy'n rheoli adeiladau preswyl uchel iawn. Roeddem yn derbyn y gallai hyn fod yn gymhleth a gallai gyflwyno rheoliadau o'r fath gymryd peth amser. Felly, yn y cyfamser, roeddem yn awgrymu y dylid edrych i weld a allai Rhentu Doeth Cymru fabwysiadu'r rôl hon. Rwy'n falch fod y Llywodraeth wedi derbyn yr argymhelliad hwn. Yn eu hymateb, roeddent yn manylu ar yr adolygiadau a edrychai ar ddiwygio lesddeiliadaeth yn ehangach, ac mae disgwyl eu hadroddiad erbyn yr haf. Byddai'n dda pe bai'r Gweinidog yn gallu rhoi ymrwymiad clir heddiw y bydd gweithredu'r argymhellion sy'n deillio o'r adolygiadau yn cael blaenoriaeth fel y gallwn ddechrau gweld newidiadau'n digwydd ar y cyfle cyntaf. Cydnabûm sylwadau'r Gweinidog efallai na fydd y mesurau dros dro a awgrymwyd gennym yn gweithio'n ymarferol, ond ar y cam hwn, a all roi mwy o fanylion ynglŷn â pha gamau y gellir eu cymryd yn y cyfamser i fynd i'r afael â 'n pryderon?
Rwyf am symud yn awr at fater sy'n ymwneud â Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 2005. Buom yn galw am ei ddiwygio ers inni ddechrau edrych ar y mater hwn ym mis Gorffennaf 2017. Roedd yn faes a oedd yn destun pryder sylweddol ar y pryd ac mae'n parhau i fod. Fel pwyllgor, teimlwn fod angen mwy o frys ar ran Llywodraeth Cymru. Er ein bod yn derbyn nad oedd cynnwys y Gorchymyn yn rhan o gymhwysedd y Cynulliad tan fis Ebrill 2018, mae cyfle yn awr i geisio diwygio neu gael rhywbeth yn ei le cyn gynted â phosibl.
Yn argymhelliad 3, rydym yn galw am gyflwyno deddfwriaeth newydd i gymryd lle'r Gorchymyn diogelwch tân yn y tymor Cynulliad hwn. Rydym hefyd wedi tynnu sylw at feysydd y teimlwn y dylai'r ddeddfwriaeth newydd eu cynnwys. Mae'r Gweinidog yn cytuno â ni fod angen diwygio'r Gorchymyn yn radical neu gael rhywbeth yn ei le ond mae'n dweud bod hwn yn fater cymhleth a bod angen amser i roi ystyriaeth i sicrhau bod unrhyw system newydd yn effeithiol a chydgysylltiedig. Fodd bynnag, mae'n rhwystredig nodi efallai na fydd hyn yn digwydd yn ystod y Cynulliad hwn. Mae a wnelo hyn â sicrhau bod y rheoliadau sy'n rheoli diogelwch adeiladau lle mae pobl yn byw yn addas at y diben, ac rwy'n parhau i ddweud y dylai'r Llywodraeth wneud ymrwymiad clir i gyflawni'r newid deddfwriaethol hwn erbyn diwedd y Cynulliad hwn fel blaenoriaeth yn y rhaglen ddeddfwriaethol.
Gan symud ymlaen at rai o fanylion y Gorchymyn diogelwch tân, clywsom ym mis Gorffennaf 2017, ac roeddem yn dal i'w glywed yn yr hydref y llynedd, ei bod yn aneglur pa un a oedd drysau ffrynt fflatiau, sy'n chwarae rhan bwysig yn atal ymlediad tân, yn rhan o'i gylch gorchwyl. Roedd hyn yn peri pryder arbennig oherwydd mae preswylwyr yn aml yn gwneud addasiadau i'w drws ffrynt, gan gynnwys gosod drysau yn eu lle nad ydynt yn cynnig unrhyw ddiogelwch tân o gwbl. Yn amlwg gallai hyn gael effaith nid yn unig ar y trigolion sy'n byw yn y fflat dan sylw ond ar eu cymdogion hefyd drwy danseilio'r mesurau diogelwch tân a roddwyd ar waith. Roedd Llywodraeth Cymru yn glir eu bod yn credu bod y drysau ffrynt hyn wedi'u cynnwys yn y Gorchymyn diogelwch tân, ond roeddent yn cydnabod nad oedd hyn wedi ei brofi yn y llysoedd. Nid oedd y gwasanaethau tân eu hunain yn glir ynglŷn â hyn, a'r cyngor cyfreithiol a gawsom oedd na fyddai'r Gorchymyn yn cynnwys drysau ffrynt. Felly, roeddem yn bryderus ynglŷn â'r amwysedd sylweddol a'r diffyg eglurder mewn perthynas â'r mater pwysig hwn. Nid oedd hwn ond yn un o'r newidiadau y dymunem eu gweld pan ddisodlir y Gorchymyn.
Yn olaf, Ddirprwy Lywydd, hoffwn siarad am rôl rheoliadau adeiladu. Un o'r themâu mwyaf cyson a ddaeth i'r amlwg drwy gydol y gwaith hwn oedd y derbyniad cyffredinol y gallai fod gwahaniaeth sylweddol rhwng yr adeilad fel y'i cynlluniwyd ar bapur a'r un a adeiladir mewn gwirionedd. Gall y datgysylltiad hwn ddigwydd am nifer o resymau, gan gynnwys y ffaith y gall anawsterau a heriau annisgwyl ddigwydd wrth droi dyluniadau'n realiti. Ond yr hyn sy'n achosi mwy o bryder i ni oedd y drefn arolygu, yr ymddengys nad oes ganddi ddigon o adnoddau, ac mae'n ymddangos mai pwerau cyfyngedig a geir ar gyfer monitro beth sy'n digwydd ar safleoedd adeiladu unigol. Clywsom gan un datblygwr sut y ceisiodd leihau'r datgysylltiad drwy gyflogi'r pensaer mewn swyddogaeth sicrwydd ansawdd drwy gydol y gwaith adeiladu. Ond ni allem weld a oedd yr arfer hwn yn digwydd yn eang ledled y diwydiant ai peidio, am mai un datblygwr yn unig a roddodd dystiolaeth i ni. Roedd hyn yn siomedig a golygai nad oedd modd inni ddeall yn well beth y mae datblygwyr yn ei wneud neu beth nad ydynt yn ei wneud. Felly, fe wnaethom argymhelliad 8, sy'n galw ar Lywodraeth Cymru i asesu effeithiolrwydd trefniadau sicrhau ansawdd drwy gydol y cyfnod adeiladu, a pha un a ddylid gorfodi arferion gorau drwy reoleiddio. Derbyniodd y Llywodraeth yr argymhelliad hwn ond maent wedi nodi mai'r bobl sydd ynghlwm wrth ei ddylunio a'i adeiladu sy'n bennaf gyfrifol am ddiogelwch adeilad. Rydym yn deall ac yn cytuno gyda'r pwynt hwn fod rheoliadau a rheolaeth adeiladu'n chwarae rhan bwysig o ran sicrhau diogelwch y cyhoedd.
Yn amlwg, mae adolygiad Hackitt wedi darparu set fanwl o argymhellion ar gyfer newidiadau i broses a system y rheoliadau adeiladu yn Lloegr, ac rydym yn edrych ymlaen at weld ymateb Llywodraeth Cymru i'r argymhellion hyn. Er ein bod yn cydnabod na all y Gweinidog ymrwymo i lawer ar y cam hwn o waith y grŵp arbenigol, byddem yn ei hannog i sicrhau, pan fydd y grŵp wedi gwneud ei argymhellion, fod ymateb y Llywodraeth a'i weithrediad yn cael ei wneud yn gyflym ac ar fyrder.
Fel y bydd pawb yn cytuno, Ddirprwy Lywydd, mae hyn yn rhy bwysig i ganiatáu iddo lithro, ac edrychaf ymlaen yn awr at gyfraniadau'r Aelodau.