– Senedd Cymru am 3:31 pm ar 22 Ionawr 2019.
Mae'r eitemau canlynol—3, 4, 5, 6, 7 ac 8—wedi eu gohirio, sydd yn dod â ni felly at eitem 9 ar yr agenda, sef y datganiad gan y Prif Weinidog ar y diweddaraf am gynnig Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar gyfer ymadael â'r Undeb Ewropeaidd. Dwi'n galw ar y Prif Weinidog, Mark Drakeford.
Lywydd, diolch yn fawr. Bydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno cyfres o ddatganiadau y prynhawn yma mewn ymateb i'r bygythiad o Brexit heb gytundeb. Rydym yn gwneud hyn oherwydd bod digwyddiadau yn San Steffan yr wythnos diwethaf yn dangos bod Llywodraeth y DU yn symud ymhellach fyth tuag at argyfwng. Mae gennym ni Lywodraeth yn Llundain sydd wedi colli pleidlais, y gorchfygiad mwyaf ar gofnod, a hynny ar y cyfrifoldeb pwysicaf un sydd ganddi i'w chyflawni. Daeth yn gynyddol anochel ei bod am golli'r bleidlais honno ac roedd maint y gorchfygiad yn rhoi neges glir iawn fod y cytundeb hwn gan Brif Weinidog y DU ar ben. Yn dilyn colli'r bleidlais, dywedodd Mrs May y byddai'n gwrando ar y Senedd, ond mae'r ymrwymiad hwn ganddi wedi ei wneud dwy flynedd a hanner yn rhy hwyr. O ddyddiad y refferendwm hyd at golli'r bleidlais ystyrlon, mae'r Prif Weinidog wedi dilyn y strategaeth mai'r enillydd sy'n cario'r dydd, gan gadw'n ddisymud at safbwynt anymarferol y llinellau coch, pryd y dylai hi fod wedi bod yn ymestyn at eraill i geisio sicrhau strategaeth ehangach a chynyddu'r gefnogaeth i hynny. Nawr, er ei bod hi'n hwyr yn y dydd, mae'n rhaid dechrau'r broses honno ar unwaith gydag un weithred yn unig—sef diystyru 'gadael heb gytundeb' a'r niwed a amlygir yn nadansoddiad Llywodraeth y DU ei hun am ganlyniadau gadael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb. Yn y Siambr hon, mae Gweinidogion wedi dweud dro ar ôl tro y byddai Brexit heb gytundeb yn drychinebus i'r economi, i wasanaethau cyhoeddus ac i'n dinasyddion yng Nghymru.
Wrth gwrs, Llywydd, rydym ni'n deall, ac wedi bod yn glir bob amser, yn wahanol i Lywodraeth San Steffan, nad ni yn y Deyrnas Unedig yn unig sy'n rheoli trafodaeth Brexit. Hyd yn oed pan fo gennym Lywodraeth sy'n benderfynol o beidio â chaniatáu canlyniad o'r fath, ni allwn fod yn gwbl sicr na fydd hyn yn digwydd, a dyna pam yr ydym yn dod â datganiadau heddiw gerbron y Cynulliad. Er hynny, fe all, ac y mae'n rhaid i Lywodraeth y DU, gael gwared ar y syniad y maen nhw'n fodlon arwain arno a'i ystyried ar hyn o bryd sef gadael yr UE heb gytundeb. A phan fydd hynny'n digwydd, Llywydd, credaf y bydd mwyafrif clir yn y senedd yn diystyru gadael yr UE heb gytundeb. Yr wythnos diwethaf, gwrthododd y Cynulliad Cenedlaethol y syniad o adael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb, ac yn awr mae'n rhaid i'r Senedd chwilio am y cyfle i wneud hynny hefyd. Ac ymddengys y bydd yn rhaid i'r Senedd gymryd rheolaeth yn ôl dros y materion hyn er mwyn gallu cyflawni hynny, gan fod y Prif Weinidog, unwaith eto, yng nghanol cymaint o raniadau o fewn ei phlaid ei hun ac o fewn ei chabinet, lle y mae rhai yn ymarferol yn ceisio cael canlyniad gadael heb gytundeb.
Ddoe, Llywydd, dywedodd y Prif Weinidog y byddai hi'n fwy hyblyg, agored a chynhwysol—dyna oedd ei geiriau—wrth geisio dod o hyd i ffordd ymlaen. Y broblem yw bod ei gweithredoedd yn bell iawn o efelychu ei geiriau. Gan ddyfynnu geiriau'r Aelod Seneddol Ceidwadol blaenllaw, Sarah Wollaston, roedd datganiad y Prif Weinidog ddoe:
fel na fyddai pleidlais yr wythnos diwethaf wedi digwydd o gwbl.
Mewn gwirionedd, mae cynllun B yn union fel cynllun A gyda dogn newydd o ofynion duwiolfrydig.
Mae'n glir, Lywydd, bod Mrs May yn parhau i ganolbwyntio ar geisio cyflawni'r amhosibl—darparu cytundeb sy'n dderbyniol i'r 27 o aelodau'r UE ac i'r DUP ac i gefnogwyr Brexit caled—yn hytrach na cheisio sicrhau consensws newydd ar draws y Senedd. Sut gallai'r Prif Weinidog ddisgwyl y byddai ASau dros nos yn cefnogi fersiwn o'i chytundeb gyda mân addasiadau iddo, pan gafodd ei wrthod mor bendant? Yn syml, ni fydd hyn yn digwydd. Felly, yr ail beth a ddylai ddigwydd, pan fydd y bygythiad o adael yr UE heb gytundeb wedi'i ddileu, yw bod yn rhaid i'r Prif Weinidog wneud cais am estyniad i broses erthygl 50. Ni allwn ni fentro gyda dyfodol ein gwlad gyda therfynau amser a osodwyd arnom ein hunain a'r perygl o hunan-niweidio y mae'r trafodaethau munud olaf hyn yn ei achosi. Mae'n rhaid i Lywodraeth y DU ddod at ei gilydd a chytuno ar gynnig sydd â chefnogaeth y Senedd, boed hynny'n gytundeb gwahanol sy'n adlewyrchu 'Sicrhau Dyfodol Cymru', neu drwy drefnu ail bleidlais gyhoeddus—y safbwynt, mewn gwirionedd, a gafodd ei gymeradwyo gan y Cynulliad Cenedlaethol hwn ar 4 Rhagfyr.
O'r cychwyn, Llywydd, roedd Llywodraeth Cymru yn dangos yn glir ei bod yn parchu canlyniad refferendwm 2016, ac rydym wedi canolbwyntio bob amser ar ffurf Brexit yn hytrach na'i ffaith. Am y rheswm hwnnw, hyd yn oed ar yr awr hwyr hon, fe ddylai'r Senedd chwilio am bob ffordd i sicrhau canlyniad i'r broses Brexit a fydd yn parchu'r refferendwm ac ar yr un pryd yn ein hamddiffyn rhag difrod i'r economi ac i wead ein cymdeithas. Ond y ddadl yn y Senedd dros yr wythnos nesaf yw'r cyfle olaf i gefnogi'r ffurf honno ar Brexit, ffurf sy'n seiliedig yn y bôn ar barhau i gymryd rhan yn y farchnad sengl a'r undeb tollau. Llywydd, os na ellir gwneud hynny, mae Brexit lle y gallem adael yr UE heb gytundeb yn sefyllfa mor ddifrifol fel ei bod yn golygu, os na all y Senedd gytuno gyda mwyafrif i sicrhau ein buddiannau tymor hir, yr unig ddewis sydd ar ôl wedyn yw pleidlais gyhoeddus unigol er mwyn datrys yr anghytundeb llwyr.
Hefyd, i osgoi unrhyw amheuaeth, gadewch imi ddweud hyn: yn 2016, roedd cyngor Llywodraeth Cymru yn ddiamwys—bod ein dyfodol yn fwy diogel drwy barhau i fod yn aelod o'r Undeb Ewropeaidd. Nid oes dim, dros gyfnod o fwy na dwy flynedd o waith manwl ar Brexit, wedi ein hargyhoeddi i newid y farn honno. Yn y cyfamser, gan fod Brexit heb gytundeb yn parhau i fod yn risg uchel iawn, fel Llywodraeth gyfrifol, mae gennym ni ddyletswydd i nodi canlyniadau hynny i Gymru ac i ddangos sut yr ydym yn ceisio lliniaru'r canlyniadau hynny.
Mewn cyfres o ddatganiadau, bydd Gweinidogion yn amlinellu'r peryglon a wynebwn ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus, yr economi ac yn y gymdeithas yn ehangach. Mae'r effeithiau o bosibl yn rhai eang iawn ac fe fyddan nhw'n effeithio ar bawb. Nid pryderon rhagdybiaethol na damcaniaethol yw'r rhain, ond realiti'r sefyllfa y gallem ganfod ein hunain ynddi nawr. Mae'r gyfres o ddatganiadau heddiw yn rhan o'n penderfyniad i sicrhau bod Aelodau'r Cynulliad yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am yr holl waith hwn. Ar hyn o bryd, Llywydd, y gwir amdani yw nad oes neb yn gwybod mewn gwirionedd beth fydd yn digwydd pe byddai Brexit heb gytundeb. Mae'n dilyn felly na fedr Cymru na'r Deyrnas Unedig yn ei chyfanrwydd fod yn gwbl barod am bob posibilrwydd. Bydd Llywodraeth Cymru yn gwneud popeth y gallwn gan ddefnyddio pob cyfle i ymuno ag eraill i ddwyn perswâd ar y Prif Weinidog i gefnu ar y llwybr trychinebus hwn, i atal y niwed y byddai'n ei achosi i'n gwlad, ac i ddod o hyd i ffordd well ymlaen.
A gaf i ddiolch i'r Prif Weinidog am ei ddatganiad y prynhawn yma? Mae'r DU yn awr wythnosau'n unig o adael yr Undeb Ewropeaidd ac felly rwy'n cytuno â barn y Prif Weinidog ei bod yn hanfodol fod ymgysylltiad adeiladol yn digwydd ar unwaith i baratoi Cymru pe byddem yn gadael yr UE heb gytundeb. Felly, mae'n hanfodol bwysig bod arweinwyr Cymru yn rhoi eu gwahaniaethau gwleidyddol o'r neilltu ac yn gwneud popeth o fewn ei gallu i baratoi Cymru ar gyfer bywyd ar ôl 29 Mawrth. Dyna pam y derbyniais ei wahoddiad yr wythnos diwethaf i gwrdd ag ef i drafod goblygiadau Brexit.
Nawr fe ddywed y Prif Weinidog, yn ei ddatganiad, mai dim ond wythnos sydd ar gael i geisio cytundeb ar Brexit. Rwyf yn siŵr y byddai'n cytuno â mi ei bod yn hanfodol fod gwleidyddion yn siarad a chyd-weithio gyda'i gilydd, pryd y gallant, er budd y bobl y maen nhw'n eu cynrychioli. Fodd bynnag, a yw'n cytuno â mi ei bod hi'n siomedig dros ben ac, yn wir yn rhywbeth sy'n peri pryder, fod arweinydd y Blaid Lafur yn gwrthod eistedd wrth y Bwrdd gyda Phrif Weinidog y DU i drafod Brexit, o gofio bod arweinwyr yma yng Nghymru wedi bod yn ddigon aeddfed i gyfarfod? A wnaiff ef yn awr, felly, roi pwysau ar ei arweinydd ei hun i wneud hynny hefyd yn y DU?
Rwyf yn deall pam mae Llywodraeth Cymru yn gwneud cyfres o ddatganiadau y prynhawn yma, ond mae'n rhaid i ni dderbyn, pa un a ydym yn hoffi hynny ai peidio, fod pobl wedi pleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd yn 2016. Gan ei fod nawr wedi cadarnhau yn ei ddatganiad heddiw y bydd yn pwyso am ail refferendwm, a all ef egluro i'r Siambr hon sut y bydd ef a'i Lywodraeth yn parchu canlyniad y refferendwm gwreiddiol, oherwydd hyd yn hyn—hyd yn hyn—mae wedi ei gwneud yn glir fod hyn o'r pwysigrwydd mwyaf iddo?
Mae Prif Weinidog y DU wedi dweud yn gwbl glir nad bwriad Llywodraeth y DU yw gadael i amser lithro hyd at 29 Mawrth, ac felly mae gennym ni gyfle hollbwysig i gydweithio i gyflawni ar ran pobl Cymru. Yn yr ysbryd hwnnw, rwyf eisiau ei gwneud yn gwbl glir bod fy nghydweithwyr a minnau yn barod i gydweithio, pryd y gallwn, gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau bod blaenoriaethau cymunedau ar draws Cymru yn cael eu cyfleu i Lywodraeth y DU, a hyderaf y bydd y Prif Weinidog yn manteisio ar y gwahoddiad hwn yn ystod yr wythnosau nesaf.
Nawr, wrth i amser fynd yn ei flaen mae'n hanfodol bod yr holl randdeiliaid ledled Cymru yn paratoi ar gyfer y posibilrwydd o Brexit heb gytundeb, a byddwn yn ddiolchgar pe gallai'r Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni ar y modd y mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio gyda'i rhanddeiliaid mewn termau cyffredinol er mwyn sicrhau eu bod mor barod ag sy'n bosibl ar gyfer y sefyllfa honno.
Nawr, fel y soniais yn gynharach, rwyf yn sylweddoli y bydd Gweinidogion yn gwneud datganiadau penodol yn ddiweddarach heddiw, pryd y byddan nhw'n mynd i fanylder ynghylch eu portffolios eu hunain. Mae'r Aelodau yn ymwybodol iawn o adroddiadau Pwyllgor Cynulliad pwysig ar y paratoadau ar gyfer Brexit dros y 18 mis diwethaf. Cyhoeddwyd un o'r adroddiadau hynny gan y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol bron i flwyddyn yn ôl. Argymhellodd yr adroddiad hwnnw fod Llywodraeth Cymru yn gwella ei chyfathrebu â sefydliadau unigol drwy ysgogi mwy ar gyrff cynrychioliadol i raeadru gwybodaeth i'r sefydliadau hynny. Fe nododd yr adroddiad hwnnw hefyd yn gwbl glir nad oedd gan y gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yr wybodaeth angenrheidiol i baratoi ar gyfer Brexit yn ddigonol. Felly, byddem yn ddiolchgar pe gallai'r Prif Weinidog roi manylion am y gwaith ychwanegol y mae Llywodraeth Cymru wedi ei wneud ers yr adroddiad arbennig hwnnw i gefnogi gweithredwyr gwasanaethau cyhoeddus yn well wrth iddyn nhw baratoi ar gyfer Prydain yn gadael yr Undeb Ewropeaidd.
Nawr, mae, wrth gwrs, nifer o gwestiynau ynghylch perthynas gyfansoddiadol Cymru â rhannau eraill o'r DU wrth symud ymlaen. Felly, wrth ymateb i'm cwestiynau, efallai y gall y Prif Weinidog roi ei farn ar yr effaith y gallai Brexit heb gytundeb, pe byddai'n dod i hynny, ei chael ar ddyfodol y Deyrnas Unedig yn ei chyfanrwydd, yn ogystal â lle Cymru yn y dyfodol hwnnw o fewn y Deyrnas Unedig.
Yn olaf, Llywydd, bydd llwyth gwaith deddfwriaethol y Cynulliad hwn yn cynyddu'n sylweddol os bydd Prydain yn gadael yr Undeb Ewropeaidd ar 29 Mawrth heb gytundeb ffurfiol a chyfnod pontio. Yn wir, gallai diffyg cyfnod pontio roi pwysau enfawr ar y sefydliad hwn ac yn wir ar Lywodraeth Cymru. Felly, efallai y gallai'r Prif Weinidog ddweud wrthym pa asesiad a wnaed gan Lywodraeth Cymru ar effaith Brexit heb gytundeb ar ei weithrediadau ac yn wir ar weithrediadau'r Cynulliad.
Felly, i gloi, Llywydd, hoffwn ddiolch i'r Prif Weinidog am ei ddatganiad heddiw. Mae amser yn hollbwysig yn awr, wrth gwrs, ac felly hoffwn ailadrodd unwaith eto bod fy nghydweithwyr a minnau yn ymrwymedig i gydweithio, pryd y gallwn, gyda Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru ar ran pobl Cymru?
Llywydd, a gaf i ddiolch i Paul Davies am y ffordd yr agorodd ei gyfraniad ac am ddychwelyd at y thema honno ar y diwedd? Yr oeddwn i'n ddiolchgar iddo am dderbyn y gwahoddiad i gyfarfod yr wythnos diwethaf, a nodaf yn ofalus iawn ei gynnig i barhau â'r trafodaethau ar ôl heddiw. Yn sicr, mae hwnnw'n gynnig y byddaf yn manteisio arno.
Gan droi at rai o'r cwestiynau penodol a godwyd ganddo, y safbwynt a nodir gan arweinydd y Blaid Lafur yn San Steffan yw'r safbwynt yr wyf i wedi ei amlinellu y prynhawn yma: y dylai'r Prif Weinidog gymryd 'gadael yr UE heb gytundeb' oddi ar y bwrdd. Dyna'r ffordd i chwalu'r dagfa sydd wedi datblygu yn San Steffan, ac mae hyn yn rhywbeth sydd o fewn gallu'r Prif Weinidog; gall hi ei gwneud yn glir y byddwn yn gadael yr Undeb Ewropeaidd, ond y byddwn yn gwneud hynny mewn modd sydd wedi ei gynllunio, yn drefnus ac sydd â chytundeb gyda'r Undeb Ewropeaidd. Os gall hi gymryd 'gadael heb gytundeb' oddi ar y bwrdd, bydd hynny yn newid yr awyrgylch, bydd yn caniatáu i'r trafodaethau hynny ddigwydd, a dyna ddylai hi ei wneud.
Rwyf eisiau gwneud yn glir unwaith eto y safbwynt a nodais ynglŷn ag ail refferendwm, gan nad wyf yn dymuno i hynny gael ei gamddeall. Yr hyn a ddywedais yw y dylai'r Senedd barhau i weithio mor galed â phosibl i ddod o hyd i gytundeb—cytundeb sy'n parchu'r refferendwm ac yn diogelu ein heconomi. Ac rwy'n credu ei bod hi'n parhau i fod yn bosibl y byddan nhw'n canfod cydbwysedd yn Nhŷ'r Cyffredin ynghylch dull penodol lle yr ydym yn gadael yr Undeb Ewropeaidd ac yn lliniaru'r niwed y bydd hynny'n ei achosi. Yr hyn a ddywedais wedyn oedd, os bydd hynny'n profi i fod yn amhosibl, os bydd Tŷ'r Cyffredin dros y dyddiau nesaf yn methu â dod i benderfyniad ac nad oes mwyafrif o blaid unrhyw fath o gytundeb, yna, y ffordd orau i ddatrys yr anghytundeb llwyr bryd hynny fydd gofyn y cwestiwn i'r bobl y gofynnwyd y cwestiwn iddynt yn y lle cyntaf. Ac rwy'n gwrthod yn llwyr y cyhuddiadau oddi ar y meicroffon fod hyn rywsut yn ffordd gwrth-democrataidd o wneud pethau. Fe bleidleisiais i dros Lywodraeth yn 1997. Nid oeddwn i'n disgwyl y byddai'r canlyniad yn para am byth. Yn wir, gofynnwyd i mi eto yn 2001 a rhoddais yr un ateb. Yn wir, gofynnwyd yr un peth unwaith eto yn 2005 a rhoddais yr un ateb eto. Felly, mae'r syniad ei bod yn amhosibl i fynd yn ôl at y bobl sydd wedi rhoi mandad democrataidd a phenderfyniad, a gofyn iddynt am adolygiad pellach, yn hurt mewn unrhyw ddemocratiaeth. Dyna pam yr wyf i wedi dweud os yw'r Tŷ'r Cyffredin yn methu â dod i benderfyniad, yna efallai mai mynd yn ôl at y bobl y mae unrhyw fandad democrataidd wedi tarddu oddi wrthynt, yw'r ffordd o ddatrys hynny.
Gofynnodd Paul Davies i mi am yr hyn yr ydym ni'n ei wneud i helpu rhanddeiliaid. Bydd wedi gweld y porth busnes Brexit a ddarparwyd gennym. Bydd wedi gweld y wefan newydd Paratoi Cymru, sydd wedi cael dros 2,000 o ymwelwyr gwahanol ers ei lansio lai nag wythnos yn ôl, ac mae Gweinidogion yn parhau i gwrdd â rhanddeiliaid yn eu meysydd portffolio yn rheolaidd iawn.
Gofynnodd am wella cyfathrebu. Bydd wedi gweld, rwy'n gobeithio, y cymorth yr ydym wedi gallu ei ddarparu drwy gronfa pontio £50 miliwn yr UE—arian i Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, i gonffederasiwn y gwasanaeth iechyd, i Gymdeithas Cyfarwyddwyr y Gwasanaethau Cymdeithasol ac i Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru. Mae pob un o'r sefydliadau ymbarél hyn wedi cael cymorth cymhedrol—a chymedrol yn unig ydyw—cymorth o'r Gronfa er mwyn iddyn nhw ddatblygu sianelau cyfathrebu gwell am y pethau yr ydym yn gallu eu dweud yn uniongyrchol wrth y sefydliadau hynny. Ond wedyn rydym yn dibynnu ar iddyn nhw allu trosglwyddo'r negeseuon hynny ymlaen i'w haelodaeth, ac rydym wedi gwneud ein gorau i ddarparu rhywfaint o gymorth ariannol iddyn nhw i wneud hynny.
Terfynodd Paul Davies ei gwestiynau gyda phwynt pwysig iawn am y straen pellach ar y berthynas gyfansoddiadol o fewn y Deyrnas Unedig y byddai Brexit heb gytundeb yn ei achosi. Onid dyna'r farn gyffredin? Dyna gasgliad ein pwyllgorau yn y fan yma, a dyna gasgliad pwyllgorau Tŷ'r Cyffredin a Thŷ’r Arglwyddi, na fedr y prosesau rhynglywodraethol presennol sydd gennym yn y Deyrnas Unedig gynnal pwysau Brexit—ein bod wedi dibynnu ar lyfr rheolau cyffredin ers datganoli, llyfr rheolau cyffredin yr Undeb Ewropeaidd, yr ydym i gyd wedi ymrwymo iddynt. Pan fydd y llyfr rheolau hwnnw yn diflannu, yna ni fydd y mecanwaith fydd ar ôl yn ddigonol ar gyfer y dasg. Ac rydym yn pwysleisio'r pwynt hwnnw, ac mewn sawl ffordd, bu Cymru yn brif ffynhonnell y penderfyniad i ddatrys y problemau hynny, ac mae Cydbwyllgor y Gweinidogion yn ei gyfarfod llawn, pan oedd fy rhagflaenydd, Carwyn Jones yn aelod ohono, wedi rhoi gwaith ar y gweill i wneud yn union hynny. Ond mae'n fater o frys, ac mae'n anodd perswadio Llywodraeth y DU i ddod o hyd i'r egni, yr amser a'r ymrwymiad i wneud i'r pethau pwysig iawn hyn ddigwydd.
Bydd y llwyth gwaith a fydd yn deillio o Brexit yn cael ei deimlo yn y sefydliad hwn, Llywydd, ac edrychaf ymlaen at drafodaethau pellach rhwng y pleidiau a gyda chithau i wneud yn siŵr ein bod yn canfod y ffordd fwyaf ymarferol bosibl o reoli'r effaith ddeddfwriaethol y bydd Brexit heb gytundeb yn sicr o'i chreu ar gyfer y Cynulliad Cenedlaethol ei hun.
Er bod rhywfaint o anghytuno, yn amlwg, ar draws y Siambr hon, yn ei hanfod, o ran polisi Brexit, rwy'n siŵr bod cytundeb ehangach am yr anhrefn a dryswch sy'n nodweddu San Steffan ar hyn o bryd, a'r methiant gwleidyddiaeth dybryd yn y Siambr honno sy'n ein gyrru at ymyl trychineb 'dim cytundeb', y realiti sydd wedi creu'r angen am y cynllunio wrth gefn y mae'r Prif Weinidog wedi'i gyfeirio ato. Mae cau'r Gyngres ac impasse San Steffan yn ddau ben ar y trafferthion ar draws Môr yr Iwerydd ar hyn o bryd; maen nhw'n adlewyrchu ei gilydd bron yn union.
Yn y Siambr hon, gobeithiaf y bydd hi'n bosibl inni gytuno ar ymateb adeiladol i'r argyfwng gwleidyddol sy'n ein hwynebu, fel ein bod gyda'n gilydd yn y lle hwn ar draws y pleidiau yn gallu ymgysylltu ag aelodau'r cyhoedd y mae'n rhaid eu bod yn teimlo'n ddryslyd ac yn rhwystredig dros ben gan yr hyn y maen nhw'n ei weld. Ac rwyf i yma yn sôn am sefydlu cynulliad dinasyddion ar draws gwledydd yr ynysoedd hyn, ond yn sicr yma yng Nghymru, i gymryd yr awenau wrth estyn allan ar draws y gofod rhwng y rhai a bleidleisiodd i adael ac aros yn 2016, er mwyn ceisio cyrraedd mwy o gyd-ddealltwriaeth.
Mewn arolwg diweddar gan Gobaith nid Casineb, cafodd y datganiad hwn—y datganiad nad yw gwleidyddion, yn amlwg, yn gallu penderfynu sut i ddatrys mater Brexit, ac mae'r wlad yn rhanedig iawn ac felly mae angen gwahanol fath o ymateb—gefnogaeth gadarn gan y cyhoedd. Nawr, nid yw'n ddatganiad newydd, fel y bydd pobl yn ymwybodol. Yn wir, bydd gwelliant ar y trywydd hwn yn cael ei gyflwyno yn Nhŷ'r Cyffredin yr wythnos hon, ond ar gyfer cynulliad dinasyddion ar draws y DU. Yn naturiol, rydym ni'n credu y dylai gael ei gyfansoddi ar sail pedair gwlad.
Mewn erthygl yn The Guardian ychydig ddyddiau yn ôl, awgrymodd cyn-arweinydd y Blaid Lafur, y cyn-Brif Weinidog Gordon Brown hefyd gyfres o gynulliadau dinasyddion ar drywydd tebyg, yn mynd i'r afael nid yn unig â'r berthynas rhwng y DU a'r UE, ond o ran y cwestiynau dyfnach a achosodd y bleidlais o blaid gadael, o bosibl, mewn nifer o ardaloedd. Felly, materion am gyflwr yr economi mewn sawl rhan o'r DU, cyflwr cymunedau sydd wedi eu gadael ar ôl, y cynnydd mewn tlodi plant y mae cyni wedi'i greu.
Mae'n debyg y bydd Llywodraeth y DU yn gwrthod y syniad newydd hwn yr wythnos nesaf, fel y mae, hyd yn hyn wedi gwrthod y rhan fwyaf o syniadau newydd sydd wedi cael eu cyflwyno er mwyn ceisio torri'r anghydfod. Ond Brif Weinidog, yma yn y Cynulliad Cenedlaethol, os dymunwn, mae gennym y gallu i ddangos yr arweiniad i weithredu nawr. Gallem ni gytuno i sefydlu, ar sail gyfreithiol, gynulliad dinasyddion Cymru. Mae'n well gennyf y term 'confensiwn' neu'n well byth hyd yn oed, 'cymanfa'r bobl' yn y Gymraeg, i ennyn diddordeb ein pobl ein hunain. Gallai wneud hynny ar sail hollol wahanol i'r ffordd wleidyddol gonfensiynol, sydd bellach yn flinedig ac yn anhygred i raddau helaeth, y cynhaliwyd dadl Brexit,
Wrth gyflwyno'r cynnig hwn, nid ydym ni ym Mhlaid Cymru yn camu'n ôl mewn unrhyw ffordd oddi wrth ein cefnogaeth gadarn i bleidlais y bobl ar ddewis terfynol rhwng pa bynnag gytundeb y mae Llywodraeth y DU a Senedd San Steffan yn ei gyrraedd ac aros o fewn yr Undeb Ewropeaidd. Ond, mae'n ymddangos i ni y byddai confensiwn dinasyddion Cymru, yn rhagflaenydd buddiol, adeiladol a fyddai'n uno'r bobl, i'r refferendwm hwnnw os caiff ei gynnal. A gallai hefyd ganiatáu i ni wir fynd i'r afael â rhai o'r problemau dyfnach, fel y soniais, y mae Brexit wedi eu datgelu, nid yn unig y berthynas rhwng y DU a'r UE, ond y berthynas o fewn yr ynysoedd hyn, cyfansoddiad yr ynysoedd hyn a'r ffordd y mae ein gwleidyddiaeth drwyddi draw ar chwâl, ac mae angen inni gymryd ein camau ein hunain yma yng Nghymru i'w hail-lunio. Felly, a gaf i wahodd y Prif Weinidog i ymateb yn gadarnhaol i hynny?
O ran cwestiwn o bleidlais y bobl, roeddwn yn falch o weld bod y Prif Weinidog newydd ailadrodd ei farn mai'r ffordd orau o sicrhau buddiannau Cymru fyddai drwy aelodaeth barhaus â'r Undeb Ewropeaidd. Nid yn unig hynny, cydnabu hefyd os na all y Senedd gytuno ar fargen sydd er ein budd economaidd ni yng Nghymru, un sy'n golygu ein bod yn parhau i gymryd rhan yn y farchnad sengl a'r undeb tollau, yna pleidlais y bobl fydd yr unig ddewis sydd ar ôl. Ymddengys ein bod yn symud yn nes at ein gilydd o ran y cwestiwn hwn o bleidlais y bobl.
A gaf i ofyn iddo ailadrodd unwaith eto, o ran yr amseru, oherwydd, yn amlwg, mae'n rhaid inni gadw golwg ar y cloc o ran y terfyn amser presennol: a yw e'n credu bod angen gwneud y penderfyniad hwnnw'n eithaf buan? Rydym ni'n sôn am ddim ond ychydig wythnosau pryd y gall y Senedd bleidleisio o blaid pleidlais y bobl er mwyn i ni ddefnyddio'r gobaith olaf hwnnw i osgoi'r hyn a fyddai, yn nhyb llawer ohonom, yn drychineb?
A gaf i ddiolch i Adam Price am ei gyfraniad a'r ffordd y mae ef wedi'i gyflwyno? Ac mae e'n hollol iawn i dynnu sylw at y ffaith y bu cytundeb arwyddocaol a sylweddol rhwng ein dwy blaid o ran y materion ehangach yn ymwneud â Brexit. Wrth ymdrin yn fyr iawn â'r pwyntiau a wnaeth tua'r diwedd, y safbwynt yr wyf wedi'i amlinellu heddiw yw'r safbwynt y pleidleisiodd ein dwy blaid drosto yma ar lawr y Cynulliad ar 4 Rhagfyr. Nawr, mae wythnosau eraill wedi llithro ymaith ers hynny, felly, wrth gwrs, mae e'n iawn i dynnu sylw at y ffaith bod amser yn mynd yn brin, ac mae'r Senedd, fel y dywedais, hyd y gwelaf i, yng nghyfnod olaf ei gallu i lunio cytundeb sy'n parchu'r refferendwm ac sy'n lliniaru'r niwed y bydd gadael yr Undeb Ewropeaidd yn ei wneud i'n heconomi.
Gwrandewais yn ofalus ar yr hyn a ddywedodd. Rwy'n cytuno bod rhywfaint o ddryswch ymhlith y cyhoedd ynghylch sut y mae pethau wedi cyrraedd y pwynt hwn. Ac weithiau mae'n fwy na dryswch, onid yw—mae'n ymdeimlad o ddicter ein bod ni wedi methu â datrys y mater pwysig hwn, a bydd angen ailadeiladu dinesig ar ôl i hyn ddod i ben, pan fydd modd i ni gael pobl sydd â gwahanol ddaliadau cryf i ailymgysylltu â'i gilydd mewn modd sy'n parchu'r gwahanol safbwyntiau hynny. Ac nid yw gweiddi o'r cyrion yn fodel da ar gyfer trafodaeth barchus, pa mor gryf bynnag y gallai Aelod fod yn teimlo am y safbwynt hwnnw. Ar ddiwedd hyn i gyd, bydd gwaith i'w wneud o ran dod â phobl yn ôl at ei gilydd.
Nawr, cynulliad dinasyddion, confensiwn, cymanfa—mae pob un o'r rheini'n bosibiliadau yr wyf i'n hapus iawn i ymgysylltu â nhw yn gadarnhaol. Nid dyna'r unig syniadau, Adam, a dyna pam nad wyf i'n llwyr ymrwymo iddyn nhw heddiw. Mewn bywyd blaenorol, fe wnes i unwaith gynnal cyfres o bwyllgorau dethol cymunedol lleol, a gynlluniwyd i ddatrys materion lleol dadleuol, lle'r oedd panel o ddinasyddion yr ardal yn dod at ei gilydd, yn clywed tystiolaeth gan nifer o dystion, ac ar y diwedd, yn y ffordd ystyriol honno, yn ceisio dod i gasgliad am y ffordd orau ymlaen. Felly, ceir amrywiaeth o ffyrdd y gellid mynd i'r afael â'r gwaith ailadeiladu dinesig hwnnw. Yn sicr, mae cynulliad dinasyddion yn un ohonynt, ac edrychaf ymlaen at ddeialog barhaus â'r Aelod ac eraill ynghylch y model gorau y gallem ni ei fabwysiadu at y diben hwnnw yma yng Nghymru.
Diolch, Prif Weinidog, am y diweddaraf mewn cyfres o ddatganiadau yn ymwneud â Brexit, a ddechreuodd yr wythnos diwethaf. Nawr, cawsom ni un lled ddiddorol yr wythnos diwethaf gan eich Gweinidog Brexit, pryd y soniodd am bethau fel eich gwefan Brexit Llywodraeth Cymru, sy'n cynnig cyngor i fusnesau a sefydliadau ynghylch cynllunio wrth gefn ar gyfer gadael. Ac, fel y soniais wrthych chi yr wythnos diwethaf, mae'r rhain i gyd yn bethau a allai fod yn ddefnyddiol, a dyna'r pethau y dylai Llywodraeth Cymru fod yn eu gwneud: datblygu cynlluniau wrth gefn a chynnig cyngor. Nid wyf i'n gweld rhyw lawer o'r math hwnnw o bethau yn y datganiad hwn gennych chi heddiw.
Roedd yn ddiddorol clywed rhan o'ch ymateb i'r hyn a gododd Paul Davies wrth iddo sôn am—wel, nid wyf i'n siŵr pwy wnaeth ei grybwyll, ond cododd pwnc refferendwm Cynulliad Cymru 1997, a gwnaethoch chi'r pwynt eich bod wedi ateb y cwestiwn yn yr un ffordd o hyd. Dywedasoch chi eich bod wedi ei ateb yn 2001, eich bod wedi ei ateb eto yn 2005—[Torri ar draws.] Beth yr ydych—[Torri ar draws.] Beth allai—[Torri ar draws.] O, yr etholiad cyffredinol, iawn. Y pwynt y gallech chi fod wedi anghofio sôn amdano yw, yn y cyfamser, yn 1999, cafodd y lle hwn ei sefydlu. Felly, mewn gwirionedd, cafodd canlyniad y refferendwm ei weithredu. Felly, alla i ddim gweld, yn ôl y rhesymeg honno, sut yr ydych chi'n mynd i rwystro canlyniad y refferendwm hwn a gawsom yn 2016 ar aelodaeth Prydain o'r Undeb Ewropeaidd.
O ran y datganiad hwn heddiw, nid oes dim byd newydd ynddo. Rydych chi'n cyfleu safbwyntiau Llywodraeth y DU yr ydym eisoes yn ymwybodol ohonynt. Rydym ni'n gwybod bod Theresa May wedi dweud na fydd hi'n gohirio'r dyddiad ymadael. Gwyddom na fydd hi'n ystyried ail refferendwm. Rydym ni hefyd yn ymwybodol o'ch safbwynt ar hyn i gyd, yr ydych yn ei wneud yn gliriach nawr, ond rydym yn gwybod hynny ers peth amser—eich bod eisiau ail refferendwm. Fy unig wir gwestiwn am ddatganiad heddiw yw: pam ydych chi'n gwastraffu amser y Siambr hon gyda'r hyn sy'n lol wag yn y bôn?
Wel, Dirprwy Lywydd, nid wyf yn ei ystyried yn wastraff amser trafod ar lawr y Cynulliad hwn faterion a fydd yn cael effaith uniongyrchol ar fywydau pobl ym mhob rhan o Gymru a lle mae Gweinidogion ar gael i gael eu holi gan Aelodau'r Cynulliad ar fanylion y cynigion a fydd yn cael eu hadrodd yma y prynhawn yma. Sut gallai hynny fod yn wastraff amser mewn fforwm democrataidd? Roedd hon yn ymgais ddiffuant gan y Llywodraeth hon i ddangos pa mor ddifrifol yw'r sefyllfa yr ydym ni ynddi, i fod yn glir â phobl Cymru am ein hasesiad o beth fyddai Brexit heb gytundeb yn ei olygu ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus, busnes ac ar gyfer eu bywydau, ac yna i wneud yn siŵr bod ganddyn nhw'r wybodaeth ddiweddaraf sydd ar gael am y camau yr ydym yn eu cymryd, ac yna clywed gan eraill gan, a bod yn deg, ein bod ni wedi cael cyfraniadau gan y Blaid Geidwadol a Phlaid Cymru yma y prynhawn yma, yn gwneud rhai cynigion pellach ac adeiladol am y ffordd y gallwn ni weithio gyda'n gilydd i wneud yn siŵr, pe ddigwyddai hynny, ein bod yn gallu rhannu gwybodaeth, meddwl ymlaen llaw gyda'n gilydd a gwneud ein gorau i liniaru'r effaith yma yng Nghymru. Nid wyf i'n gweld hynny yn wastraff amser o gwbl.
Prif Weinidog, diolch am eich datganiad y prynhawn yma, a byddaf yn gwrando'n ofalus iawn ar y datganiadau sydd i ddod oherwydd, yn amlwg, codasom fwgan dim cytundeb dros 12 mis yn ôl pan baratowyd yr adroddiad cyntaf i ni gan Lywodraeth Cymru.
Paul Davies—roedd gen i un neu ddau o bwyntiau. Rwyf eisiau ei gadw'n syml oherwydd gwn fod amser yn brin ar gyfer eich datganiad. Tynnodd ef sylw at y llwyth gwaith deddfwriaeth sy'n dod i'n cyfeiriad. A yw Llywodraeth Cymru wedi nodi ei blaenoriaethau ar gyfer deddfwriaeth? Mewn geiriau eraill, a yw hi mewn sefyllfa i wybod yr hyn y mae hi eisiau ei basio'n gyflym a'r hyn y bydd yn ei ohirio tan ar ôl 29 Mawrth, rhag ofn y bydd gennym ni sefyllfa 'dim cytundeb' a'n bod yn gadael ar 29 Mawrth? A ydych chi wedi asesu eich hunan hefyd o ran capasiti? Gwn ein bod wedi sôn am eich capasiti i allu ymgymryd â'r llwyth gwaith hwn, a'ch bod chi wedi cyflogi mwy o staff, ond a ydych chi mewn sefyllfa erbyn hyn lle mae gennych chi ddigon o gapasiti i symud ymlaen yn y math hon o sefyllfa, oherwydd rydym ni saith wythnos i ffwrdd oddi wrth y pwynt lle y byddwn y tu allan i'r UE, a bydd yn rhaid i ni gadw at gyfraith y DU a'r cyfreithiau a gaiff eu pasio yn San Steffan ar gyfer popeth.
O ran papurau technegol Brexit heb gytundeb a gyhoeddwyd y llynedd, beth yw eich asesiad o'r rheini bellach? Oherwydd pan edrychais i arnyn nhw, a dweud y gwir, roedd y rhan fwyaf ohonyn nhw yn wastraff papur; Doedden nhw ond yn dweud wrthym yr hyn yr oeddem eisoes yn ei wybod ond nid yn dweud wrthym sut i ddatrys y problemau. A oes gennych chi atebion i rai o'r materion hynny erbyn hyn? Ac ar 29 Mawrth, os na fydd cytundeb, lle'r ydym ni gyda'r fframweithiau cyffredin a gweithredu'r fframweithiau hynny i weld sut y byddwn yn symud ymlaen â hynny?
Diolch i'r aelod am y rheini, a, Dirprwy Lywydd, dim ond i ddweud eto, fel yr ydym wedi dweud o'r blaen yn y fan hon, bod adroddiadau o bwyllgorau'r Cynulliad, ac yn arbennig y pwyllgor y mae David Rees yn ei gadeirio, wedi dylanwadu'n fawr ar ein ffordd ni o feddwl ac wedi caniatáu i'r Cynulliad Cenedlaethol hwn fod yn rhan o gyfres ehangach o gysylltiadau â deddfwrfeydd eraill, gan wneud yn siŵr bod pethau sy'n bwysig yma yng Nghymru yn cael eu rhannu â'n cymheiriaid yn San Steffan, yr Alban a, gobeithio maes o law, â Chynulliad Gogledd Iwerddon hefyd.
Gofynnodd David Rees imi a ydym wedi blaenoriaethu ein deddfwriaeth. Do, rydym wedi gwneud hynny. Arweiniodd at rai sgyrsiau heriol gyda'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ynghylch, er enghraifft, a ydym ni'n cyflwyno digon o ddeunydd i'r Cynulliad graffu arno, a ydym ni'n dibynnu gormod ar lywio deddfwriaeth drwy San Steffan. Ond mae hynny'n ymarfer ynglŷn â blaenoriaethu; roedd yn ceisio gwneud yn siŵr bod amser y Cynulliad, a fydd yn brin, yn cael ei neilltuo i'r newidiadau deddfwriaethol hynny sy'n cael effaith wirioneddol ar bolisïau, ac yn caniatáu ar gyfer llywio deddfwriaeth drwy San Steffan, lle nad yw ond yn dechnegol ei natur neu ddim yn arwain at newid polisi o'n sefyllfa bresennol.
O ran capasiti, dim ond hyn a hyn sy'n bosib, Dirprwy Lywydd. Dyna'r gwir amdani: rydym dan bwysau. Nid oes gennym fyddin ddiddiwedd o bobl yn gweithio i Lywodraeth Cymru y gallwn ni eu hadleoli i ymdrin â mater brys Brexit. Yr hyn yr ydym ni'n gorfod ei wneud yw symud pobl o waith pwysig arall er mwyn gwneud gwaith sydd hyd yn oed yn fwy pwysig ac y mae hyd yn oed mwy o frys amdano ym maes Brexit. Ac er bod gennym ni beth arian yr ydym ni'n ei groesawu'n fawr gan Lywodraeth y DU i'n galluogi ni i gyflogi pobl i ymdrin ag effaith Brexit, mae hynny i gyd yn golygu amser hefyd. Nid yw'r sgiliau yr ydych chi'n chwilio amdanyn nhw yn sgiliau y mae digon ohonyn nhw ar gael bob amser.
Mae David Rees yn llygad ei le, Dirprwy Lywydd, yn ei sylw diwethaf ynghylch yr hysbysiadau technegol. Roedden nhw'n dweud ychydig iawn am atebion a llawer iawn wrthym ni fod atebion yn cael eu hystyried, yn cael eu llunio, yn cael eu harchwilio, yn cael eu trafod, ond yn anaml iawn yn cael eu darparu. Beth yw pen draw hyn i gyd i ni? Mae'n ein harwain ni i'r sefyllfa yr oedd yn rhaid i'r Dr Liam Fox ei chyfaddef dim ond yn yr ychydig ddyddiau diwethaf—bod y 40 cytundeb masnach y dywedodd ef y byddent yr hawsaf i'w negodi yn hanes cytundebau masnach—. Rwy'n cofio'n ei glywed yn dweud unwaith mai'r cwbl fyddai ei angen fyddai potel o Tipp-Ex, lle byddem ni'n rhoi Tipp-Ex dros y blaenlythrennau 'EU' ac yn ysgrifennu'r llythrennau 'UK' yn eu lle, a dyna'r cyfan fyddai angen ei wneud. Ni fydd unrhyw un o'r cytundebau hynny'n barod ar y diwrnod y byddwn ni'n gadael yr Undeb Ewropeaidd.
Diolch yn fawr iawn, Prif Weinidog.