Part of the debate – Senedd Cymru am 5:12 pm ar 22 Ionawr 2019.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Wrth gwrs, mae hwn yn faes arall mae yna gryn ansicrwydd ynglŷn ag o wrth inni agosáu at yr adeg pan fo'n ymddangos ein bod ni'n dal, ar hyn o bryd, i fod i adael yr Undeb Ewropeaidd. A gaf i ofyn un cwestiwn? Faint o adnoddau o fewn eich adran chi bellach o ran pobl a chyllid sydd yn gorfod canolbwyntio ar Brexit a dim arall? A faint o staff ychwanegol ydych chi wedi gorfod eu recriwtio i ymwneud â'r mater hwn? Achos, wrth gwrs, â ninnau angen arloesi ym maes trafnidiaeth mewn pob mathau o ffyrdd yng Nghymru, mae adnoddau sy'n cael eu sugno i mewn i hyn yn adnoddau a allai fod yn cael eu defnyddio mewn ffyrdd llawer mwy creadigol i wella cyflwr isadeiledd yng Nghymru.
O ran cwestiynau penodol, dwi'n rhannu llawer o'r pryderon rydych chi wedi eu codi yn barod. Yn sicr, mae'r ffaith bod Caergybi yn fy etholaeth i yn gwneud yr heriau yn y fan honno yn fwy real i fi nag i'r rhan fwyaf, mae'n siŵr, oherwydd dwi'n sôn am bobl sydd yn etholwyr i mi yn gweithio yn y porthladd, ac mae gobeithion am dyfu'r porthladd yn rhan o ddyfodol economaidd Ynys Môn. Rydych chi'n sôn am gynlluniau dros dro i ddefnyddio Roadking neu Barc Cybi. Pa fath o gynlluniau sy'n cael eu gwneud ar gyfer tymor ychydig hirach na hynny? Mae'n bwysig inni ystyried hynny hefyd. Mae ein profiad ni o beth sy'n digwydd ar ffiniau eraill yn awgrymu y bydd yna oedi. Hyd yn oed rhwng Norwy a Sweden, lle mae Norwy yn y farchnad sengl ond ddim yn yr undeb tollau, mae yna oedi ar gyfartaledd o ryw 20 munud. Rhwng Bwlgaria a Thwrci, wedyn, lle mae Twrci yn yr undeb tollau ond ddim yn y farchnad sengl, mae oedi o hyd at 24 awr. A rhwng Ffrainc a'r Swistir, sef y ffin sy'n cael ei nodi fel yr un sy'n debycaf i'r hyn y byddwn ni'n ei chael ar ôl Brexit, wel, mae yna oedi o hyd at ddwy awr, lle mae yna angen mynd drwy archwiliad llawn ar lorïau. Felly, waeth inni heb â meddwl na fydd yna heriau i'n porthladdoedd ni. Felly, ychydig bach o eglurder mwy tymor canolig, os gwelwch yn dda, ar Gaergybi.
O ran hediadau awyrennau, a fydden ni'n gallu cael ychydig yn rhagor o wybodaeth ynglŷn â beth mae'r Llywodraeth yn ceisio ei wneud i wthio am ddatganoli APD. Mi fydd angen hynny er mwyn rhoi hwb i Gaerdydd. Hefyd, oherwydd y cyfyngiadau ar unrhyw lwybrau newydd fyddai'n gallu cael eu datblygu am 12 mis ar ôl gadael, ydy hynny'n golygu nad oes yna fodd edrych ar hediadau pellach o Ynys Môn i Ddulyn, er enghraifft? Dwi'n cymryd na fyddai hynny'n bosib.
Dwi ddim yn gwybod os oes yna ragor y gallech chi ei ddweud wrthym ni am yr hyn sy'n cael ei wneud fel ymchwil i effaith tebygol masnach yn llifo yn uniongyrchol o Weriniaeth Iwerddon i Ffrainc neu i Sbaen o ganlyniad i lif llai rhwydd trwy borthladd Caergybi.
Ac yn olaf, mae yna opsiynau ar gyfer cyd-fuddsoddi, fel aelod o'r Undeb Ewropeaidd, ym mhorthladd Caergybi a phorthladdoedd eraill Cymru fel rhan o brosiect ar y cyd efo Gweriniaeth Iwerddon—prosiectau INTERREG neu brosiectau eraill TEN-T, er enghraifft. Mae'r opsiynau yna yn mynd i gael eu cau oddi wrthym ni. Pa ystyriaeth sydd wedi'i rhoi i'r math o gyd-fuddsoddiadau a fyddai'n bosib wedi Brexit caled, achos, o le dwi'n edrych, dim ond mynd yn anoddach fydd y math yna o fuddsoddiadau, a fyddai'n fuddiol i ni yn ogystal â'n partneriaid Ewropeaidd?