Part of the debate – Senedd Cymru am 5:17 pm ar 22 Ionawr 2019.
Diolch. Rwy'n credu bod Rhun ap Iorwerth wedi codi nifer o bwyntiau pwysig iawn y prynhawn yma. Yn gyntaf oll, o ran y posibilrwydd o fuddsoddi ar y cyd, mae'r Aelod yn gwbl gywir y byddai'r senario heb gytundeb yn arwain at gwestiynau ynglŷn â buddsoddiad mewn llwybrau TEN-T. Er hynny, rwyf wedi gofyn i'm swyddogion gwrdd â darpar fuddsoddwyr yr wythnos nesaf sy'n edrych ar borthladd Caergybi, ac sy'n dangos diddordeb mawr iawn yng ngwelliant seilwaith y porthladd i'w wneud yn fwy deniadol nid yn unig i ymwelwyr o dwristiaid, ond i fusnesau hefyd. Rwy'n credu y bydd raid inni ddyblu ein hymdrechion yn y blynyddoedd sydd i ddod i gynnal safle Caergybi fel prif borthladd fferïau ar gyfer cerbydau ar olwynion. Mae'r Aelod yn hollol gywir hefyd y byddwn yn cael ein rhwystro o ran y modd y gallwn ddatblygu llwybrau o bob un o feysydd awyr Cymru i'r tu allan o'r DU, ac felly byddai cwestiynau ynghylch a oes modd datblygu'r maes awyr ar Ynys Môn ymhellach. Byddai hyn yn siomedig iawn o ystyried y cynnydd yn nifer y teithwyr yr ydym wedi eu gweld yn defnyddio'r gwasanaeth hedfan hwn yn ddiweddar a'r hyn a gredaf sy'n gydnabyddiaeth gynyddol fod y maes awyr yn y gogledd- orllewin, y mae defnydd mawr arno erbyn hyn, yn rhywbeth sydd â dyfodol disglair iddo pe byddem ni'n cael cytundeb gweddol ar Brexit.
Wrth gwrs, mae ymchwiliad gan bwyllgor dethol yn digwydd ar hyn o bryd yn San Steffan ynghylch toll teithwyr awyr. Edrychwn ymlaen at ganlyniad yr ymchwiliad hwnnw. Rydym wedi cyflwyno tystiolaeth; mae maes awyr Caerdydd wedi gwneud hynny hefyd. Byddwn yn parhau i lobïo Llywodraeth y DU i roi chwarae teg i bawb. Wrth gwrs, nid yw ein hymgyrch hyd yn hyn wedi llwyddo. Ond byddem yn annog Llywodraeth y DU, er mwyn helpu cystadleurwydd economi Cymru, i edrych eto ar y mater pwysig hwn. Gellid datblygu rhai o'r atebion hyn yr wyf i wedi eu hamlinellu heddiw ar gyfer porthladd Caergybi fel atebion i'r tymor hwy. Mae'r datblygiad polisi ac ymyriadau gan Lywodraeth y DU wedi canolbwyntio i raddau helaeth ar barodrwydd y diwrnod cyntaf, ond wrth gwrs mae'n hanfodol ein bod yn edrych i'r tymor canolig a'r tymor hwy. Felly, mae'r asesiad o'r dewisiadau amrywiol a gynhaliwyd yng Nghaergybi a'r cyffiniau yn cynnwys datrysiadau i'r tymor canolig a hwy.
O ran yr adnoddau sydd gennym yn fy adran i, mae'r holl swyddogion yn rhannu baich yr her hon. Mae gennym swyddogion sydd wedi cael eu neilltuo yn benodol i ddatblygu polisi o ran ein hymadawiad â'r UE. Eto i gyd, i raddau helaeth, mae pob swyddog wedi troi ei olygon tuag at ymdrin â Brexit. Mae recriwtio ychwanegol yn digwydd ar hyn o bryd yn Llywodraeth Cymru ac, wrth gwrs, o ran adnoddau ariannol, ceir y gronfa pontio UE o £50 miliwn, ac o fewn honno, gronfa cydnerthedd busnes o £7.5 miliwn. Wrth gwrs, mae'r gronfa cydnerthedd busnes i raddau helaeth iawn ynghlwm i'r pecyn cymorth diagnostig a gynhelir gan Busnes Cymru, sy'n gallu cyfeirio busnesau at y cymorth perthnasol a'r arian perthnasol yr ydym ni'n gallu eu cynnig iddyn nhw yn ystod y cyfnod anodd hwn.