– Senedd Cymru am 4:50 pm ar 22 Ionawr 2019.
Eitem 11 yw datganiad gan Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth: effaith Brexit 'heb gytundeb' ar gludiant. Galwaf ar Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, Ken Skates.
Diolch, Dirprwy Lywydd, am y cyfle hwn i siarad am effaith 'Brexit heb gytundeb' ar gludo nwyddau a phobl a'r gwaith sylweddol y mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn ei wneud ac yn ei gydgysylltu i ddeall a lliniaru'r perygl o amhariad.
Fel yr ydym wedi ei glywed sawl tro y prynhawn yma—ac nid wyf i'n ymddiheuro o gwbl am ei ailadrodd—rydym ni wedi gwrthwynebu'r posibilrwydd o ymadael heb gytundeb am yn hir iawn, ac rydym ni'n galw ar Brif Weinidog y DU i ddweud ei bod am ddiddymu'r posibilrwydd hwn. Gallai Brexit heb gytundeb amharu'n ddifrifol ar y rhwydwaith trafnidiaeth a'r gwasanaethau cysylltiedig yng Nghymru. Rwyf wedi amlinellu ein cynlluniau uchelgeisiol ar gyfer y rhwydwaith trafnidiaeth yn y Siambr hon lawer gwaith, ac nid wyf eisiau eu gweld yn cael eu difetha gan ymgecru o fewn y Blaid Geidwadol a Brexit 'heb gytundeb' yn digwydd oherwydd diffyg dewis arall. Rydym ni'n awyddus i osgoi Brexit 'heb gytundeb' a'r effeithiau negyddol a gaiff ar fusnesau yng Nghymru ac yn rhyngwladol, sy'n cyfrannu cymaint at ein heconomi ac ansawdd bywyd pawb sy'n byw yn ein gwlad.
Dirprwy Lywydd, mynegwyd cryn ddiddordeb a phryder yn y Siambr hon, mewn sesiynau pwyllgor ac yn fwy eang yn y cyfryngau am oblygiadau Brexit 'heb gytundeb' i'n porthladdoedd ni, a hynny'n gwbl briodol. Mae porthladdoedd yng Nghymru yn gwneud cyfraniad pwysig i'n heconomi, yn bennaf drwy gynnig swyddi a gwerth ychwanegol i gymunedau lleol. Mae unrhyw risg i'w gweithrediad effeithlon yn achosi risg sylweddol i Gymru benbaladr. Mae porthladdoedd cynwysyddion, fel Caerdydd, Port Talbot a Chasnewydd, eisoes yn ymwneud â symud nwyddau rhyngwladol ac yn llai tebygol o weld amhariad sylweddol. O ran ein porthladdoedd llongau fferi, fodd bynnag, stori wahanol iawn fydd hi, ac maen nhw'n arbennig o agored i'r ergydion a allai daro yn dilyn Brexit heb gytundeb.
Mae'r rhan fwyaf o'r risgiau yn ymwneud â threfniadau trawsffiniol, tollau a gwiriadau diogelwch. Llywodraeth y DU, wrth gwrs, ddylai ddatrys y risgiau hyn. Mae Llywodraeth y DU wedi penderfynu peidio â gwneud gwiriadau ychwanegol ar nwyddau o wledydd yr UE mewn sefyllfa Brexit heb gytundeb, er bod hynny ar sail dros dro. Gallai hyn leddfu rhywfaint o'r pwysau byrdymor, ond mae angen ateb mwy cadarn, hirdymor arnom ni. Gallai'r gofyniad gan yr UE i Iwerddon drin nwyddau o'r DU fel pe byddent o drydedd wlad, gan gynnwys yr holl wiriadau gofynnol, achosi oedi canlyniadol ar borthladdoedd llongau fferi. Ar gyfer Doc Penfro ac Abergwaun, mae ein dadansoddiad yn awgrymu y gellid rheoli cerbydau sy'n cael eu dal yn ôl o fewn y porthladd ei hun. Rydym yn cadw hyn, wrth gwrs, o dan adolygiad parhaus, rhag ofn y bydd angen mesurau wrth gefn ychwanegol eto. Byddai Caergybi yn ei chael hi'n fwy anodd i ymdrin ag effeithiau'r oedi. Rydym ni'n gweithio ar ddatrysiadau i reoli'r dal yn ôl ar draffig oherwydd oedi yn y porthladd, ac rwy'n gallu rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynlluniau hyn i Aelodau heddiw.
Paratowyd asesiad gan Lywodraeth y DU o'r sefyllfa waethaf bosibl resymol ar gyfer cerbydau nwyddau trwm yn cael eu dal yn ôl, ac mae hyn yn berthnasol i'r holl borthladdoedd fferi ledled y DU. Mae'r asesiad hwn yn seiliedig ar nifer o ragdybiaethau traws- lywodraethol ac ar draws adrannau, megis yr archwiliadau y gellid eu gorfodi a pha seilwaith y gellid ei roi ar waith. Mae'r modelu yn dangos ei bod yn debygol y gellid cynnwys y traffig sy'n cael ei ddal yn ôl yng Nghaergybi o fewn terfynau'r porthladd ac y byddai unrhyw orlif yn annhebygol ar yr A55. Er hynny, seilir y modelu ar ystod o ragdybiaethau cyffredin y mae cryn ansicrwydd yn parhau yn eu cylch, ac sy'n cael eu hadolygu'n barhaus. Felly, rydym ni wedi datblygu cynlluniau wrth gefn yn rhan o grŵp ymgynghori strategol porthladd Caergybi, a sefydlwyd y llynedd.
Cafodd safleoedd posibl ar Ynys Môn eu nodi a'u hasesu, gan gynnwys y cyfleuster aros ar gyfer tryciau Roadking sydd yno'n barod. Mae fy swyddogion i wedi cwrdd â Roadking i drafod y defnydd o'r safle penodol hwn. Mae'n safle da yn ddaearyddol, ni cheir unrhyw faterion datblygiadol ac mae seilwaith addas eisoes ar gael. Byddwn yn trafod telerau gyda Roadking nawr, ond nid dyma'r unig ddewis sydd ar gael i ni. Dewis arall yw Parc Cybi. Safle sy'n cael ei ddatblygu gan Lywodraeth Cymru yw hwn, ac mae'n ddigon mawr i ddal 40 o gerbydau nwyddau trwm. A cheir dewis wrth gefn arall hefyd: gellid defnyddio'r A55. Ledled Ynys Môn, mae gwaith yn cael ei wneud ar y ffordd yn ystod y dydd gyda lonydd yn cael eu cau heb achosi fawr ddim anhwylustod. Gellid defnyddio mesurau tebyg, yn y sefyllfa annhebygol eu bod nhw'n angenrheidiol, er mwyn rheoli'r oedi o ran cludiant nwyddau yn y porthladd. Mae Brexit heb gytundeb yn achosi risgiau mwy cyffredinol i gludiant nwyddau hefyd, gan y gallai syrthio'n ôl ar y system drwyddedu rhyngwladol osod cyfyngiadau difrifol ar weithredwyr sy'n symud nwyddau ar draws y ffin rhwng y DU a'r UE.
Mae Comisiwn yr UE wedi cynnig ateb dros dro pe na fyddai cytundeb. Byddai'n caniatáu i gerbydau nwyddau trwm o'r DU a'r UE barhau i gludo nwyddau dros y ffin ar sail cyd-gydnabyddiaeth tan ddiwedd y flwyddyn galendr hon. Felly, ni fyddai hyn, wrth gwrs, ond yn ddihangfa dros dro. Mae angen mwy o eglurder ynghylch y trefniadau i'r dyfodol a goblygiadau'r cyfyngiadau ar drwyddedau, gan gynnwys beth allai hynny ei olygu i gludwyr Cymru a'r porthladdoedd a'r busnesau a'r defnyddwyr unigol sy'n dibynnu arnyn nhw. Mae'n bwysig pwysleisio'r effaith fawr debygol ar fwyd a nwyddau eraill sydd ar eu ffordd i Gymru pe bai tarfu sylweddol yn Dover, y mae Llywodraeth y DU yn ei ddisgwyl pe digwyddai Brexit heb gytundeb. Tra bod Llywodraeth Ffrainc wedi cyhoeddi ei bwriad i fabwysiadu deddfwriaeth ar gyfer sicrhau seilwaith brys yn ei phorthladdoedd ac ysgafnhau rhai trefniadau o ran tollau, mae'r manylion yn aneglur. Ni chafwyd unrhyw awgrym tebyg gan Iwerddon o fwriad i ysgafnhau'r trefniadau. Rydym yn parhau i weithio gyda rhanddeiliaid allweddol yn y diwydiant cludo nwyddau i sicrhau y gallwn ymateb i anghenion y diwydiant mewn modd cyflym a chyfrifol.
Dirprwy Lywydd, gan droi at fater sy'n effeithio ar bob un ohonom ni sy'n ddeiliad trwydded yrru: bydd y DU yn parhau i fod yn aelod o Gonfensiwn Fienna ar Draffig Ffyrdd ar ôl diwrnod yr ymadael, ynghyd â'r rhan fwyaf o wladwriaethau'r UE. Bydd trwyddedau gyrru'r DU yn parhau i gael eu cydnabod, ond gall partïon i'r cytundeb hwn ei gwneud yn ofynnol i ddeiliaid gael trwydded yrru ryngwladol pe bydden nhw'n gyrru ar y cyfandir yn y dyfodol. O ran yswiriant moduron, mae cyfraith yr UE yn caniatáu i unrhyw gerbyd sydd wedi cael ei yswirio yn un o'r gwladwriaethau sy'n perthyn iddi gael ei yrru yn unrhyw un o'r lleill. Eto i gyd, mae'n ofynnol i gerbydau sydd fel rheol mewn trydedd wlad, fel y byddai'r DU ar ôl Brexit heb gytundeb, gael cerdyn gwyrdd dilys. Tra bydd y DU yn cymryd rhan yn y system hon, bydd yn golygu biwrocratiaeth ychwanegol i yrwyr sy'n dymuno gyrru yn yr UE a thrwy'r UE, a bydd yn rhaid iddynt gario cardiau gwyrdd yswiriant modur i brofi bod ganddyn nhw yswiriant dilys. Ceir risg gwirioneddol iawn o gynnydd yng nghost yswiriant. Rydym i gyd wedi clywed yr adroddiadau newyddion gan yr AA bod premiymau yswiriant car wedi codi gan gyfartaledd o 2.7 y cant dros y tri mis diwethaf o ganlyniad i ansicrwydd Brexit.
Yn olaf, hoffwn i droi at y gwasanaethau awyr. Mae'r Comisiwn wedi cynnig rheoliadau i barhau â'r hediadau uniongyrchol presennol rhwng yr UE a'r DU am 12 mis ar ôl diwrnod yr ymadael. Serch hynny, mesur dros dro yw hwn a chytundeb esgyrn sychion. Gallai gweithredwyr y DU golli'r cymhwyster i hedfan i'r UE ac ymlaen i gyrchfannau eraill, bydded hynny o fewn Ewrop neu fel arall, ac ni fydden nhw'n gallu sefydlu llwybrau newydd neu gynyddu eu gwasanaethau ar lwybrau presennol. Gallai hyn fod â goblygiadau pwysig a negyddol i deithwyr busnes a hamdden o Gymru a'r DU, ni waeth ble fyddai man cychwyn eu taith. Gallai hefyd fod â goblygiadau dwys i Faes Awyr Caerdydd, sydd wedi gweld twf sylweddol yn sgil ei gysylltiadau â'r UE. Gallai'r cyfyngiadau a osodir ar y marchnadoedd hyn yn ystod y cam hwn wrthdroi'r twf diweddar, gan leihau cynaliadwyedd ariannol unig faes awyr rhyngwladol Cymru a diddymu porth pwysig i gyrchfannau rhyngwladol ar gyfer teithwyr o Gymru.
Rydym ni, wrth gwrs, yn pwyso ar Lywodraeth y DU i osgoi sefyllfa o'r fath. At hynny, wedi i'r DU ymadael â'r Undeb Ewropeaidd, mae datganoli'r doll teithwyr awyr i Gymru yn dal i fod yn un o'r dulliau mwyaf effeithiol o rymuso rhagolygon economaidd Maes Awyr Caerdydd. Felly, byddwn yn parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU i sicrhau chwarae teg o ran y doll teithwyr awyr ac i drin Cymru yn yr un modd ag y mae wedi trin Gogledd Iwerddon a'r Alban.
Byddwn yn parhau hefyd i bwyso ar Lywodraeth y DU i ddatblygu ein cais presennol i gymeradwyo rhwymedigaeth gwasanaeth cyhoeddus o ran naw llwybr i mewn ac allan o Gaerdydd, oherwydd mae'r oedi'n annerbyniol.
Dirprwy Lywydd, rydym gan hynny yn cymryd pob cam rhesymol i ddiogelu uniondeb ein system drafnidiaeth yn wyneb Brexit heb gytundeb a sicrhau hyfywedd parhaus a llwyddiant ein system cludiant. Fodd bynnag, ni ddylem fod dan unrhyw gamargraff, gyda Brexit heb gytundeb, y byddai amhariad er hynny oll.
Hoffwn ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad, a oedd o gymorth mawr, yn cynnwys gwybodaeth ddefnyddiol a diweddariadau i'r Aelodau. Heb amheuaeth, mae'r gwaith paratoi ar gyfer Brexit heb gytundeb yn gosod baich ychwanegol ar weision sifil Llywodraeth Cymru, rwy'n credu, a chredaf y dylid cydnabod hynny hefyd.
Roedd eich datganiad yn gwella wrth ichi fynd yn eich blaen, ond roedd y dechrau'n wael. Roeddech chi'n sôn am wahaniaeth barn o fewn y Blaid Geidwadol, ond wrth gwrs ni soniwyd am yr ymgecru o fewn y Blaid Lafur. Ond rwy'n symud ymlaen at y meysydd pwysig a rhesymol yn eich datganiad.
Nawr, caf ar ddeall y cafwyd cytundeb eang ar y dull gweithredu a argymhellwyd gan Lywodraeth y DU o ran trafnidiaeth, felly byddwn—Gweinidog, pe byddech chi'n cadarnhau a yw hyn yn wir a rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch pa drefniadau a gafwyd â Llywodraeth y DU ers y cyd-fforwm Gweinidogol ar drafodaethau gyda'r UE a gynhaliwyd ar 3 Rhagfyr. O dan y fargen a negodwyd gyda'r Prif Weinidog, roedd Llywodraeth y DU a'r UE wedi cytuno ar gytundeb cynhwysfawr ar drafnidiaeth awyr, ar ymrwymiadau a fydd yn caniatáu cytundebau tebyg ar gyfer chludwyr ffyrdd a gweithrediad bysiau a choetsis, yn ogystal â chytundeb dwyochrog ar wasanaethau rheilffyrdd trawsffiniol. Nawr, os yw cytundeb y Prif Weinidog bellach mewn perygl, fel yn wir y mae, a gaf i ofyn pa drafodaethau a gawsoch chi gyda'r grŵp cynghori busnes ar ymadael â'r UE a'r grwpiau diwydiant trafnidiaeth eraill yng Nghymru ar effaith Brexit heb gytundeb ar y sector?
Pan ddaw Brexit, bydd cwmnïau awyrennau trwyddedig y DU yn peidio â bod yn gludwyr awyr cymunedol ar gyfer gweithredu gwasanaethau awyr nac ychwaith yn rhan o'r cytundeb amlochrog ar sefydlu ardal hedfan gyffredin Ewropeaidd. Felly pa drafodaethau yr ydych wedi eu cael â Maes Awyr Caerdydd, a gweithredwyr awyrennau sy'n gweithredu o'r maes awyr, wrth baratoi ar gyfer Brexit? Mae sector awyrofod Cymru, fel rwy'n siŵr y byddwch yn cytuno'n llwyr â mi, yn sector twf uchel â gwerth uchel, sy'n cael ei yrru gan arloesedd, ac yn sicr rwy'n dymuno gweld Cymru yn sicrhau'r safle hwnnw fel arweinydd byd yn y farchnad fyd-eang yn y dyfodol. Rwy'n deall y bu ymgysylltiad traws lywodraethol â rhanddeiliaid allweddol ledled y sector awyrofod ers y refferendwm ar Brexit. Fe wnes i gyfarfod ag Airbus fy hunan, ychydig wythnosau cyn y Nadolig, ynghyd ag arweinydd yr wrthblaid, Paul Davies, i roi ymrwymiad i wneud yr hyn a allem i sicrhau mai Cymru yw'r lleoliad mwyaf cystadleuol yn y byd ar gyfer gweithgynhyrchu awyrofod a gweithgynhyrchu datblygedig arall. Mae'n amlwg nad yw er budd y DU, Cymru na'r UE i amharu ar gadwyn gyflenwi dim-ond-mewn-pryd ein sector awyrofod integredig, ac ni ddylai cynhyrchion ond sefyll un archwiliad yn unig gyda chyfres o gymeradwyaethau mewn un wlad. Tybed a gaf i glywed eich sylwadau yn hynny o beth.
Mae'r sensitifrwydd o ran amser sy'n gynhenid i logisteg fodern y DU a'r cadwyni cyflenwi yn golygu bod cynnal y broses gadwyn gyflenwi yn ddi-dor o bwys economaidd mawr. Tybed pa asesiad a gafwyd o'r effaith ar ein diwydiant morol, o ystyried pwysigrwydd ein porthladdoedd i gludo nwyddau. Rydych chi wedi sôn llawer yn eich datganiad am y cyfraniad at ein heconomi o ran ein porthladdoedd a'r risg y mae Brexit heb gytundeb yn ei olygu i'n gweithrediadau pysgota. Rwy'n cytuno â chi yn hynny o beth. Clywais yr hyn a ddywedoch am ein porthladdoedd. Tybed a ydych chi wedi cael unrhyw drafodaeth am y newidiadau tebygol yn y patrymau masnachu a fyddai'n effeithio ar borthladdoedd fel sydd yng Nghaergybi ac Abergwaun, oherwydd, yn amlwg, bydd effeithiau canlyniadol i gyflenwyr trydydd parti.
Yn eich datganiad, roeddech yn trafod masnachu ag Iwerddon, ac rwy'n holi pa drafodaethau yr ydych wedi eu cael, Gweinidog, â'ch cymheiriaid yn Llywodraeth Iwerddon i drafod goblygiadau Brexit i borthladdoedd Cymru a chysylltiadau trafnidiaeth rhwng Iwerddon a Chymru yn gyffredinol. Rwy'n holi hefyd pa gyngor a gyhoeddwyd gennych—pe bai modd ichi roi gwybod inni pa gyngor a gyhoeddwyd gennych i borthladdoedd a masnachwyr a busnesau eraill a sefydliadau eraill sy'n defnyddio'r ffin ynglŷn â tharfu posibl, fel y byddan nhw'n gallu paratoi eu cadwyni cyflenwi.
Tybed pa ystyriaeth a roddwyd i ddisodli deddfwriaeth rheilffyrdd yr UE ar strwythur y diwydiant yma yng Nghymru? A oes unrhyw gyfle o gwbl i ddwyn ymlaen unrhyw gynlluniau buddsoddi cyfalaf ar drafnidiaeth er mwyn cefnogi economi Cymru? Ac, yn olaf, roeddech chi'n sôn am y posibilrwydd o safleoedd aros ar gyfer cerbydau a ddaliwyd yn ôl ar Ynys Môn ac yn Sir Benfro. Tybed a ydych chi wedi cael unrhyw drafodaethau ar faterion diogelwch gyda'r heddlu yn yr ardaloedd hynny neu, yn wir, a yw eich swyddogion chi wedi cael trafodaethau ar ddiogelwch â'r heddluoedd yn yr ardaloedd penodol hynny.
A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei gyfraniad ac am ei gwestiynau? Rwyf i o'r farn ei fod yn gwneud nifer o bwyntiau pwysig. Rwy'n mynd i ddechrau gyda'r pwyntiau olaf a'r cwestiynau olaf a godwyd ganddo yn gyntaf, mae Heddlu Gogledd Cymru yn rhan o'r grŵp a sefydlwyd gennym yn y gogledd-orllewin i edrych ar weithrediadau'r porthladd i'r dyfodol. Ac, ynghyd â Heddlu Gogledd Cymru, mae asiantaethau eraill yn ymwneud â'r gwaith, gan gynnwys, er enghraifft, y GIG, i wneud yn siŵr y caiff unrhyw effaith ar y porthladd ei reoli ar draws y sector cyhoeddus.
Byddwn i'n annog pob busnes, oherwydd codwyd cwestiwn gan yr Aelod am gyngor a roddir i fusnesau ynglŷn â tharfu mewn porthladdoedd—. Wel, mae cyngor ar y mater hwn a nifer o faterion eraill sy'n ymwneud â Brexit eisoes ym mhorth Brexit yr UE sydd wedi cael ei sefydlu ar wefan Busnes Cymru. Byddwn yn annog pob busnes i ymweld â'r safle—mae 17,000 wedi gwneud hynny eisoes—a manteisio ar yr offeryn diagnostig sydd ar gael ar y wefan arbennig honno i asesu'r effaith bosibl ar fusnesau unigol yn ôl y senarios amrywiol a allai ymddangos ar ôl 29 Mawrth.
Mae Russell George yn iawn i ddweud bod her Brexit wedi gosod baich ychwanegol sylweddol ar weision sifil yn Llywodraeth Cymru. Fel y dywedodd y Prif Weinidog eisoes, mae swyddogion dan bwysau—dan bwysau anhygoel—oherwydd y gwaith sy'n angenrheidiol er mwyn inni leihau effaith, yn arbennig leihau effaith Brexit heb gytundeb. Dylwn ddweud yn ein bod yn unfarn o fewn y blaid ar Brexit, ac mae hynny'n egluro pam yr ydym wedi gallu rhoi cynllun parodrwydd mor gynhwysfawr at ei gilydd a pham, er gwaethaf Brexit hyd yn oed, ein bod ni'n gallu bwrw ymlaen â gwaith bob dydd, ac, yn fy adran i, mae hynny'n cynnwys denu buddsoddiadau mawr megis Monzo Bank Ltd, a gwneud yn siŵr ein bod ni'n gallu cefnogi datblygiad busnesau bach a maint micro. Bydd yr Aelod yn ymwybodol o'r ystadegau cyflogaeth, a ddangosodd fod cyflogaeth heddiw ar ei lefel uchaf erioed yng Nghymru, a hynny oherwydd gwaith caled Llywodraeth Cymru, yn gweithio mewn partneriaeth gymdeithasol gyda busnesau, undebau llafur, gyda darparwyr addysg a'r trydydd sector, gan wneud yn siŵr, er gwaethaf Brexit, ein bod yn symbylu twf economaidd ledled Cymru. Ac mae'n rhaid dweud y daw ein hymdrechion a'n llwyddiannau er gwaethaf bygythiad Brexit heb gytundeb.
Gwyddom fod ansicrwydd ynglŷn â Brexit yn llesteirio'r economi fwy nag 1.5 y cant. Felly, mae'n gwbl amlwg, pe na fyddem yn gadael yr UE neu pe byddem yn datrys y cyfyng gyngor gyda chytundeb sy'n bodloni ein meini prawf, yna byddai rhywfaint bach o ffyniant yn yr economi, ac mae hynny'n rhywbeth, rwy'n siŵr, y byddai'r Aelodau i gyd yn ei groesawu.
Ceir trefniadau ar waith eisoes drwy gyfrwng pwyllgorau ar y cyd â Llywodraeth y DU sy'n ymwneud â thrafnidiaeth. Fe wnes i gyfarfod â'm cymheiriaid yn Llywodraeth y DU ychydig cyn y Nadolig i drafod amrywiaeth o faterion a oedd yn ymwneud yn benodol â phorthladdoedd a diwydiant cludo nwyddau ar y ffyrdd. Os bydd y Prif Weinidog yn methu â sicrhau cytundeb, yna caiff y mater ei archwilio ymhellach gan y grŵp ymadael â'r UE, sy'n is-grŵp o gyngor datblygu'r economi. Mewn partneriaeth ag Ysgol Fusnes Caerdydd, sydd wedi bod yn cynnal asesiadau cynhwysfawr, rydym wedi bod yn cyfarfod yn rheolaidd iawn i asesu effaith senarios ar economi Cymru, ond yn arbennig gyda chanolbwyntio ar Brexit heb gytundeb.
O ran ardal hedfan yr UE, mae maes awyr Caerdydd yn gweithredu fel corff hyd braich ac yn cydweithio'n agos iawn â chludwyr awyrennau. O ran y sector awyrofod, roeddwn i gydag Airbus ddydd Iau diwethaf yn y gogledd, ac eto cafodd y neges ei chyfleu imi yn blaen ac yn eglur iawn y byddai senario heb gytundeb yn drychinebus i'r sector awyrofod. Yn amlwg, mae symudiad pobl yn hanfodol i Airbus. Mae'n gwbl hanfodol, os daw problem i'r amlwg yn Tolouse, y mae Brychdyn yn gallu defnyddio gweithwyr proffesiynol medrus ac arbenigwyr yn eu maes penodol ar amrantiad. Bydd unrhyw gyfyngiad ar y gallu i ddefnyddio medrusrwydd gweithwyr proffesiynol yn y ffordd honno yn effeithio ar wasanaethau dim-ond-mewn-pryd, yn ogystal ag ar y ddarpariaeth o nwyddau ac ethos dim-ond-mewn pryd.
Nawr, gwnaed nifer o awgrymiadau a nifer o asesiadau o effaith oedi mewn porthladdoedd ac mae hynny wedi llywio ein cynllun parodrwydd. Ceir pryder arbennig o ran nwyddau darfodus, am resymau amlwg. Cafwyd trafodaethau â chymheiriaid. Rwyf i wedi cael trafodaeth gyda'r Gweinidog yn Llywodraeth Iwerddon, a'r hyn sy'n hanfodol, wrth symud ymlaen, yw ein bod yn dod o hyd i bob ffordd bosibl o osgoi pentyrru cerbydau nwyddau trwm am gyfnod sylweddol o amser ym mhorthladd Caergybi, a'n bod ni'n gallu osgoi unrhyw bentyrru cerbydau nwyddau trwm yn Dover hefyd. Mae'n gwbl hanfodol cael bwyd i mewn i'n gwlad ni ac i'r busnesau sy'n gweithredu yn y sector bwyd a diod a'u bod nhw hefyd yn gallu allforio dan reolau sy'n gwrthdaro cyn lleied â phosibl.
Diolch. A gaf i wneud awgrym bach? Rydym hanner ffordd drwy'r amser a bennwyd i'ch datganiad ac un cwestiwn sydd wedi bod. Rhun ap Iorwerth.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Wrth gwrs, mae hwn yn faes arall mae yna gryn ansicrwydd ynglŷn ag o wrth inni agosáu at yr adeg pan fo'n ymddangos ein bod ni'n dal, ar hyn o bryd, i fod i adael yr Undeb Ewropeaidd. A gaf i ofyn un cwestiwn? Faint o adnoddau o fewn eich adran chi bellach o ran pobl a chyllid sydd yn gorfod canolbwyntio ar Brexit a dim arall? A faint o staff ychwanegol ydych chi wedi gorfod eu recriwtio i ymwneud â'r mater hwn? Achos, wrth gwrs, â ninnau angen arloesi ym maes trafnidiaeth mewn pob mathau o ffyrdd yng Nghymru, mae adnoddau sy'n cael eu sugno i mewn i hyn yn adnoddau a allai fod yn cael eu defnyddio mewn ffyrdd llawer mwy creadigol i wella cyflwr isadeiledd yng Nghymru.
O ran cwestiynau penodol, dwi'n rhannu llawer o'r pryderon rydych chi wedi eu codi yn barod. Yn sicr, mae'r ffaith bod Caergybi yn fy etholaeth i yn gwneud yr heriau yn y fan honno yn fwy real i fi nag i'r rhan fwyaf, mae'n siŵr, oherwydd dwi'n sôn am bobl sydd yn etholwyr i mi yn gweithio yn y porthladd, ac mae gobeithion am dyfu'r porthladd yn rhan o ddyfodol economaidd Ynys Môn. Rydych chi'n sôn am gynlluniau dros dro i ddefnyddio Roadking neu Barc Cybi. Pa fath o gynlluniau sy'n cael eu gwneud ar gyfer tymor ychydig hirach na hynny? Mae'n bwysig inni ystyried hynny hefyd. Mae ein profiad ni o beth sy'n digwydd ar ffiniau eraill yn awgrymu y bydd yna oedi. Hyd yn oed rhwng Norwy a Sweden, lle mae Norwy yn y farchnad sengl ond ddim yn yr undeb tollau, mae yna oedi ar gyfartaledd o ryw 20 munud. Rhwng Bwlgaria a Thwrci, wedyn, lle mae Twrci yn yr undeb tollau ond ddim yn y farchnad sengl, mae oedi o hyd at 24 awr. A rhwng Ffrainc a'r Swistir, sef y ffin sy'n cael ei nodi fel yr un sy'n debycaf i'r hyn y byddwn ni'n ei chael ar ôl Brexit, wel, mae yna oedi o hyd at ddwy awr, lle mae yna angen mynd drwy archwiliad llawn ar lorïau. Felly, waeth inni heb â meddwl na fydd yna heriau i'n porthladdoedd ni. Felly, ychydig bach o eglurder mwy tymor canolig, os gwelwch yn dda, ar Gaergybi.
O ran hediadau awyrennau, a fydden ni'n gallu cael ychydig yn rhagor o wybodaeth ynglŷn â beth mae'r Llywodraeth yn ceisio ei wneud i wthio am ddatganoli APD. Mi fydd angen hynny er mwyn rhoi hwb i Gaerdydd. Hefyd, oherwydd y cyfyngiadau ar unrhyw lwybrau newydd fyddai'n gallu cael eu datblygu am 12 mis ar ôl gadael, ydy hynny'n golygu nad oes yna fodd edrych ar hediadau pellach o Ynys Môn i Ddulyn, er enghraifft? Dwi'n cymryd na fyddai hynny'n bosib.
Dwi ddim yn gwybod os oes yna ragor y gallech chi ei ddweud wrthym ni am yr hyn sy'n cael ei wneud fel ymchwil i effaith tebygol masnach yn llifo yn uniongyrchol o Weriniaeth Iwerddon i Ffrainc neu i Sbaen o ganlyniad i lif llai rhwydd trwy borthladd Caergybi.
Ac yn olaf, mae yna opsiynau ar gyfer cyd-fuddsoddi, fel aelod o'r Undeb Ewropeaidd, ym mhorthladd Caergybi a phorthladdoedd eraill Cymru fel rhan o brosiect ar y cyd efo Gweriniaeth Iwerddon—prosiectau INTERREG neu brosiectau eraill TEN-T, er enghraifft. Mae'r opsiynau yna yn mynd i gael eu cau oddi wrthym ni. Pa ystyriaeth sydd wedi'i rhoi i'r math o gyd-fuddsoddiadau a fyddai'n bosib wedi Brexit caled, achos, o le dwi'n edrych, dim ond mynd yn anoddach fydd y math yna o fuddsoddiadau, a fyddai'n fuddiol i ni yn ogystal â'n partneriaid Ewropeaidd?
Diolch. Rwy'n credu bod Rhun ap Iorwerth wedi codi nifer o bwyntiau pwysig iawn y prynhawn yma. Yn gyntaf oll, o ran y posibilrwydd o fuddsoddi ar y cyd, mae'r Aelod yn gwbl gywir y byddai'r senario heb gytundeb yn arwain at gwestiynau ynglŷn â buddsoddiad mewn llwybrau TEN-T. Er hynny, rwyf wedi gofyn i'm swyddogion gwrdd â darpar fuddsoddwyr yr wythnos nesaf sy'n edrych ar borthladd Caergybi, ac sy'n dangos diddordeb mawr iawn yng ngwelliant seilwaith y porthladd i'w wneud yn fwy deniadol nid yn unig i ymwelwyr o dwristiaid, ond i fusnesau hefyd. Rwy'n credu y bydd raid inni ddyblu ein hymdrechion yn y blynyddoedd sydd i ddod i gynnal safle Caergybi fel prif borthladd fferïau ar gyfer cerbydau ar olwynion. Mae'r Aelod yn hollol gywir hefyd y byddwn yn cael ein rhwystro o ran y modd y gallwn ddatblygu llwybrau o bob un o feysydd awyr Cymru i'r tu allan o'r DU, ac felly byddai cwestiynau ynghylch a oes modd datblygu'r maes awyr ar Ynys Môn ymhellach. Byddai hyn yn siomedig iawn o ystyried y cynnydd yn nifer y teithwyr yr ydym wedi eu gweld yn defnyddio'r gwasanaeth hedfan hwn yn ddiweddar a'r hyn a gredaf sy'n gydnabyddiaeth gynyddol fod y maes awyr yn y gogledd- orllewin, y mae defnydd mawr arno erbyn hyn, yn rhywbeth sydd â dyfodol disglair iddo pe byddem ni'n cael cytundeb gweddol ar Brexit.
Wrth gwrs, mae ymchwiliad gan bwyllgor dethol yn digwydd ar hyn o bryd yn San Steffan ynghylch toll teithwyr awyr. Edrychwn ymlaen at ganlyniad yr ymchwiliad hwnnw. Rydym wedi cyflwyno tystiolaeth; mae maes awyr Caerdydd wedi gwneud hynny hefyd. Byddwn yn parhau i lobïo Llywodraeth y DU i roi chwarae teg i bawb. Wrth gwrs, nid yw ein hymgyrch hyd yn hyn wedi llwyddo. Ond byddem yn annog Llywodraeth y DU, er mwyn helpu cystadleurwydd economi Cymru, i edrych eto ar y mater pwysig hwn. Gellid datblygu rhai o'r atebion hyn yr wyf i wedi eu hamlinellu heddiw ar gyfer porthladd Caergybi fel atebion i'r tymor hwy. Mae'r datblygiad polisi ac ymyriadau gan Lywodraeth y DU wedi canolbwyntio i raddau helaeth ar barodrwydd y diwrnod cyntaf, ond wrth gwrs mae'n hanfodol ein bod yn edrych i'r tymor canolig a'r tymor hwy. Felly, mae'r asesiad o'r dewisiadau amrywiol a gynhaliwyd yng Nghaergybi a'r cyffiniau yn cynnwys datrysiadau i'r tymor canolig a hwy.
O ran yr adnoddau sydd gennym yn fy adran i, mae'r holl swyddogion yn rhannu baich yr her hon. Mae gennym swyddogion sydd wedi cael eu neilltuo yn benodol i ddatblygu polisi o ran ein hymadawiad â'r UE. Eto i gyd, i raddau helaeth, mae pob swyddog wedi troi ei olygon tuag at ymdrin â Brexit. Mae recriwtio ychwanegol yn digwydd ar hyn o bryd yn Llywodraeth Cymru ac, wrth gwrs, o ran adnoddau ariannol, ceir y gronfa pontio UE o £50 miliwn, ac o fewn honno, gronfa cydnerthedd busnes o £7.5 miliwn. Wrth gwrs, mae'r gronfa cydnerthedd busnes i raddau helaeth iawn ynghlwm i'r pecyn cymorth diagnostig a gynhelir gan Busnes Cymru, sy'n gallu cyfeirio busnesau at y cymorth perthnasol a'r arian perthnasol yr ydym ni'n gallu eu cynnig iddyn nhw yn ystod y cyfnod anodd hwn.
Rwy'n diolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad heddiw. Fy mhryder mawr i a llawer un arall yn y fan hon, rwy'n siŵr, yw bod y dewis a'r realiti o Brexit heb gytundeb yn parhau, ac yn yr amlwg i raddau helaeth iawn. Ni allaf farnu na wnaiff hynny ddigwydd, ond ni allaf weld unrhyw gynllun sy'n dal dŵr i wneud yn siŵr na fydd hynny'n digwydd. Rwyf i yn gryf o'r farn fod ymdrechion Yvette Cooper ac ASau eraill clir eu meddwl yn San Steffan yn hanfodol bwysig yn hyn o beth, a chredaf hefyd mai dyna pam y dylai'r bobl gael y gair olaf ar Brexit.
Rwy'n awyddus i ganolbwyntio fy mhryderon ar yr ardaloedd yn fy rhanbarth i, a'r rhai hynny'n amlwg iawn yw porthladdoedd Aberdaugleddau, Doc Penfro ac Abergwaun, ond hefyd y cysylltiadau trafnidiaeth a allai fod dan fygythiad wrth ymadael neu Brexit heb gytundeb—y drafnidiaeth reilffordd sy'n ymestyn yr holl ffordd i lawr i Abergwaun. Mae lein Abergwaun, yn yr holl ymholiadau yr wyf wedi bod ynddyn nhw erioed—lein ar gyfer teithwyr—yn datgan yn eglur nad nifer y teithwyr sy'n ei chadw mewn gwaith, ond y nwyddau sy'n cael eu cludo i lawr i Abergwaun neu i Ddoc Penfro. Felly, os bydd y cysylltiadau trafnidiaeth o gludo nwyddau ar y rheilffordd yn lleihau neu hyd yn oed yn cael eu colli, a oes gennym unrhyw gynlluniau wrth gefn i gadw'r rheilffordd yn agored ac yn hygyrch i bobl sy'n ei defnyddio ar hyn o bryd?
O ran Aberdaugleddau, pan roddwyd tystiolaeth i faterion allanol, roedd porthladd Aberdaugleddau yn dweud, gyda dwy ran o dair o'r allforion o Iwerddon yn mynd drwy borthladdoedd Cymru a Lloegr i borthladdoedd y sianel ac ymlaen wedyn i'r cyfandir, y byddai sefydlu unrhyw system reoleiddio i ynys Iwerddon a fyddai'n gwyro oddi wrth weddill y DU—ffin galed ym Môr Iwerddon—yn drafferthus iawn i'r gweithrediadau hynny. Gallai hynny'n syml ac yn amlwg iawn arwain at osgoi pob un o borthladdoedd Cymru yn gyfan gwbl a hwylio'n llon i Ewrop heb ddod â dim i'r lan yma.
Rwy'n arbennig o bryderus hefyd, os byddwn yn parhau i gael trafnidiaeth cludo nwyddau yn dod drwy Abergwaun neu unrhyw un o'r porthladdoedd eraill hynny, pe byddai yna oedi, y byddem yn gallu ymdopi â nifer y lorïau yn yr ardaloedd hynny. Nid oes unrhyw fath o faes parcio mawr yn unrhyw un o'r porthladdoedd hyn i ymdopi ag oedi mewn unrhyw ffordd o gwbl. Ac nid oes gennym y seilwaith yr ydych chi newydd dynnu sylw ato yn ardal Caergybi i ymdrin â hynny. Felly, dyna fy nghwestiynau allweddol i.
A gaf i ddiolch i Joyce Watson am ei chyfraniad? Rwy'n cytuno'n llwyr â phopeth a ddywedodd hi. Hoffwn ychwanegu at rai o'r pwyntiau a godwyd ganddi. O ran trafnidiaeth reilffordd, wrth gwrs, bydd yna heriau gydag amserlennu pe bai oedi sylweddol mewn porthladdoedd a tharfu ar gludiant nwyddau. Dim ond y llynedd gwelsom yr hyn sy'n digwydd pan fydd newidiadau yn yr amserlen yn mynd o chwith. Felly, mae hon yn ystyriaeth allweddol hefyd sydd angen ei dwyn ymlaen gan yr Adran Drafnidiaeth. Rydym yn cysylltu'n agos iawn â'r Adran Drafnidiaeth ac, wrth gwrs, â Thrafnidiaeth Cymru.
Rwyf i o'r farn ei bod yn bwysig cydnabod hefyd, er nad ystyrir bod porthladdoedd Abergwaun a Phenfro mewn perygl mawr ar hyn o bryd, oherwydd y trwygyrch cymharol isel o'i gymharu â Chaergybi, ei bod yn rhaid inni gydweithio yn agos iawn ag awdurdod lleol Sir Benfro a phartneriaid eraill i adolygu'n gyson yr angen am fesurau rhagofalus, oherwydd pe bai oedi sylweddol iawn rywbryd eto, yna, wrth gwrs, bydd yn rhaid inni gychwyn datrysiadau i liniaru hynny.
Nawr, mae gan Ddoc Penfro ofod ychwanegol ar gyfer parcio, fel y mae ar hyn o bryd, i ddarparu ar gyfer cerbydau sy'n aros ar eu ffordd oddi yno, ond, wrth gwrs, mae'n debyg y byddai'r gofod ychwanegol hwnnw'n cael ei lyncu pe bai'r cytundeb anghywir yn cael ei negodi neu os na lwyddwn i gael cytundeb o gwbl a chwympo'n glatsh o Ewrop. Felly, unwaith eto, hoffwn sicrhau'r Aelod y byddaf yn cysylltu'n agos iawn â'r porthladdoedd ac â'r awdurdod lleol i sicrhau y bydd cyn lleied o darfu â phosibl.
Ond credaf hefyd fod yna bwynt pwysig i'w wneud ynghylch y cwmnïau cludo nwyddau eu hunain. Gwyddom y bydd cyfyngu ar nifer y trwyddedau, ac rydym yn ofni mai'r cwmnïau cludo nwyddau mwy o faint fydd yn debygol o elwa ar y gyfundrefn drwyddedu. Yn anffodus, mae hynny'n golygu y gallai llawer o gwmnïau cludo nwyddau llai eu maint yng Nghymru yn methu â chael y trwyddedau sydd eu hangen i weithredu yn yr UE, mae'n debyg. Nid yw hyn yn bryder sy'n unigryw i Gymru, ychwaith. Roeddwn i'n darllen yn ddiweddar bod gan gymdeithas trafnidiaeth cludiant nwyddau Gogledd Iwerddon bryderon tebyg iawn a nodwyd ganddi mai dim ond 1,200 o drwyddedau a gynigwyd mewn blwyddyn ledled y DU y llynedd, a bod angen 40,000. A phe byddai Brexit heb gytundeb, wrth gwrs, mae cwmnïau cludo nwyddau eisoes wedi gweld y dyddiad cau yn mynd heibio i yrwyr lorïau i allu gwneud cais am drwyddedau gyrru yn Ewrop. Mae hon yn ystyriaeth o bwys i gwmnïau cludo nwyddau ledled y DU, ond yn arbennig o bwysig i gwmnïau bach yng Nghymru, a allai fod dan anfantais dan y gyfundrefn drwyddedu ac sydd efallai heb fod mor effro i ganlyniadau Brexit heb gytundeb â rhai o'r cwmnïau mwy o faint ledled y DU.
Yn gyntaf, a gaf i ddechrau drwy ddweud ei bod yn galonogol gweld y cynlluniau wrth gefn a amlinellwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet—mae'n ddrwg gennyf i, Gweinidog y Cabinet—mewn ymateb i Brexit heb gytundeb? Oherwydd yr hyn sydd wedi deillio o fater y refferendwm yw bod gwleidyddion wedi treulio llawer iawn o amser yn dadlau yn erbyn penderfyniad pobl Prydain ac ychydig iawn o amser yn paratoi ar gyfer ein dyfodol y tu allan i'r UE. Onid yw Ysgrifennydd y Cabinet yn derbyn mai'r hyn na chafodd ei ystyried yw gallu ein cymuned fusnes i ddod o hyd i atebion i broblemau? Ac, yn wir, trwy'r holl ystyriaeth a'r dadleuon gan wleidyddion, ymddengys bod hon wedi bod yn ffactor a gafodd ei hesgeuluso'n fawr iawn. Felly, gadewch i mi ddyfynnu Mr Duncan Buchanan o'r Gymdeithas Cludo Nwyddau ar y Ffyrdd:
Ni waeth pa fargen a gewch chi, nid ydym yn mynd i gefnogi un math o fargen, boed hynny'n gytundeb masnach rydd, neu Chequers, neu aros yn y farchnad sengl, neu'r undeb tollau. Nid ein lle ni fel corff masnach yw argymell hyn, peth cwbl wleidyddol ydyw. Beth bynnag fo'r dirwedd a roddir inni, byddwn yn dod o hyd i ffyrdd o weithio gyda hi. Dyna'r hyn a wna'r cadwyni cyflenwi. Dyna'r hyn a wna'r diwydiant logisteg cyfan. Pa un a ydym yn Ewrop, neu'n masnachu gyda Thwrci neu Tsieina, neu ble bynnag, mae yna systemau y gellir eu rhoi ar waith. Ein sefyllfa ar hyn o bryd yw'r un waethaf bosibl, oherwydd nid oes unrhyw baratoad o gwbl.
Nawr, onid yw Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno bod y rhan fwyaf o'r tunelli o nwyddau sy'n mynd i Ewrop ar gyfer y DU mewn cynwysyddion, ac ni chaiff cynwysyddion unigol eu harchwilio, ond maent yn teithio drwy'r tollau ar faniffest datganedig? Fel yr ymffrostia porthladd Rotterdam yn ei daflen, mae'r holl nwyddau bron yn teithio drwy'r porthladd drwy broses awtomataidd. Mae hyn yn cynnwys cludiant nwyddau o bob rhan o'r byd. Nid oes dim i atal holl borthladdoedd Prydain ac Ewrop rhag mabwysiadu'r un broses awtomataidd. Mae bron pob cludiant nwyddau a drosglwyddir rhwng Canada a'r UDA yn cael ei wneud yn gynnar drwy faniffest datganedig, gan ganiatáu ar gyfer gwiriadau dethol o gargo yn unig—dim rhwystrau, dim ciwiau enfawr o lorïau. Straeon i godi ofn yw'r rhai am nwyddau'n pydru a chiwiau mewn porthladdoedd Prydeinig a Gwyddelig a dyna i gyd—straeon i godi ofn—ac nid yw'n ddiffuant i Aelodau'r Siambr hon ddefnyddio tactegau o'r fath.
Unwaith eto, Gweinidog, oni wnewch chi dderbyn ei bod yn rhaid i bawb ohonom ni yn y Siambr hon gydnabod un ffactor bwysig: bod mynediad hwylus i'n marchnadoedd ni o'r un budd i bobl Ewrop ag y mae i ninnau ei gael i'w marchnadoedd nhw? Ond nid oes raid i hynny gynnwys ffiniau sy'n agored i bawb sy'n dewis dod yma. Heblaw am yn Ewrop, nid oes unrhyw wlad arall yn y byd yn caniatáu mynediad o'r fath, ac eto mae'r cyfan ohonyn nhw'n masnachu'n llwyddiannus ledled y byd.
Yn olaf, Gweinidog, ar faterion trwyddedau gyrru ac yswiriant cerbydau, mae gennyf i fantais dros y Gweinidog gan fy mod i wedi teithio'n eang yn Ewrop cyn i ni fod yn aelodau o'r Undeb Ewropeaidd. Gallaf ei sicrhau nad oedd cardiau gwyrdd yn unrhyw rwystr o gwbl i deithio, ac ni chafwyd unrhyw broblemau gydag yswiriant. Felly, rwy'n eich annog chi, Gweinidog: peidiwch â chanslo unrhyw drefniadau sydd gennych i yrru ar y cyfandir dros y blynyddoedd nesaf, pe bai Brexit heb gytundeb neu beidio.
A gaf fi ddiolch i'r Aelod am ei gyfraniad ac am ei gwestiynau? Yn gyntaf oll, nid wyf i'n meddwl bod neb wedi pleidleisio am fwy o fiwrocratiaeth nac am dalu mwy am eu hyswiriant. Nid wyf i'n meddwl bod neb wedi pleidleisio am darfu ar eu gwyliau oherwydd trefniadau ynghylch trwyddedau gyrru a mynnu prawf bod ganddyn nhw drwyddedau penodol. Ac o ran yr honiad mai dim ond mater o ddatblygu prosiect ofn yw hyn, fel y mae llawer o Aelodau wedi ei ddweud heddiw—. Edrychwch, fe wnaf i ddyfynnu sefydliad arall; fe wnaf i ddyfynnu sefydliad y gweithgynhyrchwyr, yr EEF. Gadewch i ni eu dyfynnu nhw. Oherwydd fe wnaethon nhw siarad â'u haelodau, ac mae eu haelodau nhw'n cyflogi nifer enfawr o bobl yn ein heconomi. Adroddwyd ganddyn nhw bod un o bob chwech sy'n gwneud penderfyniadau yn dweud y byddai busnes yn dod yn anghynaliadwy iddynt—yn anghynaliadwy iddynt—yn y DU pe baem ni’n troi at dariffau Sefydliad Masnach y Byd a phe bai mwy o archwiliadau o bobl ar y ffin a mwy o archwiliadau o nwyddau ar y ffin—un o bob chwech. Byddai hynny'n amlwg yn effeithio ar economi Cymru mewn ffordd ddinistriol iawn.
Mae Cydffederasiwn Diwydiant Prydain yn adrodd mai'r newidiadau y byddai'n rhaid i fusnesau eu gwneud mewn senario Brexit heb gytundeb yw'r rhai mwyaf llym a chostus y gellid eu dychmygu, ac y byddent yn cynnwys adleoli gweithrediadau, cynyddu prisiau a symud swyddi o'r DU. Rwy'n hoffi gwrando ar Airbus a'u tebyg, wrth gwrs, y soniais i mi ymweld â nhw ddydd Iau diwethaf, a Jaguar Land Rover. Beth fyddai'n digwydd i Jaguar Land Rover pe bai'n wynebu tariffau o 40 y cant ar ei gerbydau sy'n gadael y DU am Ewrop?
Cyfeiriodd yr Aelod at y defnydd o faniffestau datganedig. Wel, rwy'n meddwl, fel y nododd y Gweinidog Brexit, bod cytundebau masnach rydd yn rhan annatod o'r trefniant hwn, a hyd yn hyn, er gwaethaf yr hyn a addawyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Fasnach Ryngwladol, nid oes un cytundeb masnach wedi cael ei daro hyd yma gan Lywodraeth y DU. Ac rwyf i o'r farn ei bod hi'n gwbl amlwg, ar sail yr holl dystiolaeth sydd ar gael, y byddai Brexit heb gytundeb ar 29 Mawrth yn cael effaith ddirfawr a negyddol ar economi Cymru.
Diolch yn fawr iawn i chi, Gweinidog.