Part of the debate – Senedd Cymru am 5:35 pm ar 22 Ionawr 2019.
Rydym ni’n dibynnu ar yr UE ar gyfer mewnforion hefyd. Mae cemegion, gan gynnwys rhai o'r rheini sy’n ein helpu i ddarparu dŵr glân, meddyginiaethau milfeddygol, a mwy na phedair rhan o bump o'n mewnforion bwyd, sy’n hanner y bwyd yr ydym ni'n ei fwyta yn y DU, yn dod o'r UE. Mae’r rhain i gyd yn ddi-dariff ac wedi eu cynhyrchu i safonau yr ydym ni’n eu deall ac yn eu disgwyl. Os byddwn yn gadael yr UE heb gytundeb, ni fydd cyfnod pontio trefnus na fesul cam, a bydd 40 mlynedd o ddeddfwriaeth, systemau, cyllid a masnach rydd integredig yr UE yn dod i ben dros nos. Bydd ein hallforwyr a’n mewnforwyr yn wynebu cynnydd sylweddol i brisiau, gweinyddu ac amser cyflenwi. Mae tariffau’n debygol o gael eu rhoi ar fewnforion ac allforion. Gallai gostyngiad i sterling a achosir gan Brexit heb gytundeb liniaru rhai costau tariff i fewnforwyr ond byddai’n cyfrannu at brisiau bwyd uwch i ddefnyddwyr wrth i gostau mewnforio gynyddu.
Does dim newyddion da i allforion ychwaith mewn senario 'dim cytundeb' o dan reolau Sefydliad Masnach y Byd, y mae cefnogwyr Brexit caled yn ei glodfori. Gallai bwydydd wedi'u prosesu ddenu tariffau o tua 15 y cant a gallai cynhyrchion eraill fod dros 50 y cant, gyda chig coch yn denu tariffau arbennig o uchel. Bydd yn rhaid i’n busnesau ddatblygu eu gallu i ymdrin â biwrocratiaeth a oedd yn ddiangen cynt, gan gynnwys datganiadau tollau, tystysgrifau iechyd allforio neu dystysgrifau dalfa pysgodfeydd. Bydd archwiliadau dogfennau, adnabod a chorfforol yn cael eu cynnal ar y ffin â'r UE ar gyfer cynhyrchion anifeiliaid ac anifeiliaid byw sy'n cyrraedd o’r DU. Mae'n anochel y bydd hyn yn achosi oedi, a allai ddifetha bwyd ffres a physgod cregyn byw. Bydd hyd yn oed y paledi pren y caiff nwyddau eu cludo arnynt yn gorfod cael eu hardystio a’u harchwilio.
Mae ein llafurlu o’r UE yn bwysig i Gymru. Mae bron holl filfeddygon y Llywodraeth sy'n gweithio yn ein lladd-dai yn ddinasyddion Ewropeaidd o wledydd UE eraill, ac felly hefyd llawer o weithwyr prosesu bwyd yn fwy cyffredinol. Ni allwn fforddio i'r gweithwyr hanfodol hyn adael y DU ar adeg o dwf esbonyddol i'r galw am dystysgrifau iechyd allforio ar ôl Brexit. Bydd effeithiau Brexit heb gytundeb yn cael eu teimlo’n wahanol ledled Cymru. Yn amlwg, ein cymunedau gwledig fydd yn dioddef waethaf o golli unrhyw farchnadoedd, yn enwedig yn y sector cig coch. Bydd ein cymunedau arfordirol yn dioddef os na all busnesau bwyd môr allforio pysgod cregyn yn ddichonadwy. Er y gallai arallgyfeirio i wahanol fathau o ffermio neu bysgota leihau'r effaith, ni fydd yn gwneud iawn am golli marchnad yr UE, neu lai o fynediad ati. Mae hyn oll yn cyfuno i greu storm berffaith, a fydd yn dechrau ar 30 Mawrth ac yn para am gyfnod anhysbys. Bydd difrifoldeb y storm honno yn dibynnu ar y math o gytundeb a gawn wrth adael. Storm 'dim cytundeb' fydd y mwyaf niweidiol i Gymru.
Fel Llywodraeth rydym ni wedi bod yn gweithio ers refferendwm yr UE i baratoi ar gyfer Brexit ar ba bynnag ffurf. Ar draws fy mhortffolio i, rydym ni wedi adolygu 1,200 o ddarnau o ddeddfwriaeth. Gyda Llywodraeth y DU, rydym ni wrthi'n diwygio 900 o ddarnau o ddeddfwriaeth mewn ymarfer digynsail i sicrhau bod gennym ni lyfr statud sy’n gweithio erbyn y diwrnod ymadael. Bydd hyn yn sicrhau bod fframwaith deddfwriaeth amgylcheddol yr UE, yr ydym ni wedi datblygu ein cynlluniau uchelgeisiol ein hunain ar gyfer yr amgylchedd, hinsawdd a chenedlaethau'r dyfodol yn unol ag ef, yn parhau i fod ar gael i ni. Mae’r Cynulliad Cenedlaethol wedi chwarae rhan bwysig, a bydd yn parhau i chwarae rhan bwysig, yn y broses o ddatblygu a phasio’r ddeddfwriaeth hon, a bydd Cymru yn ennill mwy o bwerau ym meysydd yr amgylchedd, amaethyddiaeth a physgodfeydd ar ôl Brexit.
Rydym ni wedi bod yn gweithio i sicrhau bod y systemau angenrheidiol ar waith i fodloni gofynion newydd yr UE ar drydydd gwledydd, fel y byddwn ni ar ôl Brexit, neu i ddisodli systemau a redir gan yr UE na fyddant ar gael cyn bo hir. Mae hyn yn cynnwys systemau ar gyfer cymeradwyo cemegion, ar gyfer tystysgrifau iechyd allforio, ar gyfer ardystiadau dalfa a hyfforddiant ar gyfer milfeddygon ychwanegol. Mae fy swyddogion yn rhedeg mwy na 50 o brosiectau i roi'r trefniadau gofynnol ar waith. I fodloni'r amserlenni byrrach a sicrhau bod hyn ar waith erbyn y diwrnod ymadael, mae llawer o hyn wedi cael ei gyflawni ar y cyd â gweinyddiaethau eraill y DU, ac, yn benodol, adrannau Llywodraeth y DU DEFRA, yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol a’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch. Fodd bynnag, yn y dyfodol, Gweinidogion Cymru ac yn y pen draw y Cynulliad hwn fydd yn gwneud penderfyniadau yn llawer o'r meysydd hyn.
Rydym ni'n parhau i ddarparu cyngor a gwybodaeth i fusnesau, a lansiodd Llywodraeth Cymru wefan Preparing Wales/Paratoi Cymru yr wythnos diwethaf. Rwyf i wedi ymrwymo i weithio gyda sectorau allweddol i gynllunio mecanweithiau cymorth o gwmpas yr heriau difrifol hyn, ac rydym ni eisoes wedi darparu £6 miliwn o'n cronfa bontio i'r perwyl hwn. Mae fy swyddogion yn gweithio'n agos gyda Llywodraeth y DU ar gynllunio brys i ddiogelu ein cyflenwad bwyd, i sicrhau cyflenwad ynni di-dor a, chyda Dŵr Cymru Welsh Water a Hafren Dyfrdwy, i sicrhau ein cyflenwad dŵr.
Er y daw rhai cyfleoedd o Brexit yn y dyfodol, rwy’n pryderu'n fawr am yr helynt tymor byr a fydd yn dilyn, a hoffwn sicrhau bod ein sectorau yn goroesi. Rwy’n pryderu am y dystiolaeth gan y CBI, y Ffederasiwn Busnesau Bach ac eraill sy’n awgrymu nad yw llawer o fusnesau yn cynllunio'n ymarferol ar gyfer Brexit eto, ac ar gyfer Brexit heb gytundeb. Bydd rhai yn meddwl eu bod yn ddiogel rhag Brexit gan nad ydynt yn allforio nac yn mewnforio, ond gan fod ein heconomi mor integredig gyda'r UE, bydd yr effeithiau economaidd yn effeithio ar eu cyflenwyr a’u cwsmeriaid hefyd. Mae llawer iawn o newid i ddod, ac os na chawn ni gytundeb, mae'n debygol o fod yn ergyd galed i sawl maes ar yr un pryd. Cyfrifoldeb y Llywodraeth yw rheoli rhywfaint o hyn. Fodd bynnag, ceir terfyn i'r hyn y gallwn ni wneud o wynebu bygythiad o'r maint hwn. Mae'n rhaid i fusnesau weithredu hefyd, ac yn gyflym, oherwydd ni ellir tanbwysleisio maint yr her.