Part of the debate – Senedd Cymru am 5:51 pm ar 22 Ionawr 2019.
Rwy’n clywed y pryderon ynghylch 'Brexit a’n tir'. Wrth gwrs, y ffordd orau o leddfu’r pryderon hynny yw peidio â chael Brexit yn y lle cyntaf, ond dyna ni; mae hynny ar gyfer datganiad arall, mae'n debyg.
Nid wyf i angen i neb ddweud wrthyf i pa mor wael fyddai Brexit 'dim cytundeb' i Gymru. Rwyf o'r un farn â’r Gweinidog; rwyf i wedi bod yn eithaf eglur ynghylch hynny o'r diwrnod cyntaf un, ac mae'n rhaid i mi ddweud, wrth ddiolch i chi am y datganiad heddiw, ei fod yn eithaf trylwyr o ran amlinellu rhai o'r prif bryderon a phroblemau ac effeithiau, ond—. Ac er eich bod chi'n dweud eich bod chi'n brysur, eich bod chi'n brysur gyda'r mater o geisio lliniaru rhai o'r rheini, nid wyf i'n gweld, a dweud y gwir, llawer o ganlyniadau cadarn o ran yr hyn sy'n digwydd, heblaw, 'Ymddiriedwch ynof i, rydym ni'n gweithio ar y mater.'
Felly, fy nghwestiwn cyntaf i chi, o gofio bod yr UE, wrth gwrs, yn rheoleiddio’r aer yr ydym ni’n ei anadlu, y bwyd yr ydym ni’n ei fwyta, y dŵr yr ydym ni’n ei yfed—mae'n eithaf pwysig, wyddoch chi—pa mor hyderus ydych chi y bydd yr hyn y mae angen ei wneud wedi cael ei wneud mewn pryd, o ran lliniaru'r holl risgiau a ddaw o senario 'dim cytundeb'? Rwy'n meddwl bod honno'n neges allweddol yr oeddwn i'n gobeithio ei gweld yn eich datganiad. Nid wyf i'n ei gweld, felly efallai y gallech efallai roi eich sicrwydd i ni y byddwch chi'n gwneud hynny mewn pryd, mor anodd ag y gallai fod.
Ond wrth gwrs, mae cyflawni hynny, fel yr ydych chi’n ei ddweud yn eich datganiad, yn golygu gweithio'n agos â gweinyddiaethau datganoledig eraill a Llywodraeth y DU. Rwy’n meddwl tybed sut, yn yr hinsawdd sydd ohoni, yr ydych chi’n sicrhau bod llais Cymru yn cael ei glywed yn y trafodaethau hynny, oherwydd, wyddoch chi, nid wyf i'n llawn hyder, hyd yn oed os yw'n cael ei glywed, bod unrhyw un yn gwrando arno. Os oes anghytuno ynghylch rhai o'r cynigion, sut ydych chi'n datrys y rheini? Fy mhryder i, yn rhy aml, yw y gallai Llywodraeth y DU fanteisio ar ei blaenoriaeth mewn ffordd sy'n gweithio’n groes i fuddiannau Cymru. Dywedodd Prif Weinidog y DU ddoe y byddai gan y gweinyddiaethau datganoledig ran fwy blaenllaw i’w chwarae. Rwy’n meddwl tybed sut yr ydych chi'n rhagweld y bydd hynny'n digwydd mewn gwirionedd.
Ddwy flynedd yn ôl, dywedasoch fod Gweinidogion Llywodraeth y DU yn teimlo bod ganddyn nhw, ac rwy’n dyfynnu, 'bwerau hud', dros amaethyddiaeth Cymru, er ei fod yn fater datganoledig. Dywedasoch eich bod chi wedi ei gwneud yn eglur na allant wthio eu hunain arnom. Wel, rwy'n meddwl tybed pa ran ydych chi'n ei chwarae, felly, yn y trafodaethau am y cytundeb masnachu newydd rhwng y DU a Seland Newydd, oherwydd rydych chi'n cyfaddef eich hun y byddai mewnlifiad o gig oen Seland Newydd—yn eich geiriau eich hun yn dinistrio diwydiant cig oen Cymru yn llwyr.
Nawr, yn enwedig yng nghyd-destun Brexit heb gytundeb, mae’n rhy ddychrynllyd i feddwl am effaith hynny. Felly, pan fyddwch chi'n gwneud y trefniadau hyn gyda Llywodraeth y DU, wrth gwrs, mae amseru a phwysau amser yn golygu bod yn rhaid i chi, yn aml iawn, danseilio'r gweithdrefnau craffu arferol sydd gennym ni yma yn y Cynulliad. Felly, pa sicrwydd allwch chi ei roi i ni fel Aelodau Cynulliad y gwrthbleidiau, ac i Aelodau eich meinciau cefn eich hun hefyd, y byddwn ni'n gallu craffu’n briodol ar eich penderfyniadau a’ch dwyn i gyfrif mewn ffordd sy’n caniatáu i ni gyflawni ein dyletswyddau a’n rhwymedigaethau fel Aelodau Cynulliad?
A dau bwynt byr iawn i gloi—er eu bod nhw’n bwyntiau pwysig dros ben. Mewn unrhyw senario ar ôl Brexit, ond yn enwedig o fewn cyd-destun 'dim cytundeb', pa gynlluniau sydd gan y Llywodraeth i sicrhau'r farchnad ddomestig fwyaf posibl ar gyfer cynnyrch o Gymru? Ac rwy’n meddwl yn benodol am gaffael cyhoeddus, oherwydd rydym ni wedi bod yn sôn am hyn ers blynyddoedd lawer iawn. Nid ydym ni wedi cyrraedd pwynt o hyd lle'r ydym ni’n teimlo bod arian Cymru yn gweithio mor galed ag y gall er budd Cymru, ac, wrth gwrs, bydd angen iddo weithio’n galetach nag erioed yn y math hwn o senario. Yn olaf, o ran llywodraethu amgylcheddol, dywedasoch y llynedd wrth y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig y byddech—ac rwy’n dyfynnu
'manteisio ar y cyfle deddfwriaethol priodol cyntaf i gynnwys yr egwyddorion amgylcheddol mewn cyfraith a chau'r bwlch llywodraethu.'
Wel, yn amlwg, mae'r cloc yn tician yn uwch nag erioed erbyn hyn, ac rwy’n meddwl tybed a allech chi roi diweddariad i ni ynghylch sut yr ydych chi’n bwriadu llenwi'r bwlch hwnnw yn y cyfnod byr sydd ar ôl i ni nawr, o bosibl.