Part of the debate – Senedd Cymru am 6:00 pm ar 22 Ionawr 2019.
Ni all fod dim esgus na chyfiawnhad dros fethiant Llywodraeth y DU i baratoi ar gyfer y posibilrwydd o Brexit heb gytundeb. Rwy’n siŵr y bydd y Gweinidog yn cyd-fynd â mi os gwnaf i ddechrau fel hynny. Rydym ni wedi cael dwy flynedd a hanner i baratoi ar gyfer ymadael â'r UE ac mae'n gywilyddus nad oes unrhyyw waith paratoi gwirioneddol wedi cael ei wneud gan Lywodraeth y DU, oherwydd roedd hyn bob amser yn bosibilrwydd. Cafodd Monsieur Barnier ei ddyfynnu yn cylchgrawn Le Point yn Ffrainc yn dweud: Byddaf wedi llwyddo yn fy nhasg os yw'r cytundeb terfynol mor galed ar y Prydeinwyr y byddai’n well ganddyn nhw aros yn y pen draw. A dyna fu diben hyn oll, wrth gwrs, oherwydd mae tecnocratiaid heb eu hethol fel ef yn dilyn eu hagenda eu hunain, sy'n wahanol iawn i weithredu er lles y bobl. Mae Brexit yn cynnig cyfleoedd aruthrol. Ceir heriau—nid oes neb erioed wedi gwadu hynny. Mae'r heriau’n llawer mwy nawr nag yr oedd angen iddyn nhw fod, gan fod anhyblygrwydd Theresa May a’i byddardod i realiti wedi gwneud hwn yn ddiweddglo annisgwyl i'r broses ddwy flynedd, lle'r ydym ni fwy neu lai wedi gwneud dim i baratoi ar gyfer y canlyniad y mae'n ymddangos yr ydym ni'n mynd i'w gael. Mae hynny, rwy’n meddwl, yn esgeulustod difrifol ar ei rhan hi ac ar ran ei Llywodraeth gyfan.
Foment yn ôl, cyfeiriodd y Gweinidog at gyfleoedd ym maes caffael cyhoeddus. Tybed pam mae'n ymddangos nad yw'r datganiadau hyn yr ydym ni’n eu clywed y prynhawn yma yn cynnig unrhyw obaith nac optimistiaeth o gwbl yn y broses hon. Wrth gwrs, cydbwysedd yw'r holl bethau hyn yn y pen draw, ac rwyf i wedi derbyn erioed bod gadael yr UE, yn ystod cyfnod pontio beth bynnag, yn mynd i arwain at gostau penodol, ond mae'r manteision yn y tymor canolig i'r tymor hir yn llawer mwy na'r costau hynny.
Cyfeiriodd Andrew R.T. Davies at un o'r cyfleoedd, i faes amaethyddiaeth yn benodol, a gynigir gan Brexit. Cyfeiriodd at gig eidion yn unig, ond mae gennym ni ddiffyg enfawr yn ein masnach gyda’r UE yn y rhan fwyaf o feysydd cynnyrch, yn enwedig da byw. Er enghraifft, o ran dofednod, rydym ni’n mewnforio pedair gwaith cymaint ag yr ydym ni’n ei allforio; cig eidion, tair gwaith cymaint ag yr ydym ni’n ei allforio; porc, tair gwaith cymaint ag yr ydym ni’n ei allforio; a hyd yn oed pethau fel wyau—rydym ni’n mewnforio 24 gwaith cymaint ag yr ydym ni’n ei allforio. Felly, ceir cyfleoedd enfawr yma i ddisodli mewnforion. Ac os yw'r UE mor hurt â pheidio â chytuno rhyw fath o gytundeb masnach rydd dros dro sy'n cynnal y sefyllfa bresennol yn y tymor byr, heb ein cadw ni o fewn y sefydliadau llywodraethol fel y farchnad sengl a’r undeb tollau, yna mae gwledydd yr UE yn mynd i wynebu colledion enfawr, yn enwedig Gweriniaeth Iwerddon, fel y dywedodd Andrew R.T. Davies—mae 82 y cant o’u hallforion llaeth nhw yn mynd i’r DU a 49 y cant o’u cig eidion. Os bydd trethi o 25 i 35 y cant ar allforio cig eidion, neu fwy fyth yn achos llaeth, rwy’n credu, yna maen nhw'n mynd i fod mewn trafferthion difrifol yn Iwerddon. Felly, mae’r un math o benbleth ag yr ydym ni'n ceisio ei datrys yma yn mynd i orfod cael ei datrys mewn mannau eraill, oherwydd mae gennym ni ddiffyg enfawr gyda bron bob aelod o'r UE: diffyg masnach o £4 biliwn gyda’r Iseldiroedd, £2 biliwn gyda Ffrainc, £3 biliwn gyda’r Almaen, a £0.5 biliwn y flwyddyn gydag Iwerddon, sy’n ffigur bach i’r DU ond yn ffigur mawr iawn i Iwerddon. Gallwn fynd drwy’r llu cyfan o wledydd a chyflwyno ffigurau tebyg. Felly, eu problemau nhw yw ein cyfleoedd ni.
Tybed pa waith mae Llywodraeth Cymru wedi ei wneud, neu'n bwriadu ei wneud, gyda ffermwyr Cymru i lenwi'r bylchau a fydd yn agor os bydd gennym ni dariffau ar ôl 29 Mawrth ar fewnforion ac allforion bwyd, rhywbeth nad oes neb eisiau ei weld, yn enwedig fi—rwy’n credu mewn masnach rydd. Roeddwn i'n meddwl erioed y dylai cytundeb masnach rydd fod ar waith gyda'r UE erbyn diwedd y cyfnod o ddwy flynedd, ond yn anffodus ni ddilynodd y Llywodraeth y trywydd hwnnw. Aeth Theresa May ar drywydd a oedd yn sicr o fethu o'r cychwyn cyntaf, oherwydd doedd neb eisiau ateb hanner ffordd fel yr un y mae'n ymddangos ei bod hi’n meddwl sydd orau.
Neithiwr, yn yr un cinio yr oedd y Gweinidog yn bresennol ynddo, cefais lawer o drafodaethau gyda ffermwyr hefyd ynglŷn ag ansicrwydd Brexit, ac un ansicrwydd yr oedden nhw’n cwyno amdano oedd yr ansicrwydd yr oedd Llywodraeth Cymru wedi ei gyflwyno trwy ei gynnig i derfynu taliadau sylfaenol i ffermwyr. Un o'r ffyrdd y gallai Llywodraeth Cymru leihau ansicrwydd mewn gwirionedd—er fy mod i o blaid cyfeiriad polisi cyffredinol Llywodraeth Cymru—yw trwy beidio â defnyddio’r dull telesgop, fel y cynigir rwy’n credu, ond trwy gyflwyno’r symudiad oddi wrth daliadau sylfaenol yn raddol dros gyfnod o flynyddoedd, i roi amser i ffermwyr addasu—er fy mod i'n meddwl y bydd angen rhyw fath o ddull cymorth cynllun taliadau sylfaenol ar rai mathau o uned fferm bob amser, yn enwedig ar dir ymylol, mewn ardaloedd ucheldir ac yn y blaen ac yn y blaen. Mae'n ymddangos i mi mai mynd dros ymyl y dibyn, i ddefnyddio cyfatebiaeth gyfarwydd iawn, fel y mae'r Gweinidog yn ei gynnig yn ei hymgynghoriad, yw’r ffordd hollol anghywir o ymdrin â pha bynnag ansicrwydd a fydd yn codi o ganlyniad i fethiant strategaeth drafod Theresa May.
Y trydydd pwynt a'r olaf yr hoffwn holi yn ei gylch yw: un o'r cyfleoedd a fydd gennym ni o ganlyniad i ailwladoli polisi amaethyddol yma i Gaerdydd yw diwygio rheoleiddio. Ceir llawer o feysydd rheoliadau y mae ffermwyr yn cwyno amdanynt y gellid eu symleiddio, lle gellid lleihau costau, heb amharu dim ar y materion polisi cyhoeddus cyffredinol y byddai'r rhan fwyaf o bobl yn cytuno arnynt o ran amddiffyniadau amgylcheddol. Mae’r UE eisiau gwahardd glyffosad, er enghraifft, fel chwynladdwr, a does dim math mwy effeithlon o ladd chwyn ar gael i ffermwyr. Byddai glyffosad yn broblem fawr i lawer o fathau o ffermwyr, pe na bai ar gael. Rheoliadau nitradau, rheoliadau cynefinoedd—ceir newidiadau manwl y gellid eu gwneud i'r mathau hyn o reoleiddio a fydd yn gwneud bywydau ffermwyr yn haws ac yn llai costus. Mae hynny hefyd yn helpu i greu cyfleoedd newydd, oherwydd, oes, os oes costau a fydd yn cael eu gorfodi o ganlyniad i Brexit, ceir arbedion gwrthbwysol y gellid eu gwneud hefyd trwy gael polisi amaethyddol sydd wedi'i deilwra ar gyfer gwahanol draddodiadau topograffig, hinsoddol a diwylliannol Cymru. Felly, pa waith sy’n cael ei wneud i edrych ar lyfr statud yr UE, fel petai, gyda'r bwriad o leihau costau rheoleiddio heb beryglu’r amcanion polisi cyffredinol, y byddem ni i gyd yn eu rhannu?