Part of the debate – Senedd Cymru am 6:14 pm ar 22 Ionawr 2019.
Rwy’n meddwl, er y gallai fod rhai cyfleoedd i ddisodli mewnforion yn y tymor canolig, mai’r pryder mwyaf uniongyrchol y dylai fod gan unrhyw Lywodraeth yw sicrhau diogelwch bwyd. Felly, gan fod dros dri chwarter y bwyd yr ydym ni’n ei fwyta yn cael ei fewnforio o'r UE, gan gynnwys hanner ein llysiau a 95 y cant o'n ffrwythau sy'n cael eu mewnforio, mae hyn oll yn bwysig iawn. Felly, byddwn yn awyddus i gael gwybod, os yw'n bosibl, pa dariff fydd ar ffrwythau a llysiau ffres sy’n dod o Ewrop yn y dyfodol. Cyfeiriasoch at 15 y cant ar fwydydd wedi'u prosesu, felly rwy’n gobeithio y gallwch chi ein goleuo ni ynghylch hynny.
I droi at y bygythiadau sydd hefyd yn gyfleoedd posibl, os cawn ni’r tariffau hyn wedi eu gorfodi gan Sefydliad Masnach y Byd, mae’n newid yr achos busnes dros dyfu mwy o’n llysiau a’n ffrwythau ein hunain, ac roeddwn i'n meddwl tybed, gan fod y tymor tyfu’n dechrau fis nesaf, a yw hon yn sgwrs weithredol yr ydych chi'n ei chael gyda’n ffermwyr ar hyn o bryd. A yw hyn yn rhywbeth sy'n mynd i gael ei godi yng nghynhadledd Cyswllt Ffermio ar 7 Chwefror?
Ac, y cwestiwn olaf sydd gen i, mae'n debyg, yw eich bod chi'n sôn am Gymru yn ennill mwy o bwerau dros yr amgylchedd, amaethyddiaeth a physgodfeydd ar ôl Brexit. Yn wahanol i Neil Hamilton, y mae'n ymddangos ei fod o blaid cyfleoedd i daenu nitradau’n ddi-hid, rwy’n eithaf awyddus i ddeall, os na fydd gennym ni amddiffyniadau rheoliadau bwyd yr UE mwyach, sut ydym ni’n mynd i atal llif o gyw iâr clorinedig a bwydydd difwynedig eraill rhag boddi ein marchnadoedd a rhoi ein ffermwyr, sydd â safonau uwch o lawer o ran lles ac ansawdd, allan o fusnes.