Part of the debate – Senedd Cymru am 6:50 pm ar 22 Ionawr 2019.
Rwy'n gwybod y bydd rhai Aelodau yn diystyru hyn fel codi bwganod, ond i'r rhai hynny sy'n credu bod cyfnod da ychydig rownd y gornel os symudwn ni i delerau Sefydliad Masnach y Byd, gadewch imi ddyfynnu Llywydd Cydffederasiwn Diwydiant Prydain, John Allan, a ddywedodd yr wythnos diwethaf:
Mae'r syniad mai ni yw'r unig genedl o bwys ar y ddaear sy'n gweithredu dim ond ar delerau Sefydliad Masnach y Byd yn ymddangos i mi ein bod ni'n ffyddiog bod gennym ni ras filltir ond fe rown ni gyfle i bawb arall redeg o amgylch y trac o'n blaenau—a pheidiwch â phoeni, rydym ni'n mor dda byddwn ni'n dal i ennill. I fod yn onest,' dywedodd,
Rwy'n credu bod hynny'n freuddwyd gwrach.
Mae'r rheini sy'n dadlau y byddai'n well ymadael heb gytundeb oherwydd y byddai'n caniatáu i'r DU negodi cytundebau masnach rydd newydd yn twyllo'u hunain. Hyd yn oed ar gyfres optimistaidd iawn o dybiaethau Llywodraeth y DU, byddai cytundebau masnach rydd newydd yn ychwanegu 0.2 y cant at ein cynnyrch domestig gros, o'i gymharu â'r golled o 8 i 10 y cant a achosir gan lai o fynediad at farchnadoedd Ewropeaidd. Nid yw'r rhesymau dros yr effeithiau macro-economaidd hyn yn anodd eu hegluro. Mae gan economi Cymru gysylltiad agos â marchnad sengl yr UE, ac mae rhyw 60 y cant o allforion adnabyddadwy Cymru yn mynd i wledydd yr UE. Os byddwn yn gadael heb gytundeb, bydd gan Lywodraeth y DU ddewisiadau anodd eu gwneud. Mae rheolau Sefydliad Masnach y Byd yn golygu na fyddwn, heb gytundeb masnach rydd, yn gallu parhau i fasnachu heb dariffau â 27 gwlad yr UE a byddwn ni'n codi tariffau ar gynhyrchion tebyg o wledydd eraill. Bydd gennym ddewisiadau ar wahân i'w gwneud ar nwyddau o bob math. Naill ai ein bod yn codi tariffau ar gynhyrchion yr UE, gan sbarduno chwyddiant, erydu safonau byw, a, fan bellaf, gwneud bywyd yn ddrutach ac yn anoddach i'r rhai hynny sy'n defnyddio cydrannau a wneir yn Ewrop yn eu gwaith cynhyrchu, neu ein bod yn torri tariffau yn unochrog, yn tanseilio ein sefyllfa fargeinio, ac yn creu risg y bydd gwledydd â sylfeini costau is a safonau amgylcheddol a marchnad lafur llawer is yn gallu gwerthu nwyddau yn rhatach na chynhyrchwyr y DU.
O dan unrhyw amgylchiadau, pe byddem yn ymadael heb gytundeb, byddem yn gweld tariffau newydd yr UE sy'n effeithio ar lawer o sectorau a'r nwyddau y maen nhw'n eu cynhyrchu ar gyfer eu hallforio, yn tanseilio'r gallu i gystadlu. Ac mae'n gamarweiniol awgrymu y bydd effaith tariffau yn cael ei gwrthbwyso gan ostyngiad pellach yng ngwerth sterling. Yn ôl arolygon gan Ffederasiwn y Cyflogwyr Peirianneg, dim ond 6 y cant o weithgynhyrchwyr sy'n credu y byddai sterling gwannach yn eu helpu, heb sôn am y ffaith y byddai gostyngiad mewn sterling yn sbarduno chwyddiant ac yn erydu safonau byw ymhellach. Y rhai hynny sydd eisoes yn ei chael yn anodd fydd y rhai a fydd yn dioddef fwyaf os na all eu pecyn cyflog gynyddu ar yr un raddfa â chostau byw.
Mae'r hysbysiadau technegol a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU yn datgelu'r realiti o fwy o fiwrocratiaeth a chymhlethdod o ran rhwystrau di-dariff, y mae economegwyr yn credu eu bod yn cael effaith negyddol hyd yn oed yn fwy ar fusnesau—gofynion newydd ar gyfer achredu technegol, datganiadau tollau, rheolaethau allforio, prosesau a rhwymedigaethau TAW newydd. A bydd y rhai hynny sy'n darparu gwasanaethau yn 27 gwlad yr UE hefyd yn gweld eu mynediad i'r farchnad yn cael ei gwtogi'n sylweddol. At hynny, byddant yn wynebu gwahanol gyfresi o reolau a rheoliadau ym mhob un o'r aelod-wladwriaethau. I lawer o fusnesau bach, byddai hyn yn llythrennol yn ei gwneud yn amhosibl allforio.
Ac, ar gyfer ein sector addysg, bydd colli mynediad at gyllid ymchwil, cydweithredu, rhaglenni cyfnewid a thalent ryngwladol nid yn unig yn niweidio ein prifysgolion a'n colegau, ond yn mygu arloesi ac yn culhau ein gorwelion. Felly, gadewch inni beidio â bod dan unrhyw amheuaeth, o ran ein heconomi, byddai Brexit heb gytundeb yn drychineb, ac, fel yr wyf eisoes wedi pwysleisio, mae economi llai yn golygu llai o swyddi a swyddi â llai o gyflog, llai o arian yn dod i mewn i aelwydydd sydd dan bwysau. Mae hefyd yn golygu gostyngiad mewn incwm i'r Trysorlys. Mae llai o fusnesau a busnesau llai proffidiol a chyflogau is yn golygu sylfaen dreth lai. Mae hynny'n golygu gwneud dewisiadau anodd: dewisiadau i gwtogi gwariant cyhoeddus hyd yn oed ymhellach, cynyddu'r baich treth neu gynyddu benthyca cyhoeddus. Nid yw'r un o'r rhain yn ddewis deniadol dros y tymor hir. A'r risg yw y bydd Llywodraeth asgell dde yn ymateb drwy geisio lleihau costau a hybu cystadleurwydd nid trwy fuddsoddi, ond trwy gwtogi ar hawliau'r farchnad lafur a safonau amgylcheddol, yn dilyn model Singapore y mae'r Ysgrifennydd Tramor Jeremy Hunt yn ei ganmol i'r cymylau. Singapore—lle, rwy'n darllen heddiw, mae cefnogwr mawr Brexit, James Dyson, wedi symud ei bencadlys yno o Wiltshire. I lawer o gefnogwyr eraill Brexit, mae'n gwbl glir mai gadael yr Undeb Ewropeaidd yw'r cam cyntaf, ac nid y gair olaf, ar lwybr i Brydain lle ceir mwy o ansicrwydd swyddi a llai o fesurau diogelu.
Yn ystod y prynhawn, mae fy nghyd-Aelodau wedi ei gwneud yn glir, hyd yn oed wrth wynebu'r posibilrwydd o Brexit 'heb gytundeb' trychinebus, ein bod yn gwneud yr hyn a allwn ni, er bod hyn yn gyfyngedig yn anochel, i helpu i liniaru'r effaith, gan gynnwys rhoi ar waith ein gwefan newydd Paratoi Cymru fel adnodd gwybodaeth pwysig ar gyfer dinasyddion. Mae hyn yn wir hefyd am yr economi ehangach, ond rwy'n ymwybodol o'r hyn a ddywedwyd wrthyf dros y dyddiau diwethaf gan bobl fusnes arweiniol Cymru—na ddylem gymryd arnom y bydd unrhyw beth y gallwn ni ei wneud yn gwneud iawn am sefyllfa lle bydd allforio i fusnesau bach yn dod yn anhyfyw.
Byddwn yn parhau i ymfalchïo yn ein cyflawniadau fel cenedl ac yn hyrwyddo Cymru fel lle i fyw, gweithio, buddsoddi a gwneud busnes ynddi, byddwn yn gwella ein proffil rhyngwladol ac yn pwysleisio, yng Nghymru o leiaf, ein bod yn parhau i groesawu'r rhai hynny sydd wedi dewis dod o dramor i astudio, gweithio a gwneud eu bywydau yma. Byddwn yn parhau i gael ein harwain gan yr egwyddorion craidd a nodir yn y cynllun gweithredu economaidd, yn anad dim, yr ymrwymiad i ddatblygu perthynas newydd a deinamig rhwng Llywodraeth a busnes sy'n seiliedig ar egwyddor buddsoddi cyhoeddus â diben cymdeithasol.
Rydym yn defnyddio ein cronfa cydnerthedd busnes newydd—fel y dywedodd Gweinidog yr economi yn gynharach—i ddarparu cymorth ariannol i fusnesau wrth iddyn nhw geisio paratoi ar gyfer Brexit, a'n porth busnes i nodi'r hyn y mae angen iddyn nhw ei wneud. Rydym ni'n trafod gyda Banc Datblygu Cymru sut y gallai ymateb yn gyflym ac yn hyblyg i'r problemau llif arian a allai effeithio ar fusnesau mewn sefyllfa o ymadael heb gytundeb, gan gynnwys defnyddio cronfa fuddsoddi hyblyg gwerth £130 miliwn, a grëwyd mewn ymateb i Brexit yn 2017. Pe byddem yn ymadael heb gytundeb, byddem hefyd yn ceisio sicrhau cydbwysedd o ran y galwadau am gymorth uniongyrchol ac ar unwaith i fusnesau sy'n cael trafferthion o gymharu â buddsoddiadau, er enghraifft yn ein seilwaith ffisegol a digidol a'n sylfaen sgiliau, a fydd yn dwyn budd i fusnesau ar draws rhanbarthau cyfan a'r economi ehangach yng Nghymru.
Rwyf eisiau cloi drwy ailbwysleisio'r neges glir a roddwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol hwn yr wythnos diwethaf, ac eto gan y Prif Weinidog, fod yn rhaid i Lywodraeth y DU ddileu Brexit 'heb gytundeb' o'r dewisiadau a gynigir. Os bydd ymadael heb gytundeb yn dod yn realiti, bydd cyfrifoldeb clir ar Lywodraeth y DU i ryddhau cyllid i Lywodraeth Cymru i'n galluogi ni i weithio gyda phartneriaid busnes ac eraill a'u cefnogi wrth iddyn nhw geisio ymateb i'r effeithiau negyddol a ddaw o ganlyniad trychinebus o'r fath. A bydd effaith anghymesur Brexit 'heb gytundeb' ar Gymru yn golygu na fydd swm sylfaenol fformiwla Barnett yn ddigonol ar gyfer hyn o gwbl. Byddwn ni'n gwneud popeth o fewn ein gallu i ddwyn Llywodraeth y DU i gyfrif am ei chyfrifoldeb ac i flaenoriaethu swyddi a thwf yma yng Nghymru.