14. Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit: Effaith Brexit heb Gytundeb ar Gymru

Part of the debate – Senedd Cymru am 7:24 pm ar 22 Ionawr 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 7:24, 22 Ionawr 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch i'r Aelod am y cwestiynau hynny. Soniodd am y sector dur a'r sector moduron, ond ceir hefyd y diwydiant awyrofod, peirianneg uwch—mae pob un o'r sectorau hyn yn sectorau a fydd yn dioddef oherwydd rhwystrau tariff a di-dariff. Felly, yr ateb byr i gwestiwn yr Aelod yw, yng nghyd-destun ymadael heb gytundeb ac yng nghyd-destun cytundeb y Prif Weinidog, nid oes sicrwydd y gellir ei roi. Dyna'n union pam yr ydym ni, fel Llywodraeth Cymru, ynghyd â Phlaid Cymru, yn 'Sicrhau Dyfodol Cymru', yn disgrifio'r math o berthynas ar ôl Brexit gyda'r Undeb Ewropeaidd a allai fod y ffordd orau o ddiogelu, y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd, y diwydiannau y mae'n sôn amdanyn nhw, lle mae gennym undeb tollau, rhan lawn yn y farchnad sengl a chyfres flaengar o hawliau ar gyfer pobl yng Nghymru yn eu gweithleoedd a safonau amgylcheddol ac eraill—nid dim ond wedi'u rhewi mewn amser o heddiw ymlaen ond yn cyfateb yn gynyddol i rai ein cymdogion Ewropeaidd eraill. Dyna'r rheswm sylfaenol pam yr ydym wedi argymell y math hwnnw o berthynas dros y ddwy flynedd ddiwethaf, ac mae'n syndod i mi, mae'n rhaid imi ddweud, na fu'n bosibl i Lywodraeth y DU gyflawni lefel debyg o eglurder yn llawer, llawer cynt nag y mae wedi gallu ei wneud. A hyd yn oed heddiw, nid oes gennym ni'r eglurder hwnnw.

Mae'n sôn am Paratoi Cymru a'r hyn y gallem ni ei wneud. Wel, rwy'n credu bod yn rhaid inni wneud pob ymdrech i sicrhau bod pobl yn gwybod lle i ddod o hyd i Paratoi Cymru. Yr hyn yr ydym ni'n ei ddweud, fel y bydd wedi'i weld ar y wefan honno, yw, o ran bywydau bob dydd pobl yng Nghymru, nid ydym yn gofyn iddyn nhw wneud penderfyniadau gwahanol heddiw nag y bydden nhw wedi bod yn eu gwneud ddoe. Rydym ni'n gweithio gyda'r gwasanaethau cyhoeddus ar draws amrywiaeth o sectorau i sicrhau eu bod yn gydnerth i'r graddau gorau y gallwn ni ac, fel y clywsoch chi Weinidog yr economi yn dweud yn gynharach, i sicrhau bod busnesau yn ymgysylltu â'r asedau y mae Llywodraeth Cymru wedi trefnu eu bod ar gael i sicrhau eu bod yn deall effaith Brexit mewn gwahanol sefyllfaoedd ar eu busnesau, er mwyn iddyn nhw allu bod mor barod ag sy'n bosibl mewn amgylchiadau ansicr ac anodd iawn, er mwyn wynebu'r posibilrwydd o Brexit.

A'r pwynt olaf a gododd oedd ynghylch y grŵp cynghori ar Ewrop a phwyllgor monitro'r rhaglen. Mwynheais yn fawr y ddau gyfarfod hynny a diolch iddo am y gwahoddiad i fod yn bresennol. Sylweddolais pa mor bwysig ydyw inni gymryd y cyfle hwn i ymgysylltu yn gyson ac yn barhaus â'n rhanddeiliaid a'n partneriaid ledled Cymru. Mae hon yn her anodd ar gyfer unrhyw ran o'r Llywodraeth. Mae'n her anodd ar gyfer unrhyw sector ac ar gyfer unrhyw un sy'n rhedeg sefydliad neu fusnes yng Nghymru, a'r ffordd orau o geisio bod mor barod ag y gallwn fod, ac i wneud yr hyn allwn ni i helpu lliniaru risgiau gwaethaf Brexit yw'r union fath o waith partneriaeth y cyfeiriodd ato yn ei gwestiwn.