Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:41 pm ar 23 Ionawr 2019.
Rwy'n credu fy mod yn cymryd hynny fel pleidlais o hyder yng ngallu Cyfoeth Naturiol Cymru i fynd i'r afael â'r pryderon yn y llythyr a gyflwynwyd gan 10—a chredaf fod hwnnw’n nifer digynsail—o broseswyr yma yng Nghymru.
Pwynt arall a godwyd yw bod llawer o bwyslais yn yr ymateb heddiw, yn amlwg, ar ymchwiliad annibynnol Grant Thornton sy’n edrych ar rai o'r materion a nodwyd yn hanesyddol mewn perthynas â Cyfoeth Naturiol Cymru. Dywedir wrthyf nad yw Grant Thornton wedi ymgysylltu â llawer o'r proseswyr hyn, os o gwbl yn wir, o ran gwrando ar eu safbwyntiau ar y ffordd ymlaen i'r sector coedwigaeth. A allwch gadarnhau heddiw, ac mai dyma a ddealloch chi, mai cylch gorchwyl Grant Thornton oedd dadansoddi perfformiad y sector, ond, yn bwysig, ymgysylltu â rhanddeiliaid, megis y proseswyr, ac, os nad yw hynny wedi digwydd, y byddwch yn cyfarwyddo Cyfoeth Naturiol Cymru i ddychwelyd at y proseswyr a chael eu mewnbwn ar unrhyw argymhellion a allai godi o'r adroddiad annibynnol hwn?