Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:42 pm ar 23 Ionawr 2019.
Ceir nifer o bwyntiau yn y cwestiwn hwnnw. Mae 10 o broseswyr wedi rhoi eu henwau ar y llythyr hwnnw. Rwyf hefyd wedi gofyn i Cyfoeth Naturiol Cymru edrych ar y berthynas rhwng y 10 cwmni hwnnw a Cyfoeth Naturiol Cymru wrthi i'r contractau ddod gerbron.
Ar hyn o bryd, ni allaf ddweud air am air beth oedd y cylch gorchwyl, ond yn sicr, roedd yn bwysig iawn, a chefais sicrwydd fod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi gweithio mewn ffordd agored a thryloyw iawn gyda Grant Thornton, a buaswn wedi dychmygu bod—. Rwyf wedi dweud yn glir iawn na ddylai fod lle i unrhyw afreoleidd-dra. Felly, buaswn yn disgwyl i Grant Thornton, yn amlwg, gysylltu wedyn gyda phroseswyr i gael eu barn.
A'r sicrwydd arall y gallaf ei roi i chi, gan ddychwelyd at eich cwestiwn cyntaf, yw bod newid wedi bod o ran staff coedwigaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, a chredaf y bydd hynny, unwaith eto, yn cryfhau pethau yn y dyfodol.