Lleihau Llygredd Aer

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:56 pm ar 23 Ionawr 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Melding David Melding Conservative 1:56, 23 Ionawr 2019

(Cyfieithwyd)

Weinidog, a ydych yn croesawu penderfyniad diweddar Llywodraeth y DU i ymrwymo i safonau ansawdd aer sy'n seiliedig ar argymhellion Sefydliad Iechyd y Byd, sy'n llawer llymach nag argymhellion yr UE, ac yn wir, i ymrwymo i leihau nifer y bobl sy'n byw mewn ardaloedd sy'n mynd yn groes i ganllawiau Sefydliad Iechyd y Byd a haneru'r nifer, o leiaf, erbyn 2025? Rwy'n deall bod Llywodraeth y DU ar fin cyhoeddi ei hadroddiad ei hun ar dargedau newydd y gellir eu gosod ar ddata a fyddai'n ein tywys drwy ganllawiau Sefydliad Iechyd y Byd ac yn sicrhau bod y trylwyredd hwnnw i'w weld mewn polisi cyhoeddus. A yw hwnnw'n llwybr yr ydych yn debygol o'i ddilyn yng Nghymru?