Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:55 pm ar 23 Ionawr 2019.
Diolch. Cytunaf â phopeth a ddywedodd John Griffiths ynghylch canfyddiad pobl o'u hamgylchedd. Mae gennym strategaeth goetiroedd, 'Coetiroedd i Gymru', sy'n nodi ein gweledigaeth ar gyfer creu coedwigoedd a choetiroedd yng Nghymru. Mae ein polisi yn parhau i fod yn glir iawn ein bod yn amlwg am weld mwy o goetiroedd yn cael eu creu. Fe fyddwch yn gwybod bod y Prif Weinidog, yn ei faniffesto, wedi dweud ei fod yn awyddus i weld coedwig genedlaethol, ac unwaith eto, rwyf wedi cael trafodaethau cynnar gydag ef ynglŷn â sut i fwrw ymlaen â hynny.
Credaf ei bod hefyd yn bwysig iawn ein bod yn adeiladu ar ein polisi adnoddau naturiol. Mae hynny'n cynnwys cefnogi datblygiad rhwydweithiau ecolegol cadarn fel y gallwn gynnal a gwella ecosystemau Cymru mewn coetiroedd sydd wedi'u lleoli mewn mannau da iawn. Ac yn amlwg, mae ardaloedd trefol yn bwysig iawn hefyd.