Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:46 pm ar 23 Ionawr 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 1:46, 23 Ionawr 2019

Dwi'n ei ffeindio hi'n ddiddorol eich bod chi'n dweud nad yw eich cynlluniau chi o safbwynt ynni adnewyddadwy ddim wedi cael eu heffeithio gan y penderfyniad yma. Dyna'n union ddylai fod wedi digwydd yn fy marn i. Hynny yw, nawr mae angen dyblu ymdrechion yn y maes yma er mwyn gwireddu'r potensial sydd gennym ni. Yn ei faniffesto i fod yn arweinydd y Blaid Lafur yng Nghymru, fe wnaeth Mark Drakeford, wrth gwrs, ymrwymo i greu corff—neu i edrych ar greu corff—cydfuddiannol newydd, Ynni Cymru, a fydd yn hybu cynhyrchu ynni yn lleol ac yn cynghori ar fuddsoddi strategol mewn ynni, ymysg amcanion eraill. Allwch chi roi diweddariad inni o safbwynt ble rŷm ni arni ar wireddu hynny? Ac yn sgil y newyddion, wrth gwrs, ynglŷn ag Wylfa, a wnewch chi hefyd ymrwymo i leoli Ynni Cymru ar ein hynys ynni ni, wrth gwrs, sef Ynys Môn?