Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:45 pm ar 23 Ionawr 2019.
Yn amlwg, rydym yn siomedig iawn o glywed bod y gwaith o ddatblygu Wylfa Newydd wedi'i atal, ac yn amlwg, atebodd Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth y cwestiwn brys gan eich cyd-Aelod, Rhun, yn fanwl iawn ddoe. Er bod ynni niwclear, wrth gwrs, yn rhan o'r cymysgedd ynni, yn sicr nid wyf yn ei ystyried yn ynni adnewyddadwy. Mae'n ynni carbon isel, ond nid yw hyn wedi effeithio ar fy ymrwymiad i gyflwyno mwy o ynni adnewyddadwy. Rwy'n hoff iawn o bob math o ynni adnewyddadwy.
Yr wythnos hon, cefais gyfarfod da iawn ddydd Llun ynglŷn ag araeau llanw, gan y credaf fod llawer o gyfleoedd ynghlwm wrth hynny. Felly, yr wythnos nesaf, byddwn yn cynnal uwchgynhadledd ynni'r môr yn Abertawe, a bydd y Prif Weinidog yn siarad ynddi. Credaf fod hynny'n dangos ein hymrwymiad i ynni adnewyddadwy, ac rwy'n sicr yn edrych ar ffyrdd o ddod â rhagor o brosiectau ynni adnewyddadwy i Gymru.