Lleihau Llygredd Aer

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:57 pm ar 23 Ionawr 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Lloyd David Lloyd Plaid Cymru 1:57, 23 Ionawr 2019

(Cyfieithwyd)

O ran mynd i'r afael â'r heriau llygredd aer ym Mhort Talbot, mae'n amlwg fod angen gweithredu mewn nifer o feysydd, gan gynnwys hyrwyddo'r defnydd o drafnidiaeth gyhoeddus. Felly, sut y mae eich Llywodraeth yn cysoni'r uchelgais hwnnw â'r ffaith eich bod wedi torri lefel y cyllid ar gyfer cymorthdaliadau bysiau i awdurdodau lleol dros y blynyddoedd diwethaf?