Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:57 pm ar 23 Ionawr 2019.
Wel, yn amlwg, mae ansawdd yr aer ym Mhort Talbot yn rhywbeth rwy'n cadw llygad barcud arno. Mae'n parhau i fod yn flaenoriaeth inni ac rydym yn gweithio gyda'r awdurdod lleol i weld sut y gallwn wella a deall y problemau yn yr ardal yn well. Ac yn amlwg, bydd yn rhaid iddynt ystyried hynny fel rhan o'u cynllun i leihau lefelau llygredd aer.