Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:44 pm ar 23 Ionawr 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 1:44, 23 Ionawr 2019

Diolch, Llywydd. Gan fod y cyhoeddiad, wrth gwrs, am oedi Wylfa Newydd yn tanlinellu pa mor broblemus yw datblygu cenhedlaeth newydd o orsafoedd niwclear, mae yna beryg nawr, wrth gwrs, ein bod ni'n ffeindio ein hunain yn oedi ac yn aros, o bosib, am flynyddoedd i rywbeth ddigwydd, a does neb eisiau gweld yr ynys nac yn wir, ogledd Cymru'n ehangach mewn cyflwr o limbo o bosib o ganlyniad i hynny. Felly, onid nawr yw'r amser i chi, fel Gweinidog, ac i Lywodraeth Cymru gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig sbarduno cynnydd sylweddol yn y buddsoddiad mewn ynni adnewyddadwy fel modd i wireddu'n llawn y potensial aruthrol, wrth gwrs, sydd gennym ni fan hyn yng Nghymru yn y cyd-destun hynny, a thrwy wneud hynny hefyd, wrth gwrs, helpu i gryfhau'r economi ac i gyfrannu datrysiadau cyflymach a rhatach i anghenion ynni a newid hinsawdd yma yng Nghymru?