Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:52 pm ar 23 Ionawr 2019.
Na, nid wyf am ddilyn esiampl Lloegr. Rwyf wedi diystyru difa moch daear yn y modd y mae Lloegr yn ei wneud ers y diwrnod y cefais y portffolio hwn, yn dilyn trafodaethau manwl iawn gyda'r prif swyddog milfeddygol. Credaf hefyd ei bod yn iawn inni dynnu sylw at y ffaith bod 94.6 y cant o fuchesi heb TB ar ddiwedd mis Hydref 2018.