Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:51 pm ar 23 Ionawr 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Neil Hamilton Mr Neil Hamilton UKIP 1:51, 23 Ionawr 2019

(Cyfieithwyd)

Mae'n syndod clywed hynny, ond dyna ni. Mae canlyniadau'r broses bedair blynedd o ddifa moch daear a drwyddedwyd yn Lloegr wedi eu cyhoeddi'n ddiweddar, ac o ganlyniad, mae Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig yn ei hymestyn bellach i 10 ardal arall yn Lloegr. Mae'r canlyniadau agosaf atom yn ne-orllewin Lloegr, yn swydd Gaerloyw—mae nifer yr achosion o TB mewn bywyd gwyllt wedi gostwng o 10.4 y cant i 5.6 y cant, ac yng Ngwlad yr Haf, o 24 y cant i 12 y cant. Felly, ymddengys bod hwn yn ostyngiad o 50 y cant i gyd. Nawr, mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi dweud bod cynnydd Lloegr yn gwneud i strategaeth Cymru edrych yn wan, o ystyried bod gennych gynllun ar y silff, fel petai, yn barod i gael ei roi ar waith pe baech yn rhoi caniatâd i ymestyn difa moch daear, a fyddai, wrth gwrs, yn bolisi lles anifeiliaid ar gyfer moch daear yn ogystal ag ar gyfer gwartheg, gan fod TB yn glefyd ofnadwy, pa fath bynnag o anifail sy'n dioddef ohono. Felly, does bosibl nad yw hi bellach yn bryd ystyried dilyn esiampl Lloegr, yn yr achos penodol hwn o leiaf.