Lleihau Llygredd Aer

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:54 pm ar 23 Ionawr 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of John Griffiths John Griffiths Labour 1:54, 23 Ionawr 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch am hynny, Weinidog. Tybed a allwch ddweud mwy ynglŷn â pholisi Llywodraeth Cymru ar wyrddu canol ein hardaloedd trefol, boed hynny drwy blannu coed, megis perllannau cymunedol, neu fesurau gwyrddu eraill. Ymddengys i mi y bydd hynny, yn rhannol, yn effeithio'n uniongyrchol ar ansawdd aer ac yn gwella ansawdd yr aer, ond mae'n bwysig iawn ein bod yn cysylltu ein pobl yng Nghymru yn fwy uniongyrchol â natur. Mae llawer o'r hyn yr hoffem ei weld yn digwydd yn ymwneud â newid ymddygiad, ac yn fy marn i, os oes gan bobl amgylcheddau lleol o ansawdd, maent yn tyfu'n fwy ymwybodol o faterion amgylcheddol, boed drwy leihau eu defnydd o'r car a newid i system drafnidiaeth fwy integredig, neu drwy gefnogi ystod o fesurau amgylcheddol blaengar eraill y mae Llywodraeth Cymru wedi eu rhoi ar waith ac y bydd yn eu rhoi ar waith yn y dyfodol. Felly, i ba raddau y byddwch yn gweithredu ar yr agenda honno, Weinidog, o fynd i'r afael â'r materion amgylcheddol hynny yng nghanol ardaloedd trefol.