Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:13 pm ar 23 Ionawr 2019.
Diolch am eich ateb, Weinidog. Yn gynharach y mis hwn, roeddwn yn falch iawn o fynd ag Andrew R.T. Davies yn rhinwedd ei swydd fel eich llefarydd cysgodol i un o fy hoff lefydd yn fy etholaeth i, ac yn ein cyfarfod yng nghanolfan fabwysiadu Cats Protection Pen-y-bont ar Ogwr, unwaith eto cododd mater landlordiaid a chartrefi preswyl nad ydynt yn derbyn anifeiliaid anwes. Nawr, yn amlwg, gwyddoch fod honno'n broblem wirioneddol o ran llesiant, yn enwedig llesiant pobl hŷn, yn ogystal â lles yr anifeiliaid eu hunain. Yr haf diwethaf, fe ddywedoch chi wrthyf fod hwn yn fater pwysig, yn rhywbeth y mae angen i Lywodraeth Cymru ei ystyried, ac y byddech yn sicrhau y byddech yn dechrau cael trafodaethau ynglŷn â hyn. Mae chwe mis wedi bod ers hynny, a tybed a ydych mewn sefyllfa i roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni am y sgyrsiau hynny.